12 rheswm dros astudio'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Wrecsam
Mae ein gradd Cynhyrchu Cyfryngau yn cyfuno cyfleoedd creadigol gyda phrofiad ymarferol i’ch paratoi chi at yrfa yn y Cyfryngau yn y dyfodol.
Rydym wedi amlygu’r cyfleoedd enfawr sydd ar gael ar eich cyfer yn Wrecsam ynghyd â rhai o’r rhesymau pam y dylech ddewis astudio gyda ni:
1. Dysg ymarferol
Mae’r radd hon yn rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn dysg ymarferol. Byddwch yn cymhwyso’ch gwybodaeth mewn sefyllfaoedd byd go iawn, yn hytrach nag astudio theori yn unig yn yr ystafell ddosbarth. Bydd ymarfer eich sgiliau ymarferol yn y maes gwaith yn eich helpu i ddeall a dal gafael ar y cysyniadau a addysgwyd yn yr ystafell ddosbarth drwy roi eich dysg ar brawf.
2. Creadigrwydd ac arloesedd
Rydym yn eich annog i feddwl yn greadigol a datblygu eich syniadau arloesol drwy eich dysg. P’un a fyddwch yn cynhyrchu ffilm, creu podlediad, neu ddylunio gwefan, bydd gennych rwydd hynt i fynegi eich diddordebau eich hun ac archwilio ffyrdd newydd o adrodd stori a chyfathrebu.
3. Sgiliau datrys problemau
Mae goresgyn rhwystrau heriol yn elfen gyffredinol o’r broses cynhyrchu cyfryngau. Drwy astudio ar gyfer y radd hon, byddwch yn dysgu sut i ddatrys problemau, addasu, a chanfod llwybrau at ddatrysiadau yn y fan a’r lle. Yn ogystal â bod yn ddefnyddiol yn y byd cyfryngau, mae meddwl yn arfarnol a datrys problemau hefyd yn sgiliau gwerthfawr y gallwch eu defnyddio mewn sawl maes arall o fywyd a gwaith.
4. Gwaith tîm a chydweithio
Mae cydweithio yn greiddiol i brosiectau cyfryngau tîm. Byddwch yn dysgu sut i weithio’n effeithiol ag eraill, yn ogystal â sut i gyfathrebu eich syniadau a chyfrannu at weledigaeth gyffredin. Bydd y sgiliau gwaith tîm hyn yn amhrisiadwy i chi yn ystod eich gradd ac yn y byd proffesiynol.
5. Sgiliau technegol
Byddwch yn dysgu ffyrdd technegol uwch o ddefnyddio offer a thechnolegau fel camerâu, meddalwedd golygu, cyfarpar sain, a mwy. Byddwch yn ennill hyfedredd yn y sgiliau technegol hyn er mwyn eu cymhwyso nid yn unig yn y Cyfryngau, ond hefyd ym mha bynnag yrfa y byddwch yn ei dewis.
6. Sgiliau Cyfathrebu
Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu o ran cyfleu negeseuon yn effeithiol drwy’r cyfryngau, ac o ran rhyngweithiadau rhyngbersonol gydag aelodau tîm a chleientiaid.
7. Llythrennedd Digidol
Mae dealltwriaeth dda o’r cyfryngau yn sgil gwerthfawr yn yr oes ddigidol hon. Bydd y radd hon yn atgyfnerthu eich llythrennedd digidol ac yn datblygu eich medrusrwydd wrth lywio a chreu cynnwys mewn amgylcheddau digidol.
8. Datblygu Portffolio
Byddwch yn creu portffolio o’ch gwaith eich hun wrth i chi gwblhau prosiectau yn ystod eich gradd. Bydd y portffolio hwn yn arf pŵerus fel enghraifft o’ch gwaith pan fyddwch yn gwneud cais ar gyfer interniaethau, swyddi, neu gael eich derbyn ar raglenni addysg bellach. Rydym yn cynnig Gradd Meistr ar hyn o bryd mewn Cynhyrchu Cyfryngau, petai gennych ddiddordeb mewn astudiaeth bellach yn y dyfodol.
9. Cyfleoedd i Rwydweithio
Byddwch yn cael y cyfle i weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, mynychu digwyddiadau, a gwneud cysylltiadau yn eich maes dewisol. Bydd y cyfleoedd rhwydweithio hyn yn agor drysau ar gyfer eich posibiliadau gyrfa yn y dyfodol.
10. Deall Dylanwad y Cyfryngau
Byddwch yn cael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae’r cyfryngau’n llunio barn y cyhoedd, dylanwadu ar gymdeithas, a chyfleu negeseuon drwy fod yn weithredol o ran creu cynnwys cyfryngau wedi’i lywio. Mae’r safbwynt beirniadol hwn yn sgil hanfodol y byddwch yn dysgu i’w ddefnyddio yn y byd cyfryngol sydd ohoni.
11. Cyfleoedd Gyrfa
Mae’r radd hon yn eich darparu â sylfaen o sgiliau sy’n berthnasol i amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa. Bydd Cynhyrchu Cyfryngau yn ddefnyddiol p’un a yw’ch diddordeb mewn creu ffilmiau, newyddiaduraeth, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus, neu farchnata. Bydd profiad mewn cynhyrchu cyfryngau yn ased gwerthfawr wrth ddilyn y llwybrau gyrfa hyn.
12. Twf Personol
Y tu hwnt i’r buddiannau proffesiynol, bydd y radd Cynhyrchu Cyfryngau yn Wrecsam yn meithrin eich twf personol eich hun. Bydd y radd hon yn rhoi hwb i’ch hunanhyder, eich annog i gymryd risgiau, a’ch helpu i ganfod yr hyn rydych yn eu mwynhau ac ymddiddori ynddynt.
I grynhoi, bydd cynhyrchu cyfryngau yn cynnig profiad dysgu amlochrog a gwerth chweil i chi sy’n mynd y tu hwnt i addysg ystafell ddosbarth traddodiadol. Bydd yn eich cyfarparu ag ystod o sgiliau ymarferol wrth i chi ddatblygu eich creadigrwydd. Bydd eich gradd Cynhyrchu Cyfryngau yn eich paratoi chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol ac yn galluogi i’ch diddordeb personol ffynnu yn Wrecsam.
Cymerwch gipolwg ar ein Gradd Cynhyrchu Cyfryngau am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut allwch wneud cais a bod yn rhan o’r ddysg ym Mhrifysgol Wrecsam.
Ysgrifennwyd gan Peter Davies, Technegydd Arddangoswr mewn Cynhyrchu Cyfryngau