Davinia Castano-Garcia
Uwch Ddarlithydd mewn Ôl-gofrestru Nyrsio ac Astudiaethau Perthynol i Iechyd
Mae Davi yn Uwch Ymarferydd Nyrsio ac yn Bresgripsiynydd Annibynnol gyda dros 17 mlynedd o brofiad mewn nyrsio acíwt a llawfeddygol oedolion. Mae ei chefndir eang yn cynnwys profiad yn yr Adran Argyfwng ac ophthamoleg llawfeddygol a chlinigol.
Graddiodd o Brifysgol Valencia (Sbaen). Gweithiodd mewn lleoliadau Damweiniau ac Achosion Brys tan iddi symud dramor i’r DU i ehangu a datblygu ei gyrfa nyrsio, a ddechreuodd fel nyrs staff yn Wrecsam dros 10 mlynedd yn ôl. Cefnogodd ei brwdfrydedd dros opthamoleg ei datblygiad proffesiynol ym mhob un o dri maes yr arbenigedd hwn: lleoliadau cleifion allanol, Uned Achosion Dydd a'r Theatr Ophthalmig.
Mae hi’n canolbwyntio ar ddatblygu rolau arbenigol yn y Tîm Opthalmig, a arweiniodd ati’n cael swydd Ymarferydd Nyrsio Opthalmig a Chwistrellwr Intrafitreal, yn darparu chwistrellau intrafitreal i bobl Gogledd Cymru sy’n byw gyda Dirywiad Macwlaidd sy’n gysylltiedig â Henaint, Retinopathi Diabetig ac Achludiadau Gwythiennau Retinol.
Ar ôl cwblhau’r MSc Uwch Ymarfer Clinigol ym Mhrifysgol Wrecsam, cafodd swydd fel Uwch Ymarferydd Nyrsio ym maes Ophthaomoleg, ac mae hi’n parhau yn y swydd honno ochr yn ochr â’i swydd newydd fel Uwch Ddarlithydd Ôl-gofrestru i Nyrsio ac Astudiaethau Perthynol i Iechyd. Fel uwch ymarferydd nyrsio, mae hi’n rhan o’r Tîm Glawcoma a Retinol. Mae hi’n gyfrifol am asesu, archwilio, diagnosio a gwerthuso cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio ar gyfer gofal eilaidd gan wasanaethau gofal sylfaenol. Mae hi wedi cydweithio gyda Glaucoma UK i gefnogi grwpiau ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr hwn.
Yn ystod ei MSc, datblygodd Davi angerdd dros addysg a datblygu ymarferwyr gofal iechyd eraill. Mae hi wedi cefnogi myfyrwyr drwy gydweithio gyda’r Tîm Ôl-gofrestru ar sail sesiynol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan ddarparu’r Sesiynau Opthalmig ar gyfer Mân Anafiadau, Mân Afiechydon ac Asesiad Clinigol a Rhesymu Diagnostig, modiwlau rhan 2.
Mae ei phwnc traethawd hir wedi sbarduno ei hangerdd dros ymchwil. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys y cydgordiad rhwng triniaeth cleifion glawcoma, dulliau ymgynghori i leihau’r diffyg cydymffurfiaeth â thriniaeth a gwella ansawdd bywydau cleifion, ac amodau opthalmig yn ymwneud â chyflyrau systematig sylfaenol.
Y tu hwnt i’r gwaith, mae Davi yn mwynhau chwaraeon ac yn ymarfer CrossFit, codi pwysau Olympaidd, gymnasteg a rhedeg.
Cymhlethdodau mewn gofal iechyd.
Modelau effeithiol o ymgynghori i wella cydgordiad cleifion â chyflyrau hirdymor.
Cyflyrau llygadol a achoswyd gan amodau systematig sylfaenol.
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
06-2008 | BSc Nyrsio | Prifysgol Valencia |
09-2021 | Rhagnodiad anfeddygol | Prifysgol Wrecsam |
09-2023 | MSc Ymarfer Clinigol Uwch | Prifysgol Wrecsam |
Cymdeithasau Proffesiynol
Cymdeitha | Ariennir gan |
---|---|
Nursing and Midwifery Council | Nyrsio Oedolion - Corff Rheoleiddiol |
Royal College Of Nursing | Aelod |
Cyflogaeth
Cyflogwr | Swydd | Dyddiad |
---|---|---|
Agencia Valenciana de Salud | Nyrs Staff | 07/2008 - 07/2013 |
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr | Nyrs Staff | 08/2014 - 06/2016 |
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr | Prif Nyrs | 07/2016 - 12/2020 |
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr | Ymarferydd Nyrsio Opthalmig | 03/2021 - 01/2024 |
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr | Uwch Ymarferydd Nyrsio | 01/2024 - 01/2025 |
Prifysgol Wrecsam | Uwch Ddarlithydd mewn Ôl-gofrestru Nyrsio ac Astudiaethau Perthynol i Iechyd | 01/2025 - 01/2025 |
Languages
Language | Reading | Writing | Speaking |
---|---|---|---|
English | Full Professional Proficiency | Full Professional Proficiency | Full Professional Proficiency |
Spanish; Castilian | Native / Bilingual Proficiency | Native / Bilingual Proficiency | Native / Bilingual Proficiency |
Datblygu Arweinyddiaeth ac Ymarfer sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth.
Cymhlethdodau Gofal Iechyd mewn ymarfer clinigol.
Traethawd Hir Gradd Feistr.
Asesiad a diagnosis clinigol.