Mae Cyrff Statudol a Rheoleiddiol Proffesiynol yn grŵp amrywiol iawn o gyrff proffesiynol a chyflogwyr, rheoleiddwyr a’r rheini sydd ag awdurdod statudol dros broffesiwn neu grŵp o weithwyr proffesiynol. Mae Cyrff Statudol a Rheoleiddiol Proffesiynol yn ymgysylltu ag addysg uwch fel rheoleiddwyr. Maent yn darparu gwasanaethau aelodaeth ac yn hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau; yn achredu neu’n cymeradwyo cyrsiau sy’n bodloni safonau proffesiynol, yn darparu llwybr i’r proffesiynau neu’n cael eu cydnabod gan gyflogwyr.

Diffinnir cwrs achrededig fel cwrs sy’n cael ei gydnabod gan gorff achredu a gall roi aelodaeth, statws siartredig neu esemptiad rhannol. Gall achrediad fod yn ‘unrhyw broses gymeradwyo sy’n arwain at sicrwydd bod rhaglen yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan broffesiwn penodol’.

Mae’r Cyrff Statudol a Rheoleiddiol Proffesiynol isod yn achredu rhaglenni ym Mhrifysgol Wrecsam:

  • Association of Chartered Certified Accountants (ACCA)
  • British Computer Society - The Chartered Institute for IT (BCS)
  • British Psychological Society (BPS)
  • British Association of Sport Rehabilitators and Trainers
  • British Association of Sport and Exercise Sciences (BASES)
  • British Dietetics Association (BDA)
  • Chartered Institute of Marketing (CIM)
  • Chartered Institute of Management Accountants (CIMA)
  • Chartered Management Institute (CMI)
  • Chartered Institute of Architectural Technologists (CIAT)
  • Chartered Institute of Personnel and Development (CIPD)
  • College of Operating Department Practitioners (CODP)
  • College of Paramedics (COP)
  • College of Policing
  • CPA Australia
  • Chartered Society of Physiotherapy (CSP)
  • Engineering Accreditation Body (EAB)
  • Education Training Standards Committee for Wales (ETS)
  • General Pharmaceutical Council (GPhC)
  • Health Care and Professions Council (HCPC)
  • Institute of Biomedical Science (IBMS)
  • Joint Board of Moderators (JBM) (including ICE, ISE, CIHT, IHE)
  • Nursing and Midwifery Council (NMC)
  • Royal College of Occupational Therapists (RCOT)
  • Royal College of Speech and Language Therapists (RCSLT)
  • Royal College of Veterinary Surgeons (RCVS)
  • Social Care Wales
  • The Chartered Institute of Building (CIOB)