Yn ddiweddar, roedd Tîm Wrecsam ym Mhrosiect Glowyr Wrecsam a’r Stiwt, yn mynychu arddangosfa ysgogol fel rhan o’u rôl yng Nghanolfan Cyfiawnder y Bobl.

Mae Tryloywder a Chymuned yn edrych ar gyfres o drychinebau a phynciau llosg cyhoeddus dros y ganrif ddiwethaf a’r effeithiau parhaus y maent wedi’u cael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae’n tynnu sylw at y trafferthion y mae pobl wedi’u hwynebu’n aml wrth chwilio am y gwir, am atebolrwydd a thryloywder gan sefydliadau.

Mae’r arddangosfa hefyd yn ystyried deddfwriaeth arfaethedig a elwir yn aml yn Gyfraith Hillsborough, y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd). Byddai’r Bil yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol i awdurdodau cyhoeddus a swyddogion i ymddwyn â thryloywder - bod yn agored, tryloyw a gonest wrth ymdrin â’r cyhoedd.

attendees near the stands at the exhibition

Yn teithio’r DU ar hyn o bryd, mae’r arddangosfa yn gwahodd ymwelwyr i gyfrannu i ymchwil yn edrych ar safbwyntiau’r cyhoedd ar Gyfraith Hillsborough. Mae wedi’i datblygu ar y cyd â chynrychiolwyr o gymunedau sydd wedi dioddef yn sgil y digwyddiadau y sonnir amdanynt.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Canolfan Cyfiawnder y Bobl.

a sketch of a love spoon