
Teithiau Campws
Rydym yn deall pa mor bwysig yw cael syniad o fywyd prifysgol cyn gwneud eich penderfyniad mawr. Dyna pam rydym yn cynnig amrywiaeth o deithiau campws wedi eu trefnu i fodloni’ch anghenion.
Ymunwch â ni am Ddiwrnod Agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn cynnig cipolwg manylach ar fywyd ym Mhrifysgol Wrecsam. Dewch i ymuno a ni i gael cipolwg ar ein cyrsiau, gweld ein cyfleusterau, a dysgu pam allai Prifysgol Wrecsam fod y lle perffaith i chi.
Cymerwch olwg ar ein holl ddiwrnodau agored a digwyddiadau
7 Mehefin 2025
Israddedig
15 Awst 2025
Israddedig