.jpg)
Polisi Preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Prifysgol Wrecsam yn defnyddio eich data personol ac yn ei ddiogelu. Darperir y polisi preifatrwydd yma mewn fformat haenog fel y gallwch glicio drwy’r meysydd penodol a nodir isod.
- Gwybodaeth bwysig a phwy ydym ni (paragraff 1)
- Y mathau o ddata personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi (2)
- Sut mae eich data personol yn cael ei gasglu? (paragraff 3)
- Sut rydym yn defnyddio eich data personol (paragraff 4)
- Datgelu eich data personol (paragraff 5)
- Trosglwyddiadau rhyngwladol (paragraff 6)
- Diogelwch data (paragraff 7)
- Cadw data (paragraff 8)
- Eich hawliau cyfreithiol (paragraff 9)
- Manylion cyswllt (paragraff 10)
- Cwynion (paragraff 11)
- Newidiadau i’r polisi preifatrwydd a’ch dyletswydd i roi gwybod i ni am newidiadau (paragraff 12)
- Dolenni trydydd parti (paragraff 13)
1. Gwybodaeth bwysig a phwy ydym ni
Polisi preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch sut mae Prifysgol Wrecsam yn casglu ac yn defnyddio eich data personol wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon, gan gynnwys unrhyw ddata y gallwch ei ddarparu pan rydych yn cofrestru gyda ni, yn cyflwyno sgwrs fyw, yn mynnu lle ar ddiwrnod agored neu ddigwyddiad, gwneud ymholiad (dros y ffôn, ffurflen ar-lein neu wyneb yn wyneb) neu brynu cynnyrch neu wasanaeth.
Nid yw’r wefan hon ar gyfer plant ac nid ydym yn casglu data sy’n ymwneud â phlant yn fwriadol.
Rheolwr
Prifysgol Wrecsam yw’r rheolwr ac yn gyfrifol am eich data personol (y cyfeirir ati fel “ Y Brifysgol”, “ni”, “ninnau” neu “ein” yn y polisi preifatrwydd hwn).
Rydym wedi penodi swyddog diogelu data (DPO) sy’n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau sy’n berthnasol i’r polisi preifatrwydd hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw ofynion i arddel eich hawliau cyfreithiol (paragraff 9), cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r wybodaeth a roddir yn yr adran manylion cyswllt (paragraff 10).
2. Y mathau o ddata personol rydym yn ei gasglu yn eich cylch chi
Mae data personol yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth ynghylch unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw.
Mae’n bosib y byddwn yn casglu, defnyddio, storio ac yn trosglwyddo gwahanol fathau o ddata personol yn eich cylch rydym wedi ei ddwyn ynghyd fel a ganlyn:
- Data Hunaniaeth: mae’n cynnwys enw cyntaf, cyfenw, unrhyw enwau blaenorol, enw defnyddiwr neu ddull adnabod tebyg, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhywedd.
- Data Cyswllt: mae’n cynnwys cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.
- Data Technegol: mae’n cynnwys cyfeiriad protocol y we (IP), eich data mewngofnodi, math a fersiwn y porwr, gosodiad parth amser a lleoliad, mathau o ategolion porwr a fersiynau, system weithredu a phlatfform, rhif adnabod y ddyfais a thechnoleg arall ar y dyfeisiadau rydych chi’n eu defnyddio i gyrchu’r wefan hon.
- Data Proffil: mae’n cynnwys eich enw defnyddiwr a chyfrinair, y pethau yr ydych yn eu prynu neu eu harchebu, eich diddordebau, eich hoffterau, adborth ac ymatebion i arolygon
- Data Defnyddio: mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut rydych yn rhyngweithio gyda’n gwefan a sut rydych yn ei defnyddio hi, ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
- Data Marchnata a Chyfathrebu: mae’n defnyddio eich dewisiadau wrth dderbyn deunydd marchnata gennym ni a’n partneriaid trydydd parti a’ch hoffterau o ran eich dull cyfathrebu.
Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu data cyfanredol megis data ystadegol neu ddemograffig sydd heb fod yn ddata personol gan nad yw’n datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol (nac yn anuniongyrchol). Er enghraifft, mae'n bosib y byddem yn crynhoi'ch Data Defnyddio er mwyn cyfrifo canran y defnyddwyr sy'n cyrchu nodwedd gwefan benodol er mwyn dadansoddi tueddiadau cyffredinol o ran sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio gyda’n gwefan i helpu gwella’r wefan a’n cynnig o ran gwasanaeth.
3. Sut mae eich data personol yn cael ei gasglu?
Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data gennych chi ac amdanoch chi gan gynnwys drwy:
- Eich rhyngweithiad gyda ni. Gallwch roi eich data personol i ni drwy lenwi ffurflenni ar-lein neu drwy gysylltu â ni drwy’r post, dros y ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol rydych chi’n ei ddarparu pan rydych yn:
- gwneud cais am ein cynnyrch neu ein gwasanaethau;
- creu cyfrif ar ein gwefan;
- tanysgrifio i’n gwasanaeth neu’n cyhoeddiadau;
- gofyn am i farchnata gael ei hanfon atoch chi;
- cymryd rhan mewn cystadleuaeth, digwyddiad hyrwyddo neu arolwg; neu
- yn rhoi adborth i ni neu’n cysylltu â ni.
- Technolegau neu ryngweithiadau awtomatig. Wrth i chi ryngweithio gyda’n gwefan, rydym yn casglu Data Technegol yn awtomatig ynghylch eich offer, gweithredoedd a phatrymau pori. Rydym yn casglu’r data personol hwn gan ddefnyddio cwcis, logiau gweinyddion a thechnolegau tebyg. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn derbyn Data Technegol yn eich cylch chi os ydych chi’n ymweld â gwefannau eraill sy’n defnyddio ein cwcis. Gweler ein polisi cwcis am ragor o fanylion https://wrexham.ac.uk/cy/cookies/
- Ffynonellau trydydd parti neu gyhoeddus sydd ar gael. Byddwn yn derbyn data personol yn eich cylch chi gan amrywiol endidau trydydd parti fel y nodir isod
- Mae Data Technegol yn cael ei gasglu gan y partïon hyn:
- darparwyr dadansoddeg megis Google, Crazyegg a Semrush sydd wedi’u lleoli oddi allan i’r DU a Chatify sydd wedi’i leoli oddi allan i’r DU;
- rhwydweithiau hysbysebu megis Google Ads sydd wedi’i leoli oddi allan i’r DU
- darparwyr chwilio gwybodaeth megis Google sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU a Cludo sydd wedi’i leoli oddi allan i’r DU.
- Mae data Cyswllt, Ariannol a Throsglwyddo yn cael ei gasglu gan ddarparwyr gwasanaethau technegol, talu a darparu:
rhwydweithiau hysbysebu megis
- Google Ads sydd wedi’i leoli oddi allan i’r DU
- Drwy gysylltiadau trydydd parti megis What Uni, Uni Compare, The Student Room, Open Days ac Unifrog, sydd wedi’u lleoli yn y DU.
4. Sut rydym yn defnyddio eich data personol
Y Sail Gyfreithiol
Mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni gael sail gyfreithiol dros gasglu a defnyddio eich data personol. Rydym yn dibynnu ar un neu fwy o’r seiliau cyfreithiol canlynol:
- Gweithredu contract gyda chi: Pan mae angen i ni weithredu'r contract rydym ar fin mynd i mewn iddo neu rydym wedi mynd iddo gyda chi.
- Diddordebau cyfreithiol: Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio eich data personol lle mae’n angenrheidiol er mwyn cynnal ein busnes a dilyn ein diddordebau cyfreithiol. Er enghraifft, er mwyn rhwystro twyll ac i’n galluogi ni i roi’r profiad cwsmer gorau a’r mwyaf diogel i chi. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso effaith bosib arnoch chi a’ch hawliau (boed hynny’n rhai cadarnhaol neu negyddol) cyn yr ydym yn prosesu eich data personol ar gyfer ein diddordebau cyfreithiol. Nid ydym yn defnyddio eich data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae ein diddordebau yn goresgyn yr effaith arnoch chi (oni bai ein bod wedi cael caniatâd gennych chi neu fod gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith).
- Goblygiadau cyfreithiol: Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio eich data personol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio gyda goblygiad cyfreithiol rydym yn atebol iddo. Byddwn yn adnabod y goblygiad cyfreithiol perthnasol pan fyddwn yn dibynnu ar y sail gyfreithiol hon.
- Caniatâd: Rydym yn dibynnu ar ganiatâd dim ond lle rydym wedi derbyn caniatâd gweithredol gennych chi i ddefnyddio eich data personol ar gyfer pwrpas penodol, er enghraifft os ydych chi’n tanysgrifio i gylchlythyr e-bost.
Y dibenion yr ydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer
Rydym wedi nodi isod, ar ffurf tabl, disgrifiad o’r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio amrywiol gategorïau eich data personol, a pha un o’r seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi adnabod beth yw ein diddordebau cyfreithiol lle mae’n briodol.
Diben/Defnydd |
Math o ddata |
Sail gyfreithiol a chyfnod cadw |
Darparu gwybodaeth a deunydd marchnata os ydych chi wedi gwneud ymholiad, wedi mynnu lle mewn digwyddiad neu ar ddiwrnod agored neu wedi cofrestru eich diddordeb yn uniongyrchol neu drwy drydydd parti. |
|
Byddem yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn prosesu ceisiadau, megis ateb ymholiad, eich darparu â gwybodaeth ynghylch digwyddiad fel manylion digwyddiad a diweddariadau neu ddarparu rhagor o fanylion ar gyfer meysydd yr ydych wedi cofrestru eich diddordeb ynddynt.
|
Er mwyn ateb unrhyw ymholiadau a chwestiynau rydych wedi’u holi drwy ein sgwrs fyw |
|
Byddem yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn prosesu ceisiadau megis ateb ymholiad a'ch darparu gydag unrhyw fanylion pellach sy’n berthnasol i’ch ymholiad.
|
Ail-farchnata |
|
Mae’n bosib y byddwn yn arddangos hysbysebion i ddefnyddwyr yn seiliedig ar ymweliadau blaenorol neu ryngweithiadau gyda’n gwefan.
|
Marchnata uniongyrchol
Byddwch yn derbyn cyfathrebiadau marchnata gennym ni os ydych chi wedi gwneud cais am wybodaeth gennym neu wedi prynu nwyddau neu wasanaethau gennym ni ac nad ydych wedi dewis peidio â derbyn y marchnata.
Mae’n bosib y byddwn hefyd yn dadansoddi eich Data Hunaniaeth, Cyswllt, Technegol, Defnydd a Phroffil er mwyn ffurfio barn gyda chynnyrch, gwasanaethau a chynigion a allai fod o ddiddordeb i chi fel ein bod wedyn yn gallu anfon cyfathrebiadau marchnata perthnasol atoch chi.
Marchnata trydydd parti
Byddwn yn sicrhau eich caniatâd penodol cyn y byddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw drydydd parti ar gyfer eu pwrpasau marchnata uniongyrchol eich hun.
Eithrio rhag marchnata
Gallwch ofyn am i gyfathrebiadau marchnata beidio â chael eu hanfon atoch chi ar unrhyw adeg drwy ddilyn y dolenni eithrio o fewn unrhyw gyfathrebiad marchnata a anfonwyd atoch chi neu drwy gysylltu â ni: https://wrexham.ac.uk/contact-us/
Os ydych yn dewis peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata, byddwn yn parhau i dderbyn cyfathrebiadau sy’n gysylltiedig gyda’r gwasanaeth sy’n angenrheidiol at ddibenion gweinyddol neu wasanaeth cwsmer.
Cwcis
Am ragor o wybodaeth ynghylch y cwcis rydym yn eu defnyddio a sut i newid eich dewisiadau cwcis, gweler: https://wrexham.ac.uk/cookies/
5. Datgeliadau o’ch data personol
Mae’n bosib y byddwn yn rhannu eich data personol lle mae’n angenrheidiol gyda’r partïon a nodir isod ar gyfer y dibenion a nodir yn y tabl uchod.
Rydym yn ei gwneud gofyn i bob trydydd parti barchu eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu pwrpas eu hunain ac ond yn caniatáu i brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol gyda’n cyfarwyddiadau.
6. Trosglwyddiadau Rhyngwladol
Mae’n bosib y byddwn yn trosglwyddo eich data personol i ddarparwyr gwasanaeth sy’n rhoi rhai gweithrediadau ar waith ar eich rhan. Gall hyn gynnwys trosglwyddo data personol oddi allan i’r DU i wledydd sydd â chyfreithiau nad ydynt yn darparu’r un lefel o warchod data ag y mae cyfraith y DU.
Pryd bynnag y byddwn yn trosglwyddo eich data personol o’r DU i ddarparwyr gwasanaeth, byddwn yn sicrhau bod lefel debyg o amddiffyniad yn cael ei roi iddo drwy sicrhau bod y nodweddion diogelu yn eu lle:
- Ni fyddwn ond yn trosglwyddo eich data personol i wledydd y mae’r DU yn cydnabod eu bod yn darparu lefel briodol o amddiffyniad ar gyfer data personol.
- Y Cytundeb Trosglwyddo Data Rhyngwladol neu’r Atodiad Trosglwyddo Data Rhyngwladol i gymalau cytundebol arferol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer trosglwyddiadau data rhyngwladol. Er mwyn sicrhau copi o’r nodweddion diogelu hyn cysylltwch â ni yn dpo@wrexham.ac.uk.
7. Diogelwch data
Rydym wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch priodol yn eu lle er mwyn atal eich data personol gael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei gyrchu mewn ffordd nas awdurdodwyd, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, byddwn yn cyfyngu mynediad at eich data personol i’r gweithwyr, asiantaethau, contractwyr ac endidau trydydd parti sydd ag angen gwybod ar sail busnes. Ni fyddant ond yn prosesu eich data personol o dan ein cyfarwyddyd ni ac maent yn ddibynnol ar ddyletswydd cyfrinachedd.
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau yn eu lle er mwyn delio gydag amheuaeth o dor-data a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o doriad lle mae’n ofynnol i ni wneud hynny’n gyfreithiol.
8. Cadw data
Am ba hir fyddwch chi’n defnyddio fy nata personol?
Ni fyddwn ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y mae’n rhesymol o angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion rydym yn ei gasglu ar ei gyfer, gan gynnwys at ddibenion boddhau unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifo neu adrodd. Mae’n bosib y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hirach yn achos cwyn neu os ydym yn credu yn rhesymol bod posiblirwydd o liniaru o safbwynt ein perthynas gyda chi.
Er mwyn penderfynu ar y cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y posibilrwydd o risg neu niwed o ddefnydd anawdurdodedig neu ddatgelu eich data personol, byddwn yn prosesu eich data personol a ph’un a ydym yn gallu cyflawni’r dibenion hynny drwy ffyrdd eraill, a’r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifo neu ofynion eraill perthnasol.
Yn ôl y gyfraith rydym angen cadw gwybodaeth sylfaenol am eich cwsmeriaid (gan gynnwys Data Cyswllt, Hunaniaeth, Ariannol a Throsglwyddo) am saith mlynedd wedi iddynt roi’r gorau i fod yn gwsmeriaid at ddibenion treth.
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data: gweler paragraff 9 isod am wybodaeth bellach.
Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn anonymeiddio eich data personol (fel nad yw bellach yn gallu cael ei gysylltu gyda chi) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, ac yn yr achos yma mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma am gyfnod amhenodol heb eich hysbysu ymhellach.
9. Eich hawliau cyfreithiol
Mae gennych nifer o hawliau dan gyfreithiau diogelu data.
Mae gennych yr hawl i:
- Wneud cais am fynediad at eich data personol (a adwaenir yn gyffredin fel “cais mynediad pwnc”) Mae hyn yn eich galluogi chi i dderbyn copi o’r data personol rydym yn ei ddal ac eich cyfer ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithiol.
- Gwneud cais am gywiro’r data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi chi i gael unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir rydym yn ei ddal ar eich cyfer wedi’i gywiro, er mae’n bosib y byddem angen dilysu cywirdeb y data newydd rydych chi’n ei ddarparu i ni.
- Gofyn am i ddata personol gael ei ddileu mewn rhai amgylchiadau penodol. Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i ni ddileu neu dynnu ymaith unrhyw ddata personol lle nad oes rheswm da ein bod yn parhau i’w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu dynnu ymaith eich data personol pan rydych wedi arfer eich hawl yn llwyddiannus i wrthwynebu i’r prosesu (gweler isod), lle mae’n bosib ein bod wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae'n ofynnol i ni waredu eich data personol er mwyn cydymffurfio gyda chyfraith leol. Nodwch, fodd bynnag nad ydym bob amser yn gallu cydymffurfio gyda’ch cais i waredu am resymau cyfreithiol yr hysbysir chi ohonynt, os ydynt yn berthnasol, ar adeg eich cais.
- Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn ddibynnol ar gais cyfreithiol (neu rai trydydd parti) fel y sail gyfreithio ar gyfer y defnydd penodol hwnnw o’r data (gan gynnwys proffilio yn seiliedig ar sail ein diddordebau cyfreithiol). Mewn rhai achosion, mae’n bosib y byddwn yn dangos bod gennym sail gyfreithiol gymhellol i brosesu eich gwybodaeth sy’n mynd y tu hwnt i’n diddordebau cyfreithiol). Mewn rhai achosion, mae’n bosib y byddwn yn dangos bod gennym sail gyfreithiol gymhellol dros brosesu eich gwybodaeth sy’n mynd y tu hwnt i’ch hawl i wrthwynebu.
- Mae gennych hefyd berffaith ryddid i wrthwynebu prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol ar unrhyw adeg (gweler Eithrio o Farchnata ym mharagraff 4 am fanylion ynghylch sut i wrthwynebu derbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol).
- Gwneud cais am i’ch data personol gael ei drosglwyddo i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn eich darparu chi, neu drydydd parti a ddewiswyd gennych, gyda’ch data personol mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac sy’n gallu cael ei ddarllen gan beiriant. Nodwch fod yr hawl hwn ond yn berthnasol ar gyfer gwybodaeth awtomatig y byddwch chi’n ei darparu caniatâd i’w ddefnyddio neu lle rydym wedi defnyddio’r wybodaeth er mwyn gweithredu contract gyda chi.
- Tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol (gweler y tabl yn adran 4 am fanylion ynghylch pryd rydym yn dibynnu ar eich caniatâd fel y sail gyfreithio ar gyfer defnyddio eich data). Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wneir cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os ydych yn tynnu eich caniatâd yn ôl, mae’n bosib na fyddwn yn gallu darparu rhai mathau o gynnyrch a gwasanaethau i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os mai dyma’r achos ar yr adeg rydych yn tynnu eich caniatâd yn ôl.
Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn am ohirio prosesu data personol o dan un o’r sefyllfaoedd canlynol:
-
- Os ydych chi am i ni sefydlu cywirdeb y data;
- Lle mae ein defnydd o’r data yn anghyfreithlon ond nad ydych chi am i ni ei waredu;
- Lle rydych chi angen i ni ddal y data hyd yn oed os nad ydym ei angen rhagor gan eich bod angen sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu
- Rydych wedi gwrthwynebu ein defnydd o’ch data ond rydym angen dilysu p’un a oes gennym sail gyfreithiol tra phwysig i’w ddefnyddio.
Os hoffech weithredu unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda yn dpo@wrexham.ac.uk.
Nid oes ffi’n daladwy fel arfer
Ni fyddwch angen talu ffi er mwyn cael mynediad at eich data personol (neu i weithredu unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwn yn codi ffi resymol os yw eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadrodd, neu’n ormodol. Neu, gallwn wrthod cydymffurfio gyda’ch cais o dan yr amgylchiadau hyn.
Yr hyn y gallem fod ei angen gennych
Mae’n bosib y byddwn angen gwneud cais am wybodaeth benodol gennych chi er mwyn ein helpu ni i gadarnhau eich hunaniaeth a sicrhau eich hawl i gael mynediad at eich data personol (neu drwy roi un o'ch hawliau eraill ar waith). Mae hyn yn fesur diogelwch er mwyn sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes hawl ganddo ei dderbyn. Mae’n bosib y bydden hefyd yn cysylltu â chi er mwyn holi am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais er mwyn cyflymu ein hymateb.
Cyfyngiad amser er mwyn ymateb
Byddwn yn ceisio ymateb i’r holl geisiadau cyfreithlon o fewn un mis. O bryd i'w gilydd, gallai gymryd mwy na mis os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud sawl cais. Yn yr achos hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn eich diweddaru yn ôl yr angen.
10. Manylion cyswllt
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn neu ynghylch defnyddio eich data personol neu eich bod eisiau gweithredu eich hawliau preifatrwydd, gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:
- Cyfeiriad e-bost: dpo@wrexham.ac.uk
- Cyfeiriad post: Tîm Llywodraethu Gwybodaeth, Prifysgol Wrecsam, Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW.
11. Cwynion
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (OCO), rheoleiddiwr y DU ar gyfer materion diogelu data. Byddem, fodd bynnag, yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio gyda’ch pryderon cyn i chi gysylltu gyda’r ICO felly dylech gysylltu â ni yn y lle cyntaf.
12. Newidiadau i’r polisi preifatrwydd a’ch dyletswydd i roi gwybod i ni am newidiadau
Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd. Cafodd y fersiwn hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 20/03/25.
Mae’n bwysig bod y data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda os yw eich data personol yn newid yn ystod eich perthynas gyda ni, er enghraifft cyfeiriad newydd neu gyfeiriad e-bost.
13. Dolenni trydydd parti
Mae’n bosib y bydd y wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, ategolion a chymwysiadau. Gall glicio ar y dolenni hynny neu alluogi’r cysylltiadau hynny alluogi i unrhyw drydydd parti gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym ni’n rheoli’r gwefannau trydydd parti yma ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan, rydym yn eich annog i ddarllen polisi preifatrwydd pob gwefan rydych chi’n ymweld â hi.