Yr Arglwydd Carlile yn rhoi sgwrs "fythgofiadwy" gyda myfyrwyr Prifysgol Wrecsam
Dyddiad: Dydd Mawrth Hydref 24
Rhoddodd yr uwch gyfreithiwr a'r Arglwydd Alex Carlile gipolwg ysbrydoledig ar ei fywyd a'i yrfa, tra'n rhoi sgwrs â myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam.
Clywodd myfyrwyr y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Wrecsam am uchafbwyntiau gyrfa'r Arglwydd Carlile a sut y gwnaeth jyglo ei rôl fel bargyfreithiwr, ochr yn ochr â bod yn wleidydd, yn ogystal ag ateb cwestiynau myfyrwyr.
Yn ystod y sesiwn, pwysleisiodd yr Arglwydd Carlile, a aned yn Rhiwabon ger Wrecsam, wrth fyfyrwyr na fyddai gweithio yn y gyfraith yn eu cymunedau eu hunain yn eu gwneud yn llai gwerthfawr fel cyfreithiwr na gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes yn Llundain.
Meddai: "Rwy'n credu bod y camsyniad hwn y bydd gan gyfreithwyr yrfa llawer mwy llwyddiannus a gwerthfawr yn Llundain, er enghraifft - ac mae'n rhaid i mi bwysleisio, nid yw hynny'n wir. Mae llawer i'w ddweud am fod yn gyfreithiwr ac yn arweinydd, a helpu pobl a datrys problemau yn eich cymunedau eich hun.
"Mae rhai Cyfreithwyr hynod lwyddiannus wedi dod o Gymru - dyw peidio bod yn y ddinas fawr ddim wedi eu hatal beth bynnag – gan gynnwys fi, David Lloyd-Jones o Gricieth, Emlyn Hooson o Sir Ddinbych - mi allwn i fynd ymlaen."
Trafododd yr Arglwydd Carlile hefyd sut y gall gweithio yn y gyfraith a gwleidyddiaeth fynd law yn llaw.
"Mae gyrfa yn y gyfraith a gwleidyddiaeth mewn gwirionedd yn gyfuniad ardderchog oherwydd mae yna gryn groesffordd sgiliau, arbenigedd a phriodoleddau - er enghraifft, i fod yn gyfreithiwr, mae angen i chi fod yn ddatryswr problemau gwych ond hefyd fel gwleidydd rydych chi'n ei wneud, gyda llawer o broblemau gan etholwyr yn glanio wrth eich drws," meddai.
"Hefyd, mae cael y sylw hwnnw i fanylion a gallu craffu'n effeithiol hefyd yn allweddol iawn. Mae'r ddwy yrfa wir yn mynd gyda'i gilydd yn dda a byddwn yn annog pobl yn gryf - yn enwedig menywod - i fynd i mewn i wleidyddiaeth. Mae gwleidyddiaeth yn gweiddi am fwy o gynrychiolaeth fenywaidd."
Cyffyrddodd yr Arglwydd Carlile hefyd ar ei amser fel yr adolygydd annibynnol ar ddeddfwriaeth terfysgaeth ac Adolygydd Annibynnol strategaeth PREVENT 2011 y Llywodraeth, yn ogystal â bod yn adolygydd annibynnol ar bolisi Diogelwch Cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon.
Ychwanegodd Dylan Rhys Jones, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglen y Gyfraith: "Diolch yn fawr iawn i'r Arglwydd Carlile am ei sgwrs gyfareddol, goleuo a bythgofiadwy, a sesiwn holi ac ateb gyda'n myfyrwyr y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona.
"Roedd yn anrhydedd mawr ei glywed yn adrodd ei brofiadau, yn ogystal â rhannu ei ddoethineb gyda myfyrwyr. Rydym yn hynod ffodus o gael siaradwyr o'r fath yn ein cefnogi ym Mhrifysgol Wrecsam."