Picture of staff member

 

Dechreuodd Chloe ar ei thaith academaidd yn 2011, gan ddechrau ar ei hastudiaethau a chyflawni Gradd mewn Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2014. Ar ôl cwblhau ei rhaglen, sicrhaodd ei swydd yn y GIG, yn benodol yn yr Adran Frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam am dros ddeng mlynedd. 

Drwy gydol ei hamser yn yr Adran Frys, bu Chloe yn gweithio mewn sawl maes megis brysbennu, mân achosion, achosion brys a’r ystafell adfywio. Ymhlith ei meysydd cyfrifoldebau roedd darparu gofal i unigolion o bob oedran, gan gynnwys plant, oedolion a chleifion iechyd meddwl, gan feithrin ystod o sgiliau clinigol acíwt a phrofiadau amhrisiadwy mewn gofal trawma.  

Bu Chloe’n cymryd rhan weithredol o ran datblygiad ei chyfoedion a gweithwyr gofal iechyd brwd. Roedd ei chyfraniadau’n ymestyn i fentora a chefnogi myfyrwyr ac aelodau staff newydd o fewn y lleoliad clinigol. Mae’n angerddol am wella sgiliau myfyrwyr nyrsio, gan geisio eu grymuso i gyflawni eu llawn botensial fel gweithwyr proffesiynol nyrsio tosturiol a hyfedr. 

Llwyddodd Chloe i gael Cymrodoriaeth drwy gyflawni ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu, Addysgu ac Asesu ym maes Addysg Uwch. Ar hyn o bryd, mae’n astudio gradd Feistr mewn Ymarfer Proffesiynol ym maes Iechyd. Yn ogystal, mae Chloe’n cymryd rhan yn y Cwrs Arloesedd a Thechnoleg Drochol, gan ymestyn ymhellach ei gwybodaeth a’i sgiliau. 

Mae ei hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus yn amlwg. Mae wedi cyflawni’r cwrs Arweinyddiaeth Effeithiol Rhaglenni a’r Cwrs Datblygu Cyfleusterau Efelychu AaGIC, sydd ill dau wedi cyfoethogi ei phrofiad a’i hyfedredd yn ei maes. 

I gloi, mae taith unigryw Chloe o fod yn gynorthwyydd gofal iechyd ymroddgar i nyrs staff sgilgar ac, yn olaf, darlithydd nyrsio angerddol yn enghraifft o’i hymroddiad di-dor i’r proffesiwn nyrsio, a’i hymrwymiad i wella gofal cleifion a meithrin talentau nyrsio i’r dyfodol. 

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cofrestru Proffesiynol

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Meeting the needs of patients & families in acute and chronic illness NUR516
Countdown to Numeracy in Nursing NUR 415