Sara Hilton

Darlithydd Pêl-droed a Hyfforddi Gwyddoniaeth

Picture of staff member

Mae Sara yn Uwch Ddarlithydd ac yn hyfforddwr Trwydded A UEFA sy'n dysgu yn bennaf ar y cwrs gradd BSc (Anrh) Hyfforddi Pêl-droed ac Arbenigwr Perfformiad, lle mae'n canolbwyntio'n bennaf ar hyfforddi, addysg hyfforddwr a datblygu cymuned. Mae Sara wrthi ar hyn o bryd yn cynllunio darpariaeth ôl-radd o fewn pêl-droed ac mae'n arwain ar bob darpariaeth partneriaid o fewn yr adran gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. 

O fewn y Brifysgol, mae Sara yn aelod enwebedig o'r Bwrdd Academaidd ac mae'n cynrychioli'r staff dysgu o fewn trafodaethau a gweithrediadau strategol o fewn y Brifysgol. A hithau'n siarad Cymraeg yn rhugl, mae Sara ynghlwm wrth adain Gymraeg y Tîm Datblygu Academaidd ac mae hefyd yn ymwneud â chynllunio a datblygu'r cwricwlwm o fewn yr Is-bwyllgor Rhaglenni Academaidd. 

Mae Sara yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch a chwblhaodd radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes gan arbenigo mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysgiadol yn 2022. Ar hyn o bryd mae Sara yn archwilio meysydd o ddiddordeb ar gyfer PhD ac mae'n bwriadu dechrau astudio ar gyfer ei doethuriaeth yn 2025. 

O ran profiad cymhwysol, mae Sara wedi ennill llawer iawn o brofiad yn hyfforddi pêl-droed ar bob lefel a'i rôl ddiweddaraf yw fel hyfforddwr cynorthwyol tîm cenedlaethol Merched Cymru o dan 19. Mae Sara yn angerddol dros y gêm a defnyddio chwaraeon/pêl-droed fel cyfrwng i gefnogi'r gymuned a gwahanol grwpiau yn y gymdeithas. 

Prif ddiddordebau dysgu:

  • Addysg Hyfforddwr
  • Gwyddor Hyfforddi ac Addysgeg
  • Merched mewn Chwaraeon
  • Cyfalaf Cymdeithasol
  • Datblygu Cymunedol 
Teitl Pwnc
FAW421 Pêl-droed a Datblygu Cymunedol
FAW419 Cyflwyniad i Wyddoniaeth Perfformiad mewn Pêl-droed (Cwrs Byr)
FAW513 Hyfforddiant Pêl-droed er mwyn Gwella Perfformiad    
FAW608 Hyfforddiant Pêl-droed Uwch a Pherfformiad
FAW409 Y Diwydiant Pêl-droed - Dysgu Seiliedig ar Waith    
FAW407 Hyfforddi Chwaraeon: Ymarfer Corff a Chwaraeon Ysgol (Cwrs Byr)    
FAW408 Cyflwyniad i Fentora Hyfforddiant mewn Pêl-droed (Cwrs Byr)    
FY301 Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
FY302 Astudiaethau Cyd-destunol 
FAW609 Y Diwydiant Pêl-droed: Dysgu Seiliedig ar Waith    
FAW423 Cyflwyniad i Wyddor Gwyddoniaeth mewn Pêl-droed    
FAW417 Cyflwyniad i Bêl-droed Cerdded (Cwrs Byr)    
FAW514 Gwyddor Pêl-droed: Perfformiad Corfforol Chwaraewyr    
FAW303 Pêl-droed: Dechrau hyfforddi    
FAW409 Academi Broffesiynol Hyfforddi Chwaraeon (Cwrs Byr)    
FAW511 Ymarfer Uwch Pêl-droed: Lleoliad Chwaraeon