.jpg)
Cofrestr Buddiannau
Er mwyn sicrhau cynnal busnes cyhoeddus yn briodol ac yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’n ofynnol i Sefydliadau gynnal cofrestr buddiannau holl aelodau Tîm Gweithredol yr Is-ganghellor a sicrhau bod y gofrestr ar gael i’r cyhoedd ei gweld.
Yn flynyddol gwahoddir aelodau Tîm Gweithredol yr Is-ganghellor i ddatgan unrhyw fuddiannau a allai wrthdaro gyda buddiannau’r Brifysgol neu y dymunant eu datgan. Mae’r gofrestr hon yn cynnwys datganiadau a dderbyniwyd hyd at Medi 2024.