
Ystafell Gynadledda
Mae ein lleoliad mwyaf, yr Ystafell Gynadledda, yn ofod ysgafn ac awyrog gyda lle i hyd at 120 o bobl. Mae'n ddelfrydol ar gyfer cyflwyniadau, gweithdai, symposia a digwyddiadau hybrid.
Mae’r ystafell hon yn hyblyg iawn a gellir ei threfnu mewn sawl ffordd. Mae ardal arddangos y tu allan i’r ystafell, sy’n wych ar gyfer arddangosfeydd a rhwydweithio, ac mae’n lle perffaith ar gyfer gweini lluniaeth wedi’i baratoi gan ein tîm arlwyo mewnol pwrpasol. Mae ystafelloedd ymneilltuo llai wedi’u lleoli gerllaw hefyd.
Mae gan yr ystafell offer clyweledol cwbl integredig, gyda thafluniad ar y wal flaen, yn ogystal â wifi am ddim a mynediad i ddyfais wrando â chymorth a dolen glyw.
Mae’r ystafell hefyd yn cynnwys paentiad gan yr artist enwog a chyn-fyfyriwr Prifysgol Wrecsam, Maurice Cockrill RA (1936 – 2013) yn dwyn yr enw Celtic Bridge, sy’n rhan o’n casgliad celf.