
Diwrnod Deiliad Cynnig
Beth yw diwrnod deiliad cynnig?
Mae ein diwrnod deiliad cynnig ar gyfer myfyrwyr sy'n cael cynnig gyda ni ac yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am y cwrs rydych wedi gwneud cais amdano a'r brifysgol.
Beth sy'n digwydd ar ddiwrnod deiliad cynnig ?
Ar y diwrnod, bydd cyfle i chi dreulio amser yn yr adran academaidd o'ch dewis lle gallwch gwrdd ag academyddion, staff a myfyrwyr presennol. Byddwch hefyd yn gallu cymryd rhan mewn darlithoedd a chyflwyniadau byr i gael teimlad o fywyd cwrs yn PW.
Os nad ydych wedi bod i'r brifysgol o'r blaen neu os hoffech gymryd golwg arall o gwmpas, bydd teithiau campws ar gael hefyd, a gallwch ymweld â'n llety ar y campws.
Sut i gyrraedd yma
Lleolir prif gampws Prifysgol Wrecsam ar ymyl canol tref Wrecsam. Rydym ychydig funudau o daith gerdded o orsaf drenau gyffredinol Wrecsam a 10 munud o brif orsaf fysiau Wrecsam. Ein cyfeiriad a'n cod post yw:
Prifysgol Wrecsam
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW
Sut i gadw lle
Trwy wahoddiad yn unig yw dyddiau deiliad cynnig. Os ydych chi wedi gwneud cais am gwrs israddedig ym Mhrifysgol Wrecsam, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i'ch gwahodd i ddigwyddiad.