Uned Asesiad B11:
Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Roedd dros 77% o'r allbynnau ymchwil o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol am wreiddioldeb, arwyddocâd, a manyldeb, ac roedd 75% o gynnwys astudiaeth achos effaith yn dangos effeithiau sylweddol o ran eu harwyddocâd a chyrhaeddiad.
Astudiaeth Achos Effaith 1: Memory Tracks
Cefndir
Mae Memory Tracks yn ap ffôn symudol, sydd â'r bwriad o wella llesiant pobl sy'n byw â dementia. Mae'r ap yn hyrwyddo cysylltiad cân-dasg cryf - caiff cân ei chwarae a'i pharu â thasg ddyddiol, fel bwyta swper, neu ymolchi.
Pwy oedd ynghlwm?
Aeth staff adran Gyfrifiadureg Prifysgol Glyndŵr ati i weithio â Chyfarwyddwr Memory Tracks Ltd. a chynrychiolydd o Sefydliad Gofal Pendine Park yng ngogledd Cymru.
Y gwaith
Yn 2018, aeth y tîm i ymweld â chartrefi gofal yng Nghymru er mwyn ymchwilio potensial i ysgogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad. Gwnaethant ragdybio y gall cysylltiad cân-tasg fod o fudd i unigolion â dementia wrth leihau eu teimladau o ddryswch, aflonyddwch a gofid. Hyfforddwyd staff gofal yng Nghartrefi Gofal Pendine i ddefnyddio'r ap ac offer arsylwi, a gwnaethant ddewis cerddoriaeth i gysylltu â thasgau penodol.
Sut cafodd newid ymddygiad ei fesur?
Arsylwodd staff cartrefi gofal newidiadau mewn preswylwyr mewn perthynas â chynhyrfu, falens, trechedd, iechyd corfforol, cof, ac ansawdd bywyd cyffredinol, a chofnodwyd yr arsylwadau gan ddefnyddio mesurau seicometrig a oedd wedi'u dilysu.
Beth oedd yr effaith?
Roedd newid sylweddol yn hapusrwydd cyffredinol y preswylwyr wrth ddefnyddio'r ap Memory Tracks. Roedd gwelliannau o ran galluoedd corfforol a gwybyddol, ac roedd yr ap i'w weld yn helpu rhai preswylwyr i ddatblygu annibyniaeth ar gyfer tasgau penodol, nad oedd yn amlwg cyn hynny.
Adroddodd staff cartrefi gofal bod yr ap wedi gwella rheolaeth rhai tasgau allweddol gyda'r trigolion, ac felly'n caniatáu rhagor o amser i gynnig gofal o ansawdd uwch. Awgrymodd staff y gallai defnyddio'r ap am gyfnod hirach arwain at welliannau iechyd sylweddol a llai o angen am ofal proffesiynol allanol, fel ymweld â meddyg teulu.
Cyfeiriadau at Ymchwil
Memory Tracks: Song-task association in dementia care, a preliminary study.
Astudiaeth Achos Effaith 2: Amseru Nano-eiliad ar gyfer Rhwydwaith Cyflymydd Gronynnau
Cefndir
Cafodd amseru nano-eiliad ei ddyfeisio ar ôl adnabod yr angen am offeryn newydd i fynd i'r afael â phroblemau traffig rhwydwaith ac ymddygiad rhwydwaith yn y sefyllfa waethaf posib.
Pwy oedd ynghlwm?
Aeth staff Cyfrifiadureg Prifysgol Glyndŵr ati i gydweithio â'r Ganolfan GSI-Helmholtz ar gyfer Ymchwil Ïon Dwys yn yr Almaen, sy'n cynnal cyflymydd gronynnau ar gyfer ymchwilwyr mewn 50 gwlad.
Y gwaith
Cyfrannodd tîm Cyfrifiadureg Glyndŵr at y gwaith o ddatrys y broblem o gyflawni rheolaeth o systemau mawr, amser real. Gwnaethant helpu i ddatblygu system amseru a fyddai'n galluogi cyfleuster ymchwil GSI i weithredu o fewn gwarantau perfformiad penderfynedig, ac yn y pen draw, arwain at ddatblygu pensaernïaeth uned feistr a system gydamseru newydd o'r enw'r Data Master.
Beth oedd yr effaith?
Cyfrannodd yr ymchwil at ddatblygu cyfleuster newydd ar y campws GSI (Cyfleuster ar gyfer Ymchwil Ïon a Gwrthbroton yn Ewrop). Bydd y cyfleuster yn cynnig offer amlbwrpas newydd ar gyfer ymchwilio gyda chyflymyddion gronynnau a bydd yn cynnwys y system amseru nano-eiliad Data Master newydd.
Cyfeiriadau at Ymchwil
Managing the Bursty Nature of Packet Traffic using the BPTraSha Algorithm
A Survey of Performance Evaluation and Control for Self-Similar Network Traffic
Open borders for system-on-a-chip buses: A wire format for connecting large physics controls
New developments on the fair data master (Proceedings Volume pp. 207-209)