9 rheswm pam bod myfyrwyr yn caru Prifysgol Wrecsam

A group of students walking outside campus

Dyma 9 rheswm pan bod ein myfyrwyr gymaint wrth ein bodd yma….

Ein cymuned glos

Mae gennym ni gymuned arbennig o gyfeillgar a chefnogol. Mae ein campws bach yn golygu ein bod yn grŵp clos ac mae ein myfyrwyr wrth eu bodd gyda’r naws diogel, pentrefol yn Prifysgol Wrecsam. Mae’r ffaith nad yw’r dosbarthiadau yn enfawr yn golygu nad yw pobl yn mynd ar goll mewn môr o wynebau. Bydd pobl yn gwybod eich enw, nid dim ond rhif fyddwch chi – mae pawb o bwys yma. Mae ein neuaddau clyd a modern dafliad carreg o’n prif gampws hefyd. Y lle perffaith i’w alw’n gartref.

Mae’n fforddiadwy

Nawr fwy nag erioed, un o’r pryderon mwyaf y mae myfyrwyr yn ei wynebu yw’r gost o fynd i’r brifysgol. A’r ddinas yn cynnig gwerth da o ran nosweithiau allan a chostau byw, mae’r prisiau sy’n ysgafn ar y boced yn fonws bach ychwanegol. Hefyd mae ein tîm Cyllid Myfyrwyr a Chyngor am Arian wrth law i gynnig cymorth ariannol arbenigol.

Cymorth pan fyddwch ei angen

Mae’n gallu bod yn anodd symud oddi cartref am y tro cyntaf; rydym ni’n deall hynny. Dyna pam rydym ni wastad wrth law i helpu os bydd angen. O’n staff dysgu cyfeillgar sy’n gweithredu polisi drws agored, i’n tîm sgiliau dysgu a gwasanaeth cwnsela rhad ac am ddim, mae myfyrwyr yn dweud wrthym eu bod yn teimlo ein bod yn gofalu amdanynt a’u cefnogi yn Prifysgol Wrecsam. Mae ein gwasanaethau cymorth myfyrwyr ar gael cyn ac yn ystod eich siwrnai astudio gyda ni – gwnewch y gorau ohonynt, maen nhw yno i’ch helpu.

Bwyd, bendigaid fwyd

Os ydych chi’n hoff o’ch bwyd, mae yna lawer i’w fwynhau yn Wrecsam. Mae’r ddinas yn bair o ddiwylliannau ac mae’r dewis eang o gaffis, delis, tai bwyta, siopau tecawê a gwneuthurwyr bwyd yn adlewyrchu hyn – rhywbeth sy’n cael sêl bendith ein myfyrwyr. Fe ddewch chi ar draws siopau bara artisan Pwylaidd, tapas Portiwgeaidd, meze o Fôr y Canoldir, bwyd tafarn swmpus, bwyd stryd a chiniawa cain cyfoes sydd wedi ennill gwobrau. Felly ewch i chwilio yng nghefn y cwpwrdd am y trowsus elastig yna.

Lle diogel i fod yn chi

Rydym yn angerddol ein cred y dylai addysg uwch fod yn hygyrch i bawb – waeth beth yw eu hunaniaeth rhyw, rhywedd neu gefndir. Fel prifysgol mae gennym ni gymdeithas LBGT+ fywiog ac mae sawl grŵp cymorth a chymdeithasol ar gael yn lleol sydd, yn ôl yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddweud, yn groesawgar ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n rhydd i fod yn nhw eu hunain.

Gweithio’n galed, chwarae’n galed

Gan mai hi yw’r ddinas fwyaf yng ngogledd Cymru, dydy hi ddim yn syndod bod gan Wrecsam fywyd nos bywiog. Ar y campws mae bar Undeb y Myfyrwyr a Glyn’s, sy’n cynnig amrywiaeth o fwyd blasus a fforddiadwy. O fentro i mewn i ganol y ddinas, fe welwch chi bod hon yn ddinas sy’n dod yn fyw wedi machlud haul; o’r clybiau a’r bariau coctels i dafarndai traddodiadol, bariau chwaraeon a lleoliadau cerddoriaeth fyw. Felly, os hoffech chi gael peint wrth wylio’r pêl-droed gyda’ch ffrindiau neu ollwng eich gwallt i lawr wedi diwrnod hir o astudio drwy ddawnsio nes daw’r wawr, fe welwch chi bod popeth yma i wneud eich profiad myfyriwr yn un bythgofiadwy.

Mae popeth o fewn cyrraedd

Mae ein prif gampws yn gartref i bopeth sydd ei angen ar fyfyrwyr – o lyfrgell ac ardaloedd astudio i gampfa a siop goffi boblogaidd. Mae hefyd dim ond 10 munud ar droed o ganol y ddinas, sydd yn llawn siopau, bariau a thai bwyta, gan olygu dim costau teithio dyddiol drud. Ac, os ydych chi am fentro ychydig yn bellach, mae’r cysylltiadau bws a rheilffordd yn agosach fyth, taith fer iawn ar droed o’r campws. O ran lleoliad, mae ein myfyrwyr yn dweud wrthym bod Wrecsam yn un anodd ei churo gyda’r gorau o ddau fyd ar eich stepen ddrws. Dewch i Ddarganfod Wrecsam.

Diwylliant bywiog

Fedrwn ni ddim peidio siarad am y diwylliant anhygoel sydd ar ein stepen ddrws ychwaith. Yng nghanol y ddinas mae yna nifer cynyddol o orielau, amgueddfeydd a lleoliadau celfyddydol, gan gynnwys Tŷ Pawb, sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi cyflwyno gwaith artistiaid fel Antony Gormley a Grayson Perry. Hefyd, mae yna raglen flynyddol brysur o ddigwyddiadau a gwyliau. Pethau fel y Wales Comic Con, Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam a Gŵyl Geiriau Wrecsam, yn ogystal â gŵyl gerdd ryngwladol, FOCUS Wales. Mae yna doreth o atyniadau hanesyddol safon-byd o’n hamgylch hefyd, mannau fel Neuadd Erddig, safle Treftadaeth y Byd UNESCO, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, ac nid un, ond tri o Saith Rhyfeddod Cymru. Rydym yn falch o’n lle yn y byd. Mae ein cymdogaeth mewn rhifau yma i’ch helpu i ddeall yr holl bethau bychan sy’n gwneud ein cymuned yn arbennig.

Mae’n lle sy’n denu selebs

Mae clwb pêl-droed byd-enwog Wrecsam wedi ei leoli union drws nesaf i’n prif gampws, ac mae’r perchnogion newydd - sêr Hollywood, Ryan Reynold a Rob McElhenney - wedi denu llu o ddilynwyr enwog. O David Beckham a Will Ferrell i Jack Whitehall a Blake Lively, felly pwy a ŵyr pwy ddewch chi ar eu traws ar y campws neu yn eich tafarn leol?!

 

Dewch i ddarganfod ein campws a’n dinas drosoch eich hunan – gwiriwch ein dyddiadau diweddaraf am ddiwrnodau agored a digwyddiadau pwnc. Ydy o efallai yn rhywle ble hoffech chi astudio? Archwiliwch ein cyrsiau israddedig, ôl-radd neu gyrsiau byr.