Cynhadledd Ymchwilwyr Ôl-raddedig 2026

6 munud o ddarllen
Yn ddiweddar fe gynhalion ni Gynhadledd Ymchwilwyr Ôl-raddedig 2026, gan groesawu ein myfyrwyr i ddiwrnod o rwydweithio, dysgu a rhannu eu gwaith. Agorwyd y digwyddiad gan Frances Thomason, Pennaeth Gwasanaethau Ymchwil, a chyflwynodd fyfyrwyr i ychydig o’n digwyddiadau, megis Digwyddiadau Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil a Chelfyddyd Ymchwil. Rhoddodd Dr Julian Ayres a Hayley Dennis gychwyn ar bethau gyda gêm rwydweithio egnïol, gan annog pawb i gysylltu gyda phobl newydd a chael profiad drostynt eu hunain o bwysigrwydd meithrin cydberthnasoedd proffesiynol mewn cynadleddau.

Left to right: Sunaina, Dmitrii, Morgaine
Yn dilyn hyn, cyfarfu panel Pŵer Dyfarnu Graddau Ymchwil (RDAP), a gadeiriwyd gan Jayne Rowe, ac a oedd yn cynnwys yr Athro Richard Day, yr Athro Mandy Robbins, Frances Thomason a Beth Davies. Gofynnodd myfyrwyr am amseru RDAPay, ei effaith ar fyfyrwyr cyfredol, a sut y gallai’r datblygiadau hyn ddyrchafu proffil ymchwil y Brifysgol. Tynnodd y panel sylw at y ffaith bod mwy o graffu yn sicrhau safonau uchel gan atgyfnerthu enw da’r Brifysgol a chynnig mwy o ddiogelwch a ffocws ar feysydd sydd o bwys yn strategol. Bydd ein cymuned ddoethurol yn debygol o ehangu yn y dyfodol, gyda dyheadau ar gyfer twf mewn doethuriaethau proffesiynol a PhD drwy gyhoeddiad. Fel y dywedodd yr Athro Robbins, mae “Gallu rheoli eich ffawd eich hun” yn rhoi’r Brifysgol mewn sefyllfa o fod yn cefnogi cymuned ymchwil weladwy sy’n ffynnu dros y degawd nesaf.

The RDAP panel
Cyflwyniadau Myfyrwyr
Y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd
Roedd y gynhadledd hefyd yn arddangos ymchwil myfyrwyr yn ystod y sesiynau cyfochrog ar Goridor B. Rhannodd Sara Hilton, sy’n Uwch Ddarlithydd ac yn fyfyriwr PhD blwyddyn gyntaf, waith ar Gymdeithas Clwb Pêl-droed Wrecsam a’i thraweffaith gymdeithasol o fewn y gymuned leol. Mae ymchwil Sara’n archwilio sut mae’r clwb pêl-droed, sydd bellach yn cael ei adnabod yn fyd-eang, yn gweithredu fel sefydliad sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned, gyda phartneriaethau ar draws y trydydd sector a chyrhaeddiad sy’n pontio cymunedau lleol, agendâu polisi ac arianwyr. Gan ddefnyddio lens Bourdieuaidd, archwiliodd Sara sut mae gwahanol ffurfiau o gyfalaf - economaidd, diwylliannol a symbolaidd - yn dylanwadu ar bwy sy’n cael budd o fentrau’r clwb, gan dynnu sylw at y dimensiynau perthnasol sy’n aml yn cael eu hanwybyddu mewn metrigau traweffaith.
Left to right: Sara Hilton, Aaron Squire
Cyflwynodd Aaron Squire astudiaeth ansoddol ar ganfyddiadau cyflogwyr o bobl gyda chofnod troseddol. Archwiliodd ymchwil Aaron sut y gall stigma a chanfyddiadau ynghylch risg gyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth, tra ar yr un pryd yn archwilio sut y gall cyflogaeth gefnogol leihau aildroseddu a gwella pwrpas a lles. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfweliadau gyda 20 o gyflogwyr a phedwar darparwr gwasanaeth, gan adnabod rhwystrau megis ceisio osgoi risg a phryder gormodol ynghylch rhai mathau o droseddau, wrth dynnu sylw at y potensial ar gyfer newid positif drwy addysg a newidiadau polisi.
Trafododd Helena Barlow ymchwil ar brofiadau merched o gyn-bartneriaid yn stelcian, gan gyfuno cyfweliadau gyda merched ac ymarferwyr er mwyn datgelu patrymau cudd o ofn, cyfrifoldeb a normau cymdeithasol sy’n galluogi stelcian. Pwysleisiodd Helena draweffaith arhosol trawma a phwysigrwydd arfer adfyfyriol, gan ddangos sut mae hunaniaeth broffesiynol a phrofiadau personol yn trawstorri mewn ymatebion gwaith cymdeithasol.
Left to right: Helena Barlow, Gayle Davison & Louise Bosanquet
Cyflwynodd Louise Bosanquet, myfyriwr PhD trydedd flwyddyn, ei gwaith ymchwil cyd-gynhyrchiol gyda phrofiad bywyd grŵp ffocws Outside In, sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Cyfrannodd aelodau o’r grŵp eu harbenigedd er mwyn helpu i siapio ymchwil Louise a chefnogi addysg gwaith cymdeithasol. Bu i’r agwedd gydweithredol yma feithrin ymdeimlad o gynhwysiant a chyfeillgarwch, gan roi ymwneud ystyrlon i gyfranogwyr yn y broses ymchwil a thynnu sylw at werth profiad bywyd er mwyn bod yn sail i addysg ac ymarfer.
Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiaduron a Pheirianneg
Cyflwynwyd sesiwn agoriadol y prynhawn gan Elena Cassidy-Smith ar gyfer Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura a Pheirianneg (FACE) gyda’i chyflwyniad Mae fy nghysgod yn cerdded ochr yn ochr â mi - ymchwil ar waith, ymchwiliad celf weledol yn seiliedig ar ymarfer i mewn i amser a bodolaeth ofodol. Mae ymchwil Elena, sy’n cynnwys creu gwaith celf fel rhan o’i thaith, yn archwilio’r cysyniad o amser; treigl amser, sut mae’n teimlo, beth yw ef, cysyniad o amser araf, a theorïau ynghylch allanoliaeth a byw yn y presennol. Pwnc sydd wir yn achos chwilfrydedd.

Elena's work
Yna, siaradodd Dmitrii Iarovoi am ei brofiad yn defnyddio cynllunio traweffaith fel rhan o’i daith PhD. Teitl y sesiwn hon oedd Cyd‑greu ar gyfer dyfodolau diwylliannol: sut mae cynllunio traweffaith yn llunio ymchwil treftadaeth AI. Cyffyrddodd Dmitrii ar yr adnoddau cynllunio traweffaith a ddefnyddir, y safbwyntiau ffres a enillwyd, a sut y bu i’r ymarfer ei helpu i baratoi ar gyfer parti allanol oedd â diddordeb ac ymgysylltu’n llwyddiannus gydag ef. Darparodd Dmitrii sylwadau craff a chynghorion gwych ar gyfer cyd-fyfyrwyr ar sut y gall cynllunio effeithiol gefnogi traweffaith y tu hwnt i’r byd academaidd.
Nesaf i ymddangos oedd Robert Tracey a siaradodd am Wreiddio deinamig data yn seiliedig ar argaeledd a budd adnoddau. O safbwynt hygyrch, nad yw’n gwneud cyfiawnder dyledus â’r ymchwil, crëodd Robert fframwaith sy’n adnabod y clwstwr gorau neu’r nod sengl (cyfrifiadura) er mwyn rhedeg swyddi arno o fewn sefydliad. Mae’n casglu data mewn amser go iawn, yn addasu i anghenion defnyddwyr ac yn cefnogi effeithlonrwydd o ran adnoddau. Darn allweddol o wybodaeth yn cael ei rhannu yn y sesiwn oedd sut mae rhai elfennau o’r fframwaith yn seiliedig ar natur, megis sut mae gwenyn mêl hŷn yn dod o hyd i ffynonellau posib ac yn dychwelyd i’r cwch gwenyn gan wneud dawns ‘waglo’ - y gorau yw’r ffynhonnell, yna’r gorau yw’r ddawns!
Yn olaf roedd Gbenga Akinyemi ar Fethodolegau mewn Canfod Safbwyntiau ac Ymchwil Dadansoddiad Emosiynol: Gan Ganolbwyntio ar Feddyliau Barddonol. Mae ymchwil Gbenga’n archwilio tueddiadau datblygiadol mewn adnoddau geirfaoedd, a sut maent yn cael eu cymhwyso mewn dadansoddiad teimladol barddonol a thestunol. Eglurodd mai geirfa (lecsicon) yw casgliad o eiriau gyda gwerth teimladol yn gysylltiedig. Mae Gbenga wedi ymgymryd ag ymchwil dadansoddol amrywiol adnoddau lecsigon er mwyn creu matrics tystiolaeth y gellir ei ddefnyddio wedyn yn rhan o’i ddadansoddiad teimlad barddonol.
Diolch i’n holl fyfyrwyr PhD FACE am roi cipolwg graff ar eich ymchwil.
Posteri, Fformat Creadigol a Sgyrsiau Byrion
Left to right: Adekunle Oladiji, Morgaine Jeffreys-Evans, Viktoriia Iarovoa
Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys sesiwn fformat posteri a chreadigol, gan arddangos amrywiaeth o waith arloesol. Arddangosodd Karolina Skorek waith celf yn archwilio Tirweddau ar y Trothwy: Meithrin Amgylcheddau Emosiynol Drwy Arfer Gweledol; cyflwynodd Adekunle Oladiji boster ar ddulliau a thechnegau crwydro’r we, rhannodd Morgaine Jeffreys-Evans ymchwil ar arferion angladd oedd yn newid yng Nghymru, a chyflwynodd Viktoriia Iarovoi boster creadigol yn archwilio celf a newid hinsawdd. Roedd y sesiwn hon yn tynnu sylw at y dulliau a’r fformatau amrywiol mae ein hymchwilwyr yn ei ddefnyddio i gyfathrebu eu gwaith, o gelf weledol i gyflwyniadau rhyngweithiol a chreadigol.
Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys sgyrsiau byrion, gan gynnwys archwiliad Liz Broom o brosesau meddwl, hyblygrwydd gwybyddol a rheoli straen, a gwaith Emma King ar ddefnyddio dulliau’n seiliedig ar gelfyddyd i fod yn sail i ddulliau sy’n ystyriol o drawma o fewn Fwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Nod ymyriadau creadigol Emma yw cefnogi lles, gwella dulliau ataliol megis rhagnodi cymdeithasol, a chynnig datrysiadau arloesol i heriau sefydliadol.
Left to right: Liz Broom's presentation slide, Emma King
Gyda’i gilydd, fe wnaeth Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig 2026 dynnu sylw at ehangder a dyfnder ymchwil ôl-raddedig ar draws disgyblaethau. O draweffaith cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol i ddysgu arloesol, ymyriadau iechyd yn seiliedig ar y celfyddydau, ac archwiliadau creadigol mewn fformatau gweledol a digidol, roedd ein myfyrwyr yn arddangos chwilfrydedd, cydweithrediad a chymhwysiad ymarferol ymchwil at newidiadau o fewn y gymdeithas. Bu i’r sesiwn bosteri a chreadigol, oedd yn cynnwys gweithiau celf, astudiaethau ar fodelau iaith mawr, newidiadau mewn arferion angladd yng Nghymru a phrosiectau celf yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, arddangos ymhellach y ffyrdd arloesol mae ein hymchwilwyr yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd amrywiol.
