Lesslie Malinga
Darlithydd Rheoli a Busnes Rhyngwladol
Enillodd Lesslie brofiad busnes gwerthfawr yn gweithio yn Luton, Swydd Bedford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, gan weithio i sefydliadau fel amazon.co.uk, PMP Recruitment, Instant Lettings i enwi ond ychydig. Ar ben hynny, mae Lesslie wedi rhedeg ei fusnesau ei hun. Yn eiriolwr brwd dros addysg i bawb, penderfynodd Lesslie deithio yn ôl i fyd addysg, gan ennill gradd mewn Marchnata Busnes, MSc Rheoli Busnes, cymhwyster addysgu TAR (PcET) ac ar hyn o bryd mae'n ymgymryd â Doethuriaeth mewn Marchnata Digidol. Roedd dwyn y profiadau hyn yn golygu y gallai Lesslie gyfuno’r byd academaidd a busnes, gan ei alluogi i ddilyn gyrfa mewn addysg. Mae Lesslie wedi bod yng Ngholeg Glyndŵr ers mis Rhagfyr 2019 fel darlithydd sesiynol i ddechrau, mae bellach yn Ddarlithydd llawn amser mewn Busnes a Rheolaeth Ryngwladol yn ogystal â dirprwy arweinydd ar y rhaglen MSC Rhyngwladol yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru. Mae diddordebau Lesslie yn cynnwys teithio, gwylio digwyddiadau chwaraeon, rhedeg, chwarae pêl-droed, rasio modur, cerddoriaeth, darllen, dysgu a gwylio ffilmiau.