.jpg)
Gweithgareddau hyd yma
Ers lansio ym mis Mai 2025, mae gweithgareddau’r Ganolfan Cyfiawnder Pobl ym Mhrifysgol Wrecsam wedi cynnwys:
- Cyflwyniadau yn seminar Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura a Pheirianneg (FACE).
- Darparu sesiynau hyfforddiant gyda Rhwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru (WAHWN), yn canolbwyntio ar werthoedd y Ganolfan Cyfiawnder Pobl, dulliau creadigol a dylunio prosiect i gefnogi cynigion cyllid yn y dyfodol.
- Rydym hefyd wedi cefnogi'r rhaglen hyfforddiant ar gyfer y ganolfan (a gynhelir gan y Rhwydwaith Cyfiawnder Pobl) yn seiliedig ar werthoedd y ganolfan - bydd hyn yn cael ei ddatblygu fel adnodd addysgol.
Gweithgareddau ar y gweill
Mae gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio yn cynnwys...
Dau brosiect newydd:
- Yr Amlen Frown
- Trychindebau Hillsborough a Gresford (yn gysylltiedig â Chyfraith Hillsborough a Lleisiau Pobl yn y Senedd)
-Pot cyllid hyblyg yn galluogi partneriaid y Rhwydwaith Cyfiawnder Pobl i wneud cais am gymorth i gynnal prosiectau ymchwil sy’n canolbwyntio ar gyfiawnder
-Gweithgareddau hyfforddiant a datblygiad pellach
-Sgyrsiau ynghylch dechrau prosiectau gofal ar y cyd