Array of mock body parts for medical study

Cyfleusterau gofal iechyd o’r radd flaenaf

Mae ein hymrwymiad i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol yn dechrau gyda’n cyfleusterau efelychu anhygoel. Mae ein myfyrwyr yn elwa ar brofiad ymarferol mewn amgylchedd sy’n debyg i’r byd go iawn, gan sicrhau y cânt eu paratoi ar gyfer yr heriau a ddaw i’w rhan yn eu gyrfaoedd.

A student inspecting a medical dummy

Yr hyn a gynigiwn

Yn ein canolfan efelychu gofal iechyd ceir ystafell archwilio bwrpasol a thechnoleg sain/gweledol uwch sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol hyfforddedig i fonitro eich gwaith. Rydym yn meddu ar yr holl adnoddau i’ch galluogi i fynd ar siwrnai academaidd lwyddiannus a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa.

Cymerwch gipolwg

Camwch i ddyfodol addysg gofal iechyd gyda’n cyfarpar addysgu arloesol. Mae ein horiel ddelweddau’n dangos pa mor ardderchog yw cyfleusterau gofal iechyd ein prifysgol, lle ceir cyfarpar o’r radd flaenaf a all droi dysgu yn brofiad dynamig ac ymgollol.