Ymchwil ar anifeiliaid anwes cydymaith robotig i roi hwb i flwyddyn newydd o ddarlithoedd Sgyrsiau Wrecsam
Dyddiad: Dydd Mawrth Hydref 10
Defnyddio anifeiliaid anwes cydymaith robotig ar gyfer pobl â dementia fydd testun y sgwrs gyntaf i roi hwb i'r gyfres darlithoedd cyhoeddus ym Mhrifysgol Wrecsam eleni.
Arweinwyd yr astudiaeth gan Dr Joanne Pike, Deon Cyswllt Dros Dro ym Mhrifysgol Wrecsam / Prifysgol Wrecsam. a oedd yn archwilio effeithiau cath robot i bobl â dementia, sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain.
Fel rhan o'r astudiaeth, ymchwiliodd y tîm Ymchwil i gathod robotig a'r dylanwad a gawsant ar les pobl.
Cynhelir y sgwrs ar gampws y brifysgol yn Wrecsam ddydd Mercher 25 Hydref gan ddechrau am 6yh, yn rhad ac am ddim i'w mynychu, gan drafod canfyddiadau'r ymchwil ac yn gofyn cwestiynau am ddatblygu robotiaid ar gyfer cefnogi pobl sy’n byw yn ei cartrefi eu hunain ac mewn gofal.
Meddai Dr Pike: "Rwy'n falch iawn o fod y siaradwr cyntaf ar gyfer cyfres darlithoedd cyhoeddus eleni – Wrexham Talks Research, lle byddaf yn trafod ein hastudiaeth ar gathod robot a pha effaith a gawsant ar bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.
“Er mai astudiaeth gymharol fach oedd hon - gyda dim ond 12 cyfranogwr, gwelsom fod y cathod robot wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl â dementia, yn cael effaith dawelu, yn ogystal ag annog sgwrs.
"Rwy'n edrych ymlaen at rannu themâu a chanfyddiadau ein hastudiaeth, a fydd, gobeithio, yn sbarduno rhai cwestiynau a diddordeb gwych gan fynychwyr."
Sgwrs Dr Pike fydd y cyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus y flwyddyn academaidd hon – Wrexham Talks Research, cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus am ddim a gyflwynir gan academyddion Prifysgol Wrecsam, sy'n agored i bawb.
Bydd y darlithoedd hyn yn arddangos ymchwil y sefydliad, a gaiff ei gyfleu mewn ffordd hygyrch.
Mae sgyrsiau eraill a gynhelir drwy gydol y flwyddyn academaidd, fel rhan o'r gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus, yn cynnwys:
- 'Gyriant Trydanol Awyrennau: Taith y ddynoliaeth tuag at Sero-Net' – cyflwynir gan Dr Rob Bolam, Darllenydd mewn Peirianneg Awyrennol, a gynhelir ddydd Mercher 6 Rhagfyr
- 'Artistiaid sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd ar faterion amgylcheddol a chymdeithasol a pham mae'n bwysig' – cyflwynir gan yr Athro Alec Shepley, Deon Cyswllt Ymchwil yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a gynhelir ddydd Mawrth 16 Ionawr, 2024
- 'Mae'n iach, mae'n dda i'r amgylchedd, gall fod yn hwyl ond nid ydym yno eto: Gweithredu teithio llesol ar gyfer iechyd y cyhoedd' – cyflwynir gan Dr Chris White, Darlithydd Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles, ddydd Mercher 28 Chwefror, 2024
- 'Cymorth gwybyddol: Rheoli straen gan ddefnyddio cŵn therapi ymhlith myfyrwyr prifysgol' – cyflwynir gan Dr Shubha Sreenivas, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg (Biolegol), a gynhelir ddydd Mawrth 23 Ebrill, 2024
- 'Ar yr heriau o orfodi'r gwaharddiad ar hela llwynogod' – a gyflwynwyd gan yr Athro Iolo Madoc-Jones, Athro Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithasol, a gynhelir ddydd Mercher 5 Mehefin, 2024
Ychwanegodd Frances Thomason, Pennaeth Gwasanaethau Ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam: "Fel tîm Ymchwil, rydym yn hynod falch o gyhoeddi amserlen y flwyddyn academaidd hon o ddarlithoedd cyhoeddus, lle bydd mynychwyr yn clywed popeth am yr ymchwil arloesol y mae ein hacademyddion uchel eu parch yn arwain arni, yn ogystal â chael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
"Mae darlith Dr Joanne Pike ar ei hymchwil ar anifeiliaid anwes cydymaith robot ar gyfer pobl â dementia yn ffordd wych o gychwyn y gyfres newydd. Dewch draw i wrando drosoch eich hun."
Mae rhagor o wybodaeth am y gyfres darlithoedd cyhoeddus am ddim i fynychu Wrexham Talks Research ar gael yma.
Archebwch yma: Eventbrite