Rebekah Taylor
Myfyriwr PhD
Cyflawnodd Rebekah Taylor radd Dosbarth Cyntaf mewn BSc (Anrh) Gwyddor Fforensig yn 2022 ym Mhrifysgol Wrecsam. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethpwyd sawl prosiect ymchwil ar raddfa fach yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar anthropoleg fforensig.
Yn 2023, cwblhaodd Rebekah ei MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg gan ennill gradd Rhagoriaeth, a ffocws yr ymchwil oedd dadansoddi ac adluniad 3D.
Ar hyn o bryd, mae hi wedi ymrestru ar radd MPhill/PhD ymchwil, gan ganolbwyntio unwaith eto ar anthropoleg fforensig 3D.
| Blwyddyn |
Teitl y prosiect |
|---|---|
| 2021 |
A yw llafnau danheddog eiledol yn arwain at golli mwy o’r asgwrn na llafnau â dannedd syth? A beth yw rôl lled yn hyn oll? Canfod sut y mae’r math o lafn a ddefnyddir yn effeithio ar golli màs esgyrn wrth ddatgymalu. |
| 2022 |
Cymharu esgyrn dynol wrth eu mesur a’u hailadeiladu yn y plân ffisegol ac wrth eu mesur a’u hailadeiladu yn y plân rhithwir. Ymchwiliodd i’r defnydd o sganwyr 3D i ailadeiladu gweddillion dynol toredig. |
| 2023 |
Canfod hunaniaeth trwy ddefnyddio 3D i ailadeiladu gweddillion ysgerbydol toredig. Ymchwil Cyfredol. |
Gweithgareddau proffesiynol
| Cymdeitha | Ariennir gan |
|---|---|
| BAFA | Aelod myfyriwr |
| CSFS | Aelod myfyriwr |
Cyflogaeth
| Cyflogwr | Swydd | Hyd/O |
|---|---|---|
| Prifysgol Wrecsam | llysgennad myfyrwyr | 2022 - 2026 |
Addysg
| Sefydliad | Cymhwyster | Pwnc | Hyd/O |
|---|---|---|---|
| Prifysgol Wrecsam | MRes | Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg | 2022 - 2023 |
| Prifysgol Wrecsam | BSc (Hons) | Gwyddoniaeth Fforensig | 2018 - 2022 |
Gweithgareddau Allgymorth
| Title | Description |
|---|---|
| Dysgu | Addysgu gweithdai amrywiol gan gynnwys: Hanesion fforensig Olion bysedd / Dadansoddiad Sgerbwd Adluniad Wyneb Dusting |
| Hwylusydd Cynhadledd | Cyfrannodd at baratoi’r gynhadledd, rhoi trefn ar ddeunyddiau’r mynychwyr a gosod y lleoliad yn barod. Aeth ati i groesawu a thywys y mynychwyr, gan sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gydgysylltu’n ddidrafferth. |
| Archeolegydd dan hyfforddiant | Enillodd wybodaeth sylfaenol am archaeoleg, gan feistroli’r dull priodol o ddefnyddio offer cloddio a chan ennill ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ar y safle. Llwyddodd i gloddio nifer o ffosydd, gan arwain at ddarganfod arteffactau o bwys. |
| Technegydd Labordy Anthropoleg Fforensig | Cynorthwyodd gydag ymchwil fforensig, yn cynnwys dulliau storio arbenigol ar gyfer astudiaethau dadelfennu. Cynorthwyodd i guradu a chynnal casgliad anthropoleg fforensig y brifysgol. |
| Cynorthwyydd Addysgu Gwirfoddol |
Cynorthwyodd i addysgu myfyrwyr, bu’n monitro eu cynnydd a bu’n rheoli’r gwaith o oruchwylio arholiadau’r modiwl Esgyrneg Ddynol. • Cynorthwyodd gyda gweithgareddau cyfarwyddol, paratôdd ddeunyddiau dyrannu ac aeth ati i sicrhau glendid ar ôl gwaith dyrannu ar gyfer y modiwl Patholeg Anatomi ac Ymchwiliad Fforensig i Weddillion Dynol. |