Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil, Gorffennaf 2025

Cafodd sesiwn olaf y Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil yn y flwyddyn academaidd hon ei chadeirio gan yr Athro Wulf Livingston. Dechreuwyd y sesiwn gyda dau gyhoeddiad – yn gyntaf, cyhoeddiad ynglŷn â chyfleoedd i gyflwyno yn y Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf (os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’r Swyddfa Ymchwil); ac yn ail, atgoffâd y bydd y gystadleuaeth Ymchwil Delweddu ar agor tan ddydd Llun 14 Gorffennaf.
Yna, trosglwyddwyd yr awenau i siaradwr cyntaf y sesiwn, sef Dr Sanar Muhyaddin, sy’n ymchwilio i’r modd y gellir olrhain dulliau rheoli cadwyni cyflenwi adeg rhyfel. Soniwyd yn arbennig am y gadwyn cyflenwi llaeth yn Irac ac Wcráin a’r rôl sydd ganddi mewn llesiant busnes a diogeledd bwyd ymhlith ffactorau eraill. Cyflwynodd Sanar rywfaint o hanes Irac, yn cynnwys y ffaith mai amaethyddiaeth oedd prif weithgarwch yr hen Fesopotamia ers dechrau gwareiddiad oherwydd y cyflenwad dŵr croyw. Hefyd, cyflwynodd drosolwg o hanes gwrthdaro yn y wlad, yn cynnwys y Rhyfel rhwng Iran ac Irac (yn y 1980au), Rhyfel y Gwlff (yn y 1990au) a’r rhyfel yn Irac dan arweiniad yr Unol Daleithiau (yn ystod degawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain). Erbyn diwedd y 1970au, roedd Irac yn hollbwysig o ran cynhyrchu bwyd ar gyfer y Dwyrain Canol; ond yn dilyn y rhyfeloedd, cymerwyd y cnydau ŷd a dinistriwyd y tir, ac amcangyfrifir colledion refeniw sy’n cyfateb i $200 miliwn a mwy o ddoleri’r Unol Daleithiau. Mae angen buddsoddwyr er mwyn i’r wlad allu arallgyfeirio a bod yn llai dibynnol ar gynhyrchu olew.
Ar hyn o bryd, mae Wcráin yng nghanol rhyfel, ac mae hyn yn cael effaith ar gynhyrchu llaeth. Mae 42% o’r holl laeth wedi’i gynhyrchu mewn rhanbarthau sydd wedi dioddef y sielio a’r feddiannaeth waethaf, ac yn 2022 gwelwyd dirywiad o 12% yn nifer y gwartheg.
Mae Sanar a’i gydweithwyr ymchwil yn defnyddio dulliau cymysg i archwilio tri chwestiwn ymchwil, gyda’r nod o allu cynghori Llywodraethau a Sefydliadau Anllywodraethol ynglŷn â sut y gallant gynorthwyo ffermwyr yn y gwledydd hyn:
1. Sut y mae’r rhyfel yn effeithio ar olrhain y Gadwyn Cyflenwi Bwyd?
2. Pa rwystrau a heriau sy’n wynebu ffermwyr a phroseswyr llaeth yn Irac ac Wcráin adeg rhyfel?
3. Sut y mae ffermwyr a phroseswyr llaeth yn Irac ac Wcráin yn arfer dulliau olrhain yn y gadwyn cyflenwi bwyd? Pa ffactorau sy’n effeithio ar y broses?
Mae aelodau’r tîm wedi llunio holiadur ar gyfer casglu data ac maent yn gweithio ar Gymeradwyaeth Foesegol ac yn chwilio am gyllid ar hyn o bryd. Dymuniadau da i Sanar a’i gydweithwyr a phob lwc gyda’r ymchwil.
Y siaradwr nesaf oedd Andrew Sharp, a rannodd gyhoeddiad cynhadledd sy’n rhan o’i ymchwil PhD. Cyflwynwyd y papur, sef Numerical Optimisation of Air-cooled Heat Sink Geometry to Improve Temperature Gradient of Power Semiconductor Modules, yn y Symposiwm Rhyngwladol ar Electroneg Ddiwydiannol ym mis Tachwedd 2024.
Mae ymchwil Andrew yn ymwneud â Gwella Graddiant Tymheredd Modiwlau Lled-ddargludyddion Pŵer wedi’u Gosod ar Sinc Wres Aer Gwthiol [mi ddes i o hyd i’r teitl ar wefan Prifysgol Wrecsam]. Mae methiannau mewn cydrannau dyfeisiau electronig pweredig yn digwydd yn aml oherwydd methiant lled-ddargludyddion. Un ateb yw sinciau gwres aer gwthiol – sef bloc o alwminiwm, fel arfer, gyda thoriadau mân yn y gwaelod i drosglwyddo gwres oddi wrth y lled-ddargludydd. Lleolir gwyntyll ar un ochr i’r sinc wres er mwyn i aer lifo trwy’r esgyll. Ond mae ffurfweddiad y sinc wres yn esgor ar wahaniaeth yn y tymheredd (graddiant) ar hyd y sinc wres wrth i’r aer gynhesu wrth deithio ar hyd y sinc wres, felly mae rhai cydrannau’n oeri mwy nag eraill ac mae hyn yn effeithio ar y straen a roddir ar y cydrannau, gan arwain at fethiannau cynnar.
Mae ymchwil Andrew yn ystyried a ellir esgor ar dymheredd cyson ar draws y sinc wres trwy gyflwyno newidiadau syml i sinc wres safonol. Mae papur y gynhadledd yn trafod sut y mae gwneud toriad siâp triongl yn esgyll y sinc wres yn peri i’r cydrannau sydd agosaf at y wyntyll fod yn boethach, sef rhywbeth sy’n llwyddo i gadw graddiant y tymheredd yn fwy gwastad wrth i’r aer symud trwy’r sinc wres. Ond un dull yn unig yw hwn o blith tri sy’n rhan o waith ymchwil Andrew. Yn ôl Andrew, gwelwyd cydberthyniad da rhwng dulliau ffisegol ac efelychol o fesur effeithiolrwydd y toriad siâp triongl. Diweddodd Andrew trwy ddweud mai un o’r pethau y mae’n ymfalchïo mwyaf ynddo yw gallu cynnig cyfle i’w fyfyrwyr israddedig gymryd rhan yn yr ymchwil, ac mae un o’i fyfyrwyr yn gydawdur papur y gynhadledd. Da iawn Andrew a phob lwc gyda’r traethawd PhD y bwriadwch ei gyflwyno’n ddiweddarach eleni.
Yn olaf, siaradodd Maddy Nicholson am ail ran ei hymchwil PhD, sef ‘A mixed methods cross sectional service evaluation of physiotherapist and Motivational Interviewing (MI) perspectives in Musculoskeletal (MSK) service delivery.’
Esboniodd Maddie fod cyflyrau cyhyrysgerbydol yn cael eu trin fel arfer gyda ffisiotherapi a bod y cyflyrau’n cael effaith ar y bobl sy’n eu dioddef a hefyd ar yr economi mewn nifer o ffyrdd. Un dull a ddefnyddir ochr yn ochr â ffisiotherapi yw Cyfweld Ysgogiadol, sy’n helpu i dywys pobl tuag at newid mewn partneriaeth a chyda derbyniad. Nod Maddie yw gwerthuso ymarfer ffisiotherapi cyhyrysgerbydol cyfredol er mwyn llywio ymyriad hyfforddi Cyfweld Ysgogiadol, ynghyd ag archwilio safbwyntiau ffisiotherapyddion cyhyrysgerbydol, a gyfarwyddir gan werthusiad o’r ymarfer cyfredol, er mwyn optimeiddio’r ymyriad hyfforddi.
Esboniodd Maddie y gwerthusiad dulliau cymysg trawstoriadol trwy ddefnyddio samplau a ddefnyddiwyd ganddi, a gyd-grëwyd gan grŵp cynghorol o gleifion, rheolwyr a ffisiotherapyddion. Aeth y ffisiotherapyddion ati i gofnodi ymgynghoriadau a gynhaliwyd gyda chleifion, a chawsant eu dadansoddi wedyn. Yna, cynhaliodd y ffisiotherapyddion gyfweliadau lled-strwythuredig a ddadansoddwyd trwy ddefnyddio dadansoddiad thematig. Gwelwyd bod y cwestiynau’n defnyddio myfyrdodau syml yn bennaf a bod y sgyrsiau’n darparu gwybodaeth yn hytrach na dechrau trafodaeth ynglŷn â chyflwyno newid. Yn aml, câi’r cleifion eu hystyried o safbwynt biolegol yn hytrach na chael eu hystyried fel unigolion. Daeth sgwrs Maddie i ben trwy nodi bod y canlyniadau wedi llywio ymyriad hyfforddi Cyfweld Ysgogiadol ar gyfer ffisiotherapyddion, y gellir ei ddefnyddio mewn astudiaeth ddichonoldeb yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at glywed am yr astudiaeth honno.
Fe wnaeth yr Athro Wulf Livingston ddirwyn y sesiwn i ben trwy ddweud pa mor braf oedd gweld hyd a lled y gwaith ymchwil a wneir trwy’r Brifysgol. Diolch yn fawr i’r holl siaradwyr, ac edrychwn ymlaen at weld pawb pan fydd y gyfres yn ailddechrau yn y flwyddyn academaidd newydd. Haf hapus i bawb!