Fabrizio Trifiro

Llywodraethwr Annibynol

Mae Dr Fabrizio Trifiró yn arbenigwr rhyngwladol mewn sicrhau ansawdd ac addysg ryngwladol. Ef yw Cyfarwyddwr Rhaglen Fforwm Byd Addysg, y cynulliad blynyddol mwyaf o weinidogion addysg, sydd nawr yn rhan o Times Higher Education. Mae ef hefyd yn eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Rhwydwaith Rhyngwladol Asiantaethau Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch (INQAAHE) ac ar Bwyllgor Achredu’r Cyngor Achredu Prydeinig (BAC).

Am dros 10 mlynedd roedd Fabrizio gydag Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA) y DU ar gyfer Addysg Uwch lle roedd yn arwain ar sicrwydd ansawdd TNE, ymgysylltu rhyngwladol strategol gyda chyrff sicrwydd ansawdd eraill, a phrofiad myfyrwyr rhyngwladol. Yn fwy diweddar mae wedi arwain gwaith ymgysylltu gyda rhanddeiliaid ar gyfer UK ENIC, y corff cydnabod cymwysterau cenedlaethol. Yn 2022 bu’n cefnogi, fel ymgynghorydd annibynnol i’r Swyddfa Myfyrwyr (OFS) yn Lloegr, gyda datblygu eu strategaeth ymgysylltu ryngwladol er mwyn cefnogi eu trosolwg o TNE yn Lloegr.

Mae Fabrizio yn uwch ymgynghorydd gyda Chyngor Hong Kong ar gyfer Achredu Cymwysterau Academaidd a Galwedigaethol (HKCAAVQ) ac yn gweithredu fel adolygydd ar gyfer amrywiaeth o gyrff sicrwydd ansawdd rhyngwladol.

Mae gan Fabrizio radd Meistr integredig mewn Athroniaeth a MA mewn Hawliau Dynol ac Ymyriadau Dyngarol o Brifysgol Bologna (yr Eidal), MSc mewn Dulliau Ymchwil Cymharol a Thraws-ddiwylliannol o Brifysgol Sussex, a PhD mewn Theori Wleidyddol o Brifysgol Llundain. Bu’n gymrawd ôl-ddoethurol yng Ngholeg y Drindod, Dulyn yn ymchwilio i esblygiad cymdeithas sifil fyd-eang.

Mae Fabrizio yn angerddol dros botensial rhyngwladoli i fod yn flaengar yn gymdeithasol fel cyfrwng i ehangu mynediad byd-eang at addysg o safon a’r cymwyseddau rhyng-ddiwylliannol sydd ei angen ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol adeiladol.