
Ymchwil
Ymchwil sy’n trawsnewid.
Mae ymchwil Prifysgol Wrecsam yn canolbwyntio ar effeithio ar ddatblygiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Boed hynny’n lleol neu’n rhyngwladol, ar raddfa fach neu fawr, mae’r pwyslais bob tro ar ddatrys problemau a chyfrannu at anghenion go iawn.

Ymchwil ar-lein
Mae allbynnau cyhoeddedig o’n hymchwil ar gael ar-lein.
“Er mwyn deall pa anghenion hyfforddi sydd eu hangen ar artistiaid sydd yn gweithio ym maes gofal iechyd, mae’n rhaid inni’n gyntaf ddeall sut mae eu hymarfer yn gweithredu yn y lleoliad yma. I wneud hyn, mae fy ymchwil wedi mabwysiadu dulliau ymchwil ansoddol drwy gyfweliadau lled-strwythuredig ac arsylwadau ethnograffig gydag artistiaid yn gweithio yn y maes, gan ddadansoddi’r data wedi hynny drwy theori ag iddi sail gadarn, a dadansoddiad thematig.”
Anthony Jackson
Cynorthwydd Dysgu Graddedig - Hyfforddi a Datblygu yn y Celfyddydau ym maes Iechyd