Melissa Hester

Darlithydd mewn Rheolaeth

Picture of staff member

Cwblheais BA mewn Gwyddor Wleidyddiaeth a MBA o Brifysgol Fflorida, yn ogystal â Meistr Rheolaeth Ryngwladol o Ysgol Rheolaeth Fyd-eang Thunderbird yn Nhalaith Arizona. Yn ystod fy astudiaethau, fe wnes i arbenigo mewn: Rheoli, Marchnata Rhyngwladol, Mewnforio/Allforio, Trafodaethau a Rheoli Gweithrediadau.

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi gweithio i gorfforaethau amlwladol a mentrau bach i ganolig, mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, o wasanaethau ariannol i gynhyrchion defnyddwyr; o ofal iechyd i orielau celf. Canolbwyntiodd fy swyddi ar: Reoli, Rheoli Gweithrediadau, Marchnata, Ymchwilio a Dadansoddi’r Farchnad a Chynnwys a Dyluniad Gwefannau.

Rwy’n gweithio tuag at PhD, gan astudio effaith polisi addysg, yn benodol asesiadau, ar ymgysylltiad llafur busnesau a’r effaith ar yr economi ehangach.

Rwy’n mwynhau gweithio gyda’r gymuned ehangach, ymgysylltu â phobl ifanc i gynorthwyo gyda gwella eu cyfleoedd a’u helpu i gyflawni eu potensial.

Diddordebau Ymchwil

Mae gennyf ddiddordeb mewn effeithiau polisi addysg ar sgiliau rheoli busnes a chynhyrchiant a’u heffaith ehangach ar economïau cenedlaethol. 

 

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeithas Swyddogaeth
Chartered Management Institute Aelod
University of Florida Alumni Association Aelod Alumni
Thunderbird School of Global Management Alumni Association Aelod Alumni
American Management Association Aelod
American Marketing Association Aelod Proffesiynol 

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc O/I
The University of Florida Meistr mewn Gweinyddu Busnes Rheoli Busnes, Cyllid, ac  E-Fasnach 1995 -1996
The University of Florida Baglor yn y Celfyddydau mewn Gwyddor Wleidyddol Cynllunio Trefol, Gwleidyddiaeth ac Ecoleg, ac Arweinyddiaeth Wleidyddol

1989  -1992

Thunderbird School of Global Management at Arizona State University Meistr mewn Rheolaeth Ryngwladol Rheolaeth, Marchnata Rhyngwladol, ac Iaith Sbaeneg 1997 -1998

Gweithgareddau Proffesiynol Eraill

Teitl O/I
Series 7 License 1993 - 1995

Diddordebau addysgu

Mae fy mhrif ffocws academaidd mewn addysgu wedi’i wreiddio mewn Rheoli a Marchnata. Gydag Astudiaethau Rheoli, mae myfyrwyr yn cael sgiliau gydol oes sy’n estyn tu hwnt i ddiwydiant ac i mewn i nodau personol. 

-Arweinyddiaeth
-Cyfathrebu Effeithiol
-Datrys Problemau a Meddwl yn Feirniadol
-Cynllunio Strategol

“Cafodd rheolwr medrus bron i ddwywaith yn fwy o effaith ar berfformiad y tîm o’i gymharu â gweithiwr medrus” - Ben Weidmann o Ysgol Harvard Kennedy