Ym Mhrifysgol Wrecsam, ein gweledigaeth yw bod yn brifysgol ddinesig fodern sy’n arwain y byd, yn ymwneud yn rhanbarthol ac yn fyd-eang, gan gyflwyno sgiliau ac ymchwil effeithiol sy’n ysgogi twf economaidd ac arloesedd er lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, rydym yn canolbwyntio ar dair prif thema: ein Profiad a Chyfleoedd Myfyrwyr, ein Pobl, Lleoedd a Phartneriaethau, ac ein Hymchwil a’n Menter

Ein Profiad a Chyfleoedd Myfyrwyr

Ein nod yw cael ein cydnabod am ddarparu profiad rhagorol ac ysbrydoledig i bob myfyriwr, profiad sydd yn galluogi pob myfyriwr i ddod yn raddedigion cyflogadwy hyderus sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas

  • Profiad addysgu a dysgu rhagorol sy'n dosturiol, cynhwysol ac yn cefnogi lles, hyder a chyflawniad myfyrwyr.
  • Cwricwlwm rhyngddisgyblaethol, sy’n dysgu drwy brofiad ar sail heriau, gan gyflwyno dysgu byd go iawn sy’n paratoi graddedigion at gyfer y byd gwaith a’u dyfodol.
  • Cyrsiau dan arweiniad ymchwil ac ymarfer proffesiynol wedi'u cyd-gynhyrchu a'u cyflwyno trwy weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a chyflogwyr.
  • Cynnig cyfleoedd dysgu gydol oes hyblyg a datblygu graddedigion sy'n entrepreneuriaid hyderus.

Ein Pobl, Lleoedd a Phartneriaethau

Ein nod yw cael ein cydnabod fel Prifysgol Gymreig, gadarn a blaengar sydd wedi’i gwreiddio’n  lleol ac sy’n ymgysylltu’n fyd-eang. Prifysgol sy’n gwrando, yn cymryd sylw ac yn adlewyrchu ar yr hyn sydd bwysicaf i’n pobl, lleoedd a phartneriaid.

  • Cymuned o staff, myfyrwyr a phartneriaid sy'n cael eu gyrru gan werthoedd sy'n gwrando, yn ymgysylltu ac yn grymuso pobl a'r lle i gyflawni ein cenhadaeth ddinesig.
  • Darparu arweinyddiaeth system gref i yrru system eco sgiliau'r rhanbarth, gan gefnogi twf a gwella symudedd cymdeithasol.
  • Cydweithio a gweithio mewn partneriaethau gweithredol, ar lefel ranbarthol a byd-eang i sicrhau'r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl ar gyfer llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
  • Yn brifysgol o ddewis i bartneriaid, gan gyd-greu datrysiadau beidddgar sy’n torri tir newydd i gyflawni newid economaidd a chymdeithasol.

Ein Hymchwil a’n Menter

Ein nod yw cael ein cydnabod am ragoriaeth  o ran ansawdd, perthnasedd ac effeithiau ein hymchwil a'n menter ryngddisgyblaethol trwy ddarparu arloesedd a thrawsnewid llwyddiannus.

  • Diwylliant mentrus sy’n cynnwys ymchwil gynhwysol a rhyngddisgyblaethol sy’n meithrin ac yn adeiladu gallu a chynhwysedd staff a myfyrwyr i gyflawni canlyniadau rhagorol.
  • Portffolio cynyddol o weithgareddau ymchwil a menter gydweithredol a gyflawnir drwy gynigion ar y cyd, prosiectau ar y cyd a chyd-ddosbarthu allbynnau, gan weithio mewn partneriaeth â diwydiant a’r byd academaidd.
  • Rhoi cefnogaeth a phrofiad rhagorol i gymuned gynyddol a chynhwysol o fyfyrwyr ymchwil.
  • Sicrhau effaith drwy ymchwil, menter, arloesi a masnacheiddio sy'n trawsnewid diwydiant a chymdeithas.

Wrth gyflawni ein gweledigaeth a’n strategaeth, rydym yn ymrwymedig i:

  • Hyrwyddo'r iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth Cymru a bod hyn yn weithredol drwy ein holl weithgareddau.
  • Seilwaith ystadau a digidol sy'n diwallu anghenion ein myfyrwyr, staff, partneriaid a chymunedau presennol ac yn y dyfodol.
  • Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ein cyrhaeddiad rhyngwladol a'n partneriaethau er budd Wrecsam, Cymru a'r Byd.
  • Bydd hyn yn gweithredu mewn ffordd gynaliadwy, ac yn sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol yn ganolog i'n penderfyniadau a'n gweithredoedd.

Rydym yn gyffrous ynghylch y cyfleoedd sydd o’n Blaenau wrth i ni weithio tuag at ein Gweledigaeth a Strategaeth 20230. P’un a ydych chi’n fyfyriwr, staff, partner diwydiant, neu’n rhan o’n cymuned ehangach, rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r daith drawsnewidiol hon.