Y Stryd
Lleoliad unigryw ar gyfer arddangosfeydd a rhwydweithio, mae’r Stryd yn ffurfio canolfan naturiol ein safle, yn ymestyn hyd yr adeilad cyfan. Yn llwybr wedi’i oleuo’n naturiol, sy’n cysylltu’r unedau deori ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf â chanolfan dechnoleg yr adeilad, mae’n cynnig lleoliad rhwydweithio unigryw.
Mae ei faint a’i siâp, yn ogystal â’i leoliad yng nghanol yr adeilad, yn ei wneud yn lle perffaith ar gyfer arddangosfeydd o bob maint, gyda digonedd o le i stondinau a standiau arddangos masnach.
Mae hefyd yn lle delfrydol i fynychwyr fwynhau lluniaeth a bwffes i ffwrdd o gyfyngiadau’r ystafell gyfarfod neu gynadledda.