Karen Heald

Llywodraethwr enwebedig y Bwrdd Academaidd

Penodwyd mis Rhagfyr 2022

Mae Karen yn Uwch Ddarlithydd yn y Brifysgol ac yn Arweinydd Maes Rhaglen y cyrsiau MA Celf a Dylunio, sy’n cynnwys pedair rhaglen: MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Celfyddydol, MA Y Celfyddydau ym maes Iechyd, MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Dylunio ac MA Ymarferydd Celfydyddau Proffesiynol. Mae hi’n Uwch Gymrawd Advance HE ac hefyd yn artist gweledol, cynhyrchydd ffilmiau ac ymchwilydd sy’n arddangos ac yn cyflwyno mewn cynadleddau’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

Hi yw cynrychiolydd y staff addysgu ar y Bwrdd Academaidd ac mae hi hefyd yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol, y Pwyllgor Uniondeb Academaidd a’r Tîm Datblygu Academaidd.  

Mae gwaith ymchwil Karen yn ystyried cysyniadau amser, creadigrwydd a’i berthynas â fideo, safle penodol a chymhlethdodau athronyddol cydweithio rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth. Mae ei gwaith celf wedi esblygu o weithio ar safleoedd penodol ac mewn preswylfeydd rhyngwladol. Mae hi wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau cydweithredol ag ymarferwyr amrywiol fel artistiaid, artistiaid sain, dawnswyr, cerddorion, gwyddonwyr, meddygon a llu o academyddion eraill. Mae Karen wedi rhannu ei gwaith yn Ewrop, America ac Asia, trwy breswylfeydd artisitiad amrywiol, yn arddangos mewn orielau a mannau anhraddodiadol, cyflwyniadau mewn gwyliau ffilm, cynadleddau yn ogystal ag ysgrifennu i gyhoeddiadau. Mae Karen yn aelod o grŵp llywio Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru.