Pete Gibbs
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Bu Pete yn gweithio yn y Brifysgol ers mis Awst 2014. Yn wreiddiol roedd yn rhan o’r tîm rheoli interim, yna cymerodd y swydd ar sail barhaol ym mis Gorffennaf 2015.
Mae Pete yn arwain y Gyfadran Adnoddau Dynol sy’n gweithio i gefnogi amcanion strategol y Brifysgol drwy gynnig arweinyddiaeth a chanllaw strategol ar bob math o feysydd i reolwyr a staff. Mae AD yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr yn cynnwys arweiniad, cyngor a chefnogaeth ar bolisïau, recriwtio, cyflogau a thaliadau, perfformiad a datblygiad, cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltiadau â’r gweithwyr ac ymgysylltiad a datblygiad a hyfforddiant sefydliadol.
Daeth Pete i mewn i Addysg Uwch yn 2001, yn ymuno â Phrifysgol Fetropolitan Manceinion fel Pennaeth Cysylltiadau Gweithwyr, gan symud ymlaen i gwmpasu Gwasanaethau Gweithredol AD yn ogystal. Ers mis Awst 2012 a chyn cymryd y swydd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, bu Pete yn gweithio ar amryw o aseiniadau AD interim ar lefel uchel yn y sector mewn nifer o brifysgolion.
Dechreuodd Pete ei yrfa AD yn y sector preifat yn BAE SYSTEMS, i ddechrau yn safle BAE yn Brough, Swydd Efrog, cyn symud ar draws y Penwynion i Sir Gaerhirfryn i’r hyn oedd ar y pryd yn bencadlys yr Adran Awyrennau Milwrol yn Warton yn 1998. Bu’n gweithio mewn amryw o uwch swyddi AD yn BAE cyn gadael y sector preifat am y sector Addysg Uwch.
Yn gymrawd o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), mae gan Pete 30 mlynedd o brofiad AD yn y sector preifat a’r sector Addysg Uwch. Mae’n frwdfrydig am ei broffesiwn ac yn credu fod gan AD ran allweddol i’w chwarae wrth ffurfio dyfodol y Brifysgol yn strategol. Cred fod esblygiad llwyddiannus parhaus y Brifysgol yn dibynnu ar yr holl bobl sy’n gweithio yma. Bydd ef a’i dîm yn parhau i gefnogi rheolwyr i ddangos arweinyddiaeth a rheolaeth ragorol i gael staff sy’n llawn cymhelliant, diddordeb ac yn rhoi sylw i’r cwsmeriaid, ac yn anelu at roi’r profiad cyffredinol gorau posibl i’n myfyrwyr.