Yr Athro Paul Davies

Dirprwy Is-Ganghellor

Ymunodd yr Athro Paul Davies â’r Brifysgol ar 1 Medi 2024, o’i swydd fel Deon y Gyfadran Gyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru, lle bu’n gyfrifol am gyfeiriad strategol a datblygiad Cyfadran fawr, sy’n cynnwys wyth adran, sy’n cwmpasu’r holl ddisgyblaethau gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a mathemateg (STEM).

Cyn ei yrfa ym Mhrifysgol De Cymru, bu Paul yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, yn bennaf ar ddatblygiadau seilwaith ar raddfa fawr, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd wedi bod yn ymwneud â phrosiectau amrywiol ar draws y DU ac yng Ngogledd Affrica a’r Dwyrain Pell. Mae’n Beiriannydd Siartredig ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil (FICE), yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac mae ganddo PhD mewn Dadansoddi Strwythurol Uwch. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn bennaf ym maes cryfhau a gwella strwythurol, gan ddefnyddio deunyddiau cyfansawdd datblygedig.

Ar ôl cael ei benodi, meddai Yr Athro Davies: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Athro Yates a gweddill y tîm, gan gefnogi ein staff a’n myfyrwyr, ar yr adeg gyffrous hon yn esblygiad y Brifysgol.”