Children's nursing student

Astudiwch Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam

Dechreuwch eich Gyrfa Gofal Iechyd ym  Mhrifysgol Wrecsam gyda Hyfforddiant a Ariennir gan GIG Cymru*

Yn ystyried gyrfa sydd wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth? Nawr yw’r adeg berffaith i gymryd y cam hwnnw.

Gwnewch gais erbyn 23 Chwefror 2026 ar gyfer lleoedd Nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl yn dechrau ym mis Mawrth 2026.

*Mae telerau ac amodau yn berthnasol

Gwnewch gais am Nyrsio Oedolion Gwnewch gais am Nyrsio Iechyd Meddwl

Students using Wrexham university healthcare ward facilities

Cyfleusterau gofal iechyd o’r radd flaenaf

Mae ein hymrwymiad i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol yn dechrau gyda’n cyfleusterau efelychu anhygoel.

Archwiliwch Mwy

Lle mae nyrsys sy’n ennill gwobrau yn dechrau eu taith

Yn gartref i Fyfyriwr Nyrsio’r flwyddyn 2025 RCN Cymru

Darllenwch Mwy
Natalie - nursing student

Natalie Chisholm

BN (Anrh) Nyrsio Oedolion
“Fe wnes i ymweld â champysau Wrecsam a Llanelwy ar ddiwrnodau agored a chefais fy synnu gan ba mor dda yw'r cyfleusterau ar gyfer y cwrs. Mae'r cwrs yn gymysgedd gwych o sesiynau academaidd ac ymarferol. Mae gennym lawer o ddiwrnodau 'sgiliau' felly rydyn ni'n cael bod yn ymarferol a dysgu mwy am y maes.”

A wyddoch  chi?

Drwy astudio gradd Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam, cewch fynediad i fuddion unigryw wedi’i llunio i’ch helpu i lwyddo…

Dull sy’n Canolbwyntio ar Fyfyrwyr

Mae ein graddau Nyrsio wedi’u creu o amgylch eich anghenion chi, a dyna pam yr ydym yn falch o fod y gorau yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr*

Ansawdd Addysgu Arbennig

Mae ein graddau Nyrsio ymhlith y gorau yng Nghymru ac yn y 10 uchaf yn y DU ar gyfer Ansawdd Dysgu*, gan sicrhau eich bod yn derbyn y profiad dysgu gorau i’ch paratoi ar gyfer ymarfer.

Canolbwyntio ar Gyflogadwyedd

Yn gydradd 1af yn y DU ar gyfer Cyfleoedd i Raddedigion*, mae’r cyrsiau hyn yn rhoi’r profiadau ymarferol a’r sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr i chi.

Diwrnodau Agored sydd ar ddod.

Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored sydd i ddod i gwrdd â'ch darlithwyr, darganfyddwch fwy am ein cyrsiau, darganfyddwch ein cyfleusterau a chael blas ar fywyd myfyriwr.

Porwch ein holl ddiwrnodau agored a digwyddiadau.

14 Ionawr 2026

Israddedig
  
Nyrsio / Llanelwy
Archebwch Nawr

21 Mawrth 2026

Israddedig
Archebwch Nawr