Grŵp Ymchwil Newydd - CODi

Efallai bod rhai pobl yn ystyried y rhif 13 yn un anlwcus, ond roedd 13 Ebrill 2026 yn sicr yn un lwcus, wrth i’r olwyn ddechrau troi ar gyfer grŵp ymchwil newydd.
Mae Dr Grace Thomas yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn y ddisgyblaeth Ymgysylltu â’r Celfyddydau ac mae ei hymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar wella hygyrchedd y celfyddydau i bobl anabl ac ymchwilio sut y gall y celfyddydau fabwysiadu cyfiawnder cymdeithasol. Mae rhan o’r ymchwil hyd yma yn cynnwys cynnal fforymau â grwpiau celfyddydau anabl ledled Wrecsam yn 2025 i dynnu ar brofiadau bywyd a safbwyntiau aelodau anabl y cymunedau yn yr ardal leol.
Mae Grace yn gweithio i dynnu’r bobl sydd wedi cydweithio a chyfrannu at ei gwaith yn y man hwn hyd yma ynghyd ac mae wedi sefydlu grŵp ymchwil i gefnogi hyn. Enw’r grŵp newydd yw ARISE (Ymchwil y Celfyddydau ar gyfer Cynhwysiant a Chydraddoldeb Cymdeithasol) ac eglurodd Grace fod y gyfres o gyfarfodydd ARISE dechreuol yn lansio “gyda 3 sesiwn drafod lle y gall y grŵp rannu syniadau a thrafod elfennau gwahanol anabledd a’r celfyddydau. Y nod yw cael ystod o safbwyntiau - gweithredu dros anabledd, arferion creadigol, dulliau academaidd, ac eirioli dros iechyd meddwl - i ddatblygu prosiectau yn y dyfodol, meithrin cysylltiadau newydd, a chryfhau gwybodaeth”.
Cafodd y sesiwn gyntaf ei chynnal yn hybrid a bu’n gyfuniad o ymarferwyr, ymchwilwyr, unigolion â phrofiadau bywyd, ac eiriolwyr. Cafodd elfen wyneb yn wyneb y cyfarfod ei chynnal mewn man creadigol, hyfryd yn safle Prosiect Glowyr Wrecsam. Caiff amrywiaeth o fentrau celfyddydau cymunedol eu cynnal yn y man sy’n cynnwys Celf i Oedolion Anabl, Celf i Bobl Ifanc yn eu Harddegau, a Chelf i Oedolion, a hynny’n enwi llond llaw yn unig. Cafodd natur ansicr y ffrydiau ariannu sy’n cefnogi’r sesiynau celf ei hamlygu gan y tîm a chafodd yr her hon ei phwysleisio. Cafodd y bwyd blasus yn y caffi ar y safle yn lleoliad y Prosiect Glowyr ei frolio hefyd! 😋
Ar ôl i’r cyfarfod ddechrau, cafodd pawb y cyfle i gyflwyno’u hunain a rhannu sut y maen nhw’n gysylltiedig ag ARISE. Roedd hyn o fudd mawr i leihau cynnwrf y grŵp a chreu lleoliad croesawgar. Darparodd Grace drosolwg o’i chefndir, meysydd ymchwil sydd o ddiddordeb iddi a’i gobaith ar gyfer y grŵp.

Cafodd trafodaethau mewn grwpiau bach eu cynnal ar yr heriau a ddaw i ran y bobl, yn ogystal â ‘meddwl yn greadigol’ am nodau a chyfleoedd posibl. Llwyddodd bob un i sbarduno sgyrsiau hynod ddiddorol ac a oedd yn ysgogi’r meddwl. Amrywiodd y pynciau o effaith costau lleoliad i gynnal sesiynau celfyddydau hygyrch, problemau trafnidiaeth, llesiant iechyd meddwl a chelfyddydau mewn mannau gwyrdd.
Cafodd rhai nodau ac amcanion dechreuol eu trafod, a oedd yn cynnwys:
- Creu a chryfhau cysylltiadau cymunedol
- Ymchwil effeithiol, gadarn gyda data ategol
- Darparu cyfleoedd i unigolion ag anableddau gael uwchsgilio, cael hyfforddiant ac ennill cymwysterau
- Dull cydlynol a chymorth i sicrhau cyllid
- Herio’r ddelwedd a’r canfyddiad ynghylch pobl ag anableddau (anableddau amlwg a chudd)
- Nodi mannau cyhoeddus sy’n teimlo’n ddiogel ac yn hygyrch y gall grwpiau ac unigolion eu defnyddio
Aeth sgyrsiau hefyd i’r afael â’r diffyg ymwybyddiaeth sy’n bodoli o hyd o ran anghenion unigolion, a sut nad yw technoleg yn cael ei defnyddio ddigon o ran cefnogi pobl ag anableddau o hyd. Roedd hefyd yn glir bod gan aelodau awydd cryf i rymuso pobl eraill ac i ganfod ffordd o lwyddo, ac mae sicrhau arian yn anghenraid yn y maes. Aeth dwy awr heibio mewn chwinciad ac roedd y teimlad cyffredinol ar ddiwedd y cyfarfod yn un a oedd yn llawn angerdd, brwdfrydedd ac awydd. Nod y sesiwn nesaf yw diffinio nodau ar gyfer ARISE sut y mae modd cyflawni’r nodau hyn. Cadwch lygad allan am ddiweddariadau yn y dyfodol.
