.jpg)
Graddau Ôl-raddedig
Ewch Ymhellach gyda Gradd Ôl-raddedig
Cewch ddatblygu sgiliau arbenigol, mireinio’ch arbenigedd a datgloi cyfleoedd gyrfa newydd… Beth bynnag fo’ch nod, gallwch lywio’r hyn sydd nesaf gyda gradd meistr o Brifysgol Wrecsam.
Cewch ddewis o ystod eang o gyrsiau ac elwa o opsiynau hyblyg gan gynnwys astudio rhan-amser, yn ogystal â chymuned prifysgol gefnogol yn canolbwyntio ar lwyddo yn y dyfodol - lluniwyd ein Graddau Ôl-raddedig i’ch galluogi i symud ymlaen yn hyderus.
Yn Barod i Gymryd y Cam Nesaf
Gweler Ein Cyrsiau Rhestr lawn o gyrsiau Ôl-raddedigDewch draw i ddigwyddiad agored
Yn ystyried astudiaeth ôl-raddedig? Mae ein digwyddiadau agored yn gyfle gwych i ganfod lle gall gradd meistr ym Mhrifysgol Wrecsam fynd â chi.
Cewch sgwrsio â darlithwyr a myfyrwyr cyfredol, dysgu mwy am gynnwys y cwrs ac opsiynau astudio hyblyg, mynychu sgyrsiau pwnc a chael blas ar astudio yn Wrecsam.
Archebwch le ar gyfer un o’n digwyddiadau agored ôl-raddedig sydd ar ddod.
Wyddoch chi?
Gall gradd Ôl-raddedig Prifysgol Wrecsam agor cyfleoedd gyrfa newydd; eich helpu i ddatblygu yn eich gyrfa bresennol a chynyddu’ch potensial ennill cyflog.
Yw gradd meistr werth y gwaith?
Gall gradd meistr olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. I rai, mae’n ymwneud â meithrin hygrededd proffesiynol neu wella rhagolygon gyrfa hirdymor. I eraill, mae’n gyfle i newid cyfeiriad, dilyn uchelgais personol neu fuddsoddi mewn dyfodol gwerth chweil.
Efallai eich bod yn pendroni sut all astudiaeth Ôl-raddedig ffitio o amgylch eich ymrwymiadau presennol, yw’r buddsoddiad werth chweil, neu pa gyfleoedd y gallai eu creu yn y blynyddoedd i ddod.
Beth bynnag fo’ch cymhelliant, gall astudiaeth Ôl-raddedig gynnig buddion sy’n ymestyn llawer pellach na’r cymhwyster ei hun.
Llunio’ch Rhagolygon ar Gyfer y Dyfodol
Gall gradd ôl-raddedig eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth arbenigol a’r sgiliau uwch y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn marchnad swyddi sy’n fwyfwy cystadleuol. P’un a ydych yn awyddus i wella eich profiad proffesiynol, gweithio tuag at swydd uwch neu baratoi ar gyfer astudiaeth bellach, gall gradd meistr eich helpu i ddatblygu’r arbenigedd a’r hygrededd i gefnogi’ch uchelgeisiau.
Cewch Astudio o Amgylch eich Bywyd
Mae astudiaeth ôl-raddedig yn edrych yn wahanol i bawb. Efallai eich bod yn cydbwyso gwaith, ymrwymiadau teuluol neu’n dychwelyd at addysg ar ôl amser i ffwrdd. Dyna pam fod opsiynau astudio hyblyg yn bwysig. Ym Mhrifysgol Wrecsam, mae sawl cwrs ôl-raddedig yn cynnig llwybrau rhan amser a dysgu cefnogol a luniwyd i’ch helpu chi i astudio mewn modd sy’n addas ar eich cyfer.
Cewch Greu’r Dyfodol yr Ydych ei Wir Eisiau
Nid yw pawb yn dilyn yr yrfa yr oeddent unwaith wedi’i dychmygu iddynt eu hunain - a gall astudiaeth Ôl-raddedig fod yn gyfle i ailgysylltu ag uchelgeisiau y gallech fod wedi eu rhoi i’r naill ochr. Efallai eich bod yn breuddwydio am weithio mewn diwydiant hollol wahanol, gan arbenigo mewn maes yr ydych yn teimlo’n frwd drosto, neu am ddilyn llwybr gyrfa yr oeddech unwaith wedi argyhoeddi’ch hun nad oedd yn realistig. Gall gradd meistr helpu i newid uchelgeisiau hirsefydlog yn rhywbeth go iawn a rhoi’r cyfle i chi ddilyn gwaith sy’n teimlo’n fwy ystyrlon a gwerth chweil.
Buddsoddwch ynoch eich Hun
Mae gradd meistr yn fuddsoddiad y byddwch yn elwa ohono ymhell ar ôl i chi raddio. Mae llawer o bobl yn ymgymryd ag Astudiaeth Ôl-raddedig gan feddwl am ddilyniant gyrfa uniongyrchol neu fuddion cyflog, ond gall y gwerth hirdymor fod yn llawer mwy. Dros gyfnod gyrfa sy’n ymestyn dros sawl degawd, mae’r potensial o gyflog uwch yn cronni gan gael effaith hirdymor sylweddol a pharhaus. Ochr yn ochr â’r budd proffesiynol, mae astudiaeth Ôl-raddedig hefyd yn cynnig boddhad personol o uwchsgilio a sylweddoli pa fath o ddyfodol yr ydych ei eisiau ar gyfer chi’ch hun.
Ydw i’n Barod i Astudio Gradd Meistr?
Nid oes angen i chi fod wedi cynllunio pob rhan o’ch dyfodol er mwyn bod yn barod am astudiaeth Ôl-raddedig. Mae llawer o fyfyrwyr gradd meistr yn cychwyn gydag uchelgais, chwilfrydedd neu’r awydd i greu mwy o bosibiliadau iddynt eu hunain.
Mae’n bosibl eich bod yn barod am radd meistr os…
-
Ydych Eisiau Mynd yn Eich Blaen yn Broffesiynol
Ydych yn barod i wella eich arbenigedd, meithrin hygrededd proffesiynol, neu weithio tuag at uwch arweinyddiaeth. Gall cymhwyster Ôl-raddedig helpu i ddangos gwybodaeth uwch a sgiliau arbenigol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
-
Rydych Eisiau Rhywbeth Mwy Boddhaus
Efallai fod gennych uchelgeisiau sydd wedi bod yn cuddio yn y cefndir am flynyddoedd - diwydiant gwahanol, maes arbenigol yr ydych yn frwd drosto, neu yrfa yr oeddech yn arfer credu oedd y tu hwnt i chi. Gall astudiaeth Ôl-raddedig helpu i droi’r uchelgeisiau hynny yn rhywbeth mwy rhwydd i’w cyflawni.
-
Rydych yn Barod i Herio eich Hun
Lluniwyd graddau meistr i wthio’ch meddwl, gwella eich dealltwriaeth a’ch helpu i ddatblygu’n academaidd a phroffesiynol. Mae llawer o fyfyrwyr Ôl-raddedig yn cydbwyso astudio ochr yn ochr â gwaith, bywyd teuluol neu gyfrifoldebau eraill, a dyna pam y gallwch ddewis opsiynau astudio hyblyg neu ran amser.
-
Rydych yn Meddwl am yr Hirdymor
Mae astudiaeth Ôl-raddedig yn fuddsoddiad y byddwch yn elwa ohono drwy gydol eich gyrfa. Tra bod llawer o bobl yn canolbwyntio ar y cynnydd uniongyrchol, gall y potensial o gyflog uwch a gwerth proffesiynol hirdymor a gysylltir â gradd meistr gael effaith barhaus dros amser.
-
Rydych yn Gwybod Beth yr Ydych Eisiau Anelu Tuag Ato
Mae dewis cwrs Ôl-raddedig yn ymwneud â chanfod maes pwnc sy’n cydfynd â’ch diddordebau, cryfderau ac uchelgeisiau yn y dyfodol. Gall siarad gyda darlithwyr, ymchwilio i gynnwys y cwrs a mynychu digwyddiadau agored ôl-raddedig eich helpu i benderfynu pa lwybr sy’n addas i chi.
-
Rydych Eisiau Tyfu Eich Rhwydwaith Proffesiynol
Trwy gydol eich astudiaethau ôl-raddedig, efallai y byddwch yn magu cysylltiadau gyda darlithwyr, gweithwyr proffesiynol y diwydiant, siaradwyr gwadd a chyd fyfyrwyr sy’n rhannu’r un diddordebau ac uchelgeisiau â chi. Gall y perthnasoedd a’r mewnwelediadau hyn fod o gymorth i’ch datblygiad proffesiynol ymhell ar ôl i chi raddio.
-
Rydych yn Barod i Fuddsoddi yn Eich Potensial
Daw myfyrwyr Ôl-raddedig o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau. P’un a ydych yn parhau o astudiaeth israddedig neu’n dychwelyd i addysg ar ôl amser i ffwrdd, gall gradd meistr fod yn gyfle i gefnogi’ch hun a buddsoddi mewn dyfodol o’ch dewis.