Picture of staff member

Dechreuodd Teresa weithio gyda’r GIG fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn 2001. Cymhwysodd fel nyrs gofrestredig yn 2006, gan weithio ar gyfer BIPBC mewn sawl swydd wahanol; nyrs staff yn YGC, nyrs gymunedol, nyrs ardal, nyrs cydgysylltu rhyddhau o’r Ysbyty, hwylusydd gofal diwedd oes Macmillan ac yn olaf fel nyrs Arbenigwr Diabetes Band 7 mewn gofal sylfaenol. Dechreuodd weithio ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2018.

Ar y penwythnosau mae Teresa yn hoff o fod allan yn yr awyr agored, yn cerdded yn y mynyddoedd gyda’i chi Labrador, Bailey, ac mae’n redwraig frwd (er nid mor gyflym) ac wedi cwblhau 3 marathon. I ymlacio mae’n hoff o ioga, darllen a gwylio Columbo gyda phaned o goffi cryf.