Ynad y Goruchaf Lys i draddodi darlith ym Mhrifysgol Wrecsam

Date: Dydd Mercher, Hydref 23, 2024

Bydd y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Lloyd-Jones, un o Ynadon Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, yn traddodi darlith fis nesaf ym Mhrifysgol Wrecsam ar sut y gwneir dyfarniadau, yn enwedig mewn llysoedd apêl.

Yr Arglwydd Lloyd-Jones, sydd yn siarad Cymraeg ac yn dod o Bontypridd, oedd y Cymro cyntaf i gael ei benodi’n Ynad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig – swydd y mae wedi’i dal ers mis Hydref 2017.

Ef hefyd yw Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru, sy'n ystyried materion sy'n ymwneud ag addysg gyfreithiol a datblygiad y proffesiynau cyfreithiol yng Nghymru. 

Yn cael ei chynnal yn Theatr Nick Whitehead yn y Brifysgol ddydd Gwener, Tachwedd 8 gan ddechrau am 2yp, bydd yr Arglwydd Lloyd-Jones yn traddodi darlith o'r enw 'Dyfarniad y Llys'.

Mae'r ddarlith yn cael ei chefnogi gan Fwrsariaeth Cyfraith Cyril Oswald Jones y Brifysgol, a sefydlwyd ar ôl i'r diweddar Francis Glynne-Jones wneud cyfraniad sylweddol i'r sefydliad yn ôl yn 2022, gydag arian a dderbyniwyd gan ei frawd ymadawedig, er cof am ei daid Cyril Oswald Jones, ei dad, Hywel Glynne-Jones, a'i frawd Colin Glynne-Jones, holl gyn-lywyddion Cymdeithas y Gyfraith Caer a Gogledd Cymru. 

Mae'r gronfa yn cael ei defnyddio dros gyfnod o 10 mlynedd i alluogi myfyrwyr dawnus Prifysgol Wrecsam i ddilyn eu huchelgais o yrfa yn y proffesiwn trwy dalu am ffioedd eu cwrs. 

Meddai’r Arglwydd Lloyd-Jones: "Mae'n fraint cael gwahoddiad i roi darlith ym Mhrifysgol Wrecsam, fel rhan o'u cyfres o Ddarlithoedd Cyfraith Cyril Oswald Jones, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fy ymweliad â Phrifysgol Wrecsam." 

Ychwanegodd Dylan Rhys Jones, Pennaeth y Gyfraith ac Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Wrecsam: "Rydym wrth ein bodd y bydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lloyd-Jones yn traddodi darlith, yma yn y Brifysgol.

"Mae gan yr Arglwydd Lloyd-Jones yrfa hirsefydlog yn y proffesiwn cyfreithiol - a hwn oedd y cyfiawnder Cymreig cyntaf i ymuno â rhengoedd y Goruchaf Lys - llys ucha'r DU - nôl yn 2017. Mae'n ysbrydoliaeth i lawer ac rwy'n gwybod y bydd ei sgwrs yn un hynod ddiddorol. 

"Byddwn yn annog unrhyw fyfyrwyr y Gyfraith neu bobl leol sy'n gweithio ym maes y gyfraith i ddod draw, yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y gyfraith."