Fabrizio Trifiro

Llywodraethwr Annibynol

Penodwyd ar 1 Medi 2023

Mae Dr. Fabrizio Trifiro yn Bennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ac Adolygiadau Ansawdd Rhyngwladol yn Ecctis, yr asiantaeth sy’n rheoli’r swyddogaeth cydnabod cymwysterau (UK ENIC) ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’n arwain ar lefel uwch ar ymgysylltu yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ac ar feincnodi ansawdd gyda’r nod o wella hyder rhyngwladol mewn cymwysterau mewn meysydd sy’n heriol i’w cydnabod yn draddodiadol, megis addysg drawswladol ac addysg alwedigaethol. 

Ymunodd Fabrizio ag Ecctis yn 2019 ar ôl dros 10 mlynedd gydag Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) ble bu’n arwain ar sicrhau ansawdd addysg drawswladol, ymgysylltu rhyngwladol a phrofiadau myfyrwyr rhyngwladol. Yn 2022 bu’n gweithredu fel ymgynghorydd annibynnol i’r Swyddfa Myfyrwyr yn Lloegr wrth ddatblygu ei strategaeth ymgysylltu rhyngwladol i gefnogi cynnal trosolwg o addysg drawswladol yn Lloegr. 

Mae Fabrizio yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Rhwydwaith Rhyngwladol Sicrwydd Ansawdd mewn Addysg Uwch (INQAAHE), ac yn aelod o Bwyllgor Achredu Cyngor Achredu Prydain. Gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad ym maes sicrwydd ansawdd ac addysg ryngwladol mae’n gweithredu fel adolygydd i ystod o gyrff sicrwydd ansawdd rhyngwladol. 

Mae Fabrizio yn meddu ar radd Meistr integredig mewn Athroniaeth ac MA mewn Hawliau Dynol a Ymyriaethau Dyngarol o Brifysgol Bologna (Yr Eidal), gradd MSc mewn Dulliau Ymchwil Cymharol a Thraws-ddiwylliannol o Brifysgol Sussex a PhD mewn Theori Gwleidyddol o Brifysgol Llundain. Bu’n gymrawd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yn dilyn derbyn ei ddoethuriaeth, yn ymchwilio i ddatblygiad cymdeithas ddinesig fyd-eang.  

Mae’n angerddol ynghylch potensial rhyngwladoliaeth fel modd i ehangu mynediad      byd-eang at addysg ansawdd uchel a’r cymwyseddau rhyng-ddiwylliannol hynny sy’n ofynnol ar gyfer perthnasoedd rhyngwladol adeiladol.