Mae Gill wedi bod yn nyrs ers dros 30 mlynedd, gan weithio'n bennaf o fewn arbenigeddau llawfeddygol a theatrau llawdriniaeth.
Mae hi wedi gweithio ar draws y DU ac wedi treulio sawl cyfnod byr dramor.
Mae’r rhain yn cynnwys Boston, UDA, a hefyd Bangladesh, lle bu’n rhan o’r tîm a sefydlodd y rhaglen mewnblaniadau cochlear gyntaf yn y wlad.
Symudodd Gill i addysg uwch yn 2007 ac mae ei phrofiad addysgu yn croesi rhaglenni iechyd a nyrsio ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.
Yn ei hamser hamdden nid yw'n hoffi dim mwy na bod allan ym mhob tywydd, yn mwynhau awyr iach yng nghefn gwlad!