Andrew Crawford
Darlithydd mewn Plismona Proffesiynol
Mae Andy yn dditectif heddlu wedi ymddeol, a fu’n gweithio am 30 o flynyddoedd gyda Heddlu Gogledd Cymru. Gweithiodd fel ditectif llofruddiaethau am 10 mlynedd, gan ymchwilio i bob llofruddiaeth yng Ngogledd Cymru, a hefyd i achosion o herwgydio, lladradau arfog a threisio gan ddieithriaid. Roedd yn arbenigo mewn cyfweld pobl dan amheuaeth a thystion ac roedd hefyd yn hyfforddi swyddogion yr heddlu i fod yn dditectifs.
Pan ymddeolodd Andy fe ymunodd â Phrifysgol Wrecsam fel rhan o’r Tîm Troseddeg a Phlismona, ac mae wedi bod yn rhan o ddatblygu’r radd plismona newydd.
Yn 2019, enillodd Andy ei radd Meistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ac mae’n parhau i ddarlithio ar y radd BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol fel uwch-ddarlithydd. Mae Andy hefyd yn darlithio ar ystod o raglenni gradd yn y brifysgol ac mae’n teimlo’n angerddol dros ddatblygu cysylltiadau gweithio agos ar draws rhaglenni gradd.
Fel rhan o hyn mae Andy wedi bod wrth y llyw gyda’r Diwrnod Safle Trosedd blynyddol sy’n cael ei gynnal ar draws y brifysgol, gyda myfyrwyr niferus o sawl rhaglenni gradd yn cymryd rhan.