Taclo Jargon UCAS: Y Termau Clirio y Dylech fod yn Ymwybodol Ohonynt

Students talking in a bright and creative environment

Os ydych yn ystyried gwneud cais i Brifysgol Wrecsam yn ystod proses Glirio UCAS, bydd y canllaw taclo’r jargon hwn o gymorth i chi ddeall y termau mwyaf cyffredin. Gall chwilio am le mewn prifysgol yn hwyr yn y cylch ymgeisio deimlo’n eithaf llethol os nad ydych wedi paratoi, felly mae mynd i’r afael â therminoleg Glirio yn hanfodol er mwyn gwneud y dewis cywir ar gyfer eich dyfodol. 

Mae termau megis “Dewis Wrth Gefn,” “Clearing Plus,” a “Rhif Adnabod Clirio” yn siŵr o ddod i fyny’n ystod eich sgyrsiau. Er mwyn helpu i symleiddio’r broses hon, rydym wedi crynhoi termau hanfodol Clirio UCAS y dylech fod yn gyfarwydd â hwy fel y gallwch gymryd eich cam nesaf yn gwbl hyderus. 

Yr Hanfodion: Elfennau Sylfaenol Eich Cais 

Cyn cychwyn ar y broses Glirio, mae’n debyg y byddwch yn gweld y termau craidd hyn ar eich porth UCAS: 

RHIF ADNABOD UCAS (Rhif Adnabod Personol): Rhif 10 digid unigryw i chi yw hwn, a dderbynioch pan oeddech yn creu eich cyfrif UCAS. Ystyriwch ef fel eich rhif pasbort myfyriwr. Bydd prifysgolion wastad yn gofyn am hwn er mwyn cael eich manylion yn gyflym. 

Dewis Cadarn: Dyma eich prifysgol dewis cyntaf, pennaf. Os gawsoch gynnig amodol a’ch bod yn derbyn y graddau sydd eu hangen ar ddiwrnod y canlyniadau, bydd lle i chi yma’n awtomatig. 

Dewis Wrth Gefn: Eich rhwyd diogelwch. Dyma eich prifysgol ail ddewis. Os yw’ch dewis cyntaf yn gwrthod eich cais ond eich bod wedi derbyn y graddau ar gyfer eich dewis wrth gefn, bydd system UCAS yn cadarnhau eich lle yno’n awtomatig 

Dod yn rhan o'r Broses: Beth yw Clirio? 

Mae’n hollol naturiol i ailystyried eich cynlluniau. P’un a yw eich canlyniadau wedi agor cyfleoedd newydd, eich blaenoriaethau wedi newid, neu eich bod wedi sylweddoli nad yw eich dewis gwreiddiol yn addas mwyach, mae gennych ddewis. Bydd y gyfres nesaf o dermau yn eich helpu i lywio eich camau nesaf. 

Clirio UCAS: Gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan UCAS yw Clirio, sy’n cyfateb prifysgolion sydd â lleoedd gwag ar eu cyrsiau â myfyrwyr sydd heb gynnig ar hyn o bryd. Byddwch yn dod yn rhan o Clirio yn awtomatig os: 

  • Na dderbynioch unrhyw gynigion ar eich cais cyntaf. 
  • Na wnaethoch fodloni’r amodau mynediad ar gyfer eich Dewis Cadarn na’ch Dewis Wrth Gefn. 
  • Gwnaethoch gais i’r brifysgol ar ôl y prif ddyddiad cau ym Mehefin. 

Cewch hefyd ddewis ymuno â Clirio os ydych wedi newid eich meddwl ac nad ydych yn dymuno mynychu eich prifysgol Gadarn wreiddiol na’ch prifysgol Wrth Gefn mwyach. Fodd bynnag, peidiwch â gwrthod eich cynigion presennol nes i chi dderbyn cynnig newydd drwy Clirio yn ysgrifenedig gan eich prifysgol newydd. 

Eich Rhif Adnabod Clirio: Unwaith y byddwch yn gymwys ar gyfer y broses, bydd Rhif Adnabod Clirio newydd sbon yn ymddangos ar dudalen groeso eich Hwb UCAS. Mae’n bwysig nodi bod hwn yn hollol wahanol i’ch Rhif Adnabod Personol UCAS 10 digid. Pan ydych yn ffonio prifysgol i ofyn am le, bydd cael y ddau rif wedi eu hysgrifennu o’ch blaen yn cyflymu’r broses yn sylweddol. 

Clearing Plus: Os cewch eich hun yn y broses Glirio, mae gan UCAS nodwedd baru glyfar o’r enw Clearing Plus. Mae’r adnodd hwn yn edrych ar eich cais gwreiddiol, eich graddau a’ch dewis o bynciau er mwyn cynhyrchu rhestr bersonol o brifysgolion sydd â lleoedd gwag sy’n gweddu i’ch proffil, yn awtomatig. Mae’n llwybr cyflym gwych i ganfod cyrsiau arbennig nad oeddech efallai wedi eu hystyried yn wreiddiol. 

 

Peidiwch â Phoeni, Does Dim Rhaid i Chi Gofio Popeth! 

Tra bod y termau hyn yn ddefnyddiol, does dim rhaid i chi lywio’r system hon ar ben eich hun. 

Pan fyddwch yn ffonio tîm Clirio Prifysgol Wrecsam, byddwch yn siarad â chynghorydd cyfeillgar, dynodedig fydd yn eich arwain drwy’r camau, yn esbonio’r jargon ac yn eich helpu i sicrhau’r llwybr cywir ymlaen ar gyfer eich dyfodol. Ewch i’n tudalen clirio i gael gwybod mwy