Dr Gareth Carr
Uwch Ddarlithydd mewn Amgylchedd Adeiledig (ADT)

Mae Gareth yn Uwch Ddarlithydd, yn Bensaer Cofrestredig ac yn hanesydd pensaernïol, ac mae wedi dysgu ar raglenni adeiladu AU ers 1998. Mae wedi gweithio yn swyddfeydd dylunio pensaernïol yn y sector cyhoeddus a phreifat yn Ne Cymru ac yn Lerpwl, ac mae'n gyn-fyfyriwr i Coleg Castell-nedd, Athrofa orllewin Morgannwg a Phrifysgol Lerpwl.
Mae Gareth wedi dilyn ei ddiddordebau mewn dylunio a goruwchwylio prosiectau adeiladu a hanes pensaernïol a chymdeithasol yr amgylchedd trefol, ac mae'n cyfrannu at raglenni Rheoli Adeiladu, Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol a Tai o fewn yr Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig.
Yn aelod corfforaethol o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, ymhlith diddordebau academaidd Gareth y mae gwaith Richard Owens, Lerpwl, Pensaer a Syrfëwr (1831-1891) a hanes tai hapfasnachol Fictoraidd. Mae ei ddiddordebau cyffredinol yn cynnwys ysgrifennu straeon byrion, ymarfer Shotokan Karate, chwarae criced a dilyn hynt (a helynt) rygbi Cymru.