
Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth Iechyd a Lles
Gall hyfforddiant ac ymgynghoriaeth sicrhau bod polisïau eich gweithle yn unol â’r arferion gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ym maes iechyd a lles yn y gweithle.
Mae ein staff academaidd ym Mhrifysgol Wrecsam yn cynnig gwasanaethau hyfforddi ag ymgynghoriaeth wedi’u teilwra ar gyfer diwydiant, yn ogystal â’n rhaglenni academaidd a’n cyrsiau byr arferol. Mae ein gwasanaethau yn cynnig mewnwelediadau arloesol, strategaethau ymarferol a dulliau amhrisiadwy i gefnogi’ch sefydliad yn y dirwedd fusnes fodern sy’n esblygu’n barhaus.
Gwasanaethau Ymgynghoriaeth
• Cyngor ar bolisïau gweithle i gefnogi iechyd a lles, e.e. Polisi Iechyd Meddwl yn y Gwaith, Polisi Rheoli Straen, Polisi Defnyddio Sylweddau, Polisi Teithio Llesol, Polisi Cydbwysedd Gwaith-Bywyd, a.y.y.b.
• Cyngor ar ddylunio, gweithredu a gwerthuso strategaethau gwella iechyd, e.e. gwobrau gweithleoedd iach, dyluniad gweithle i annog dewisiadau iach.
• Cyngor ar gynnal Asesiadau Risg Straen – archwiliadau, grwpiau ffocws a chynlluniau gweithredu.
Gwasanaethau Hyfforddiant
Gellir teilwra sesiynau hyfforddi hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn i ofynion y sefydliad a’u targedu at reolwyr llinell, adnoddau dynol, iechyd galwedigaethol neu grwpiau penodol o weithwyr.
Gall pynciau gynnwys:
• Cyflwyniad i Iechyd a Lles
• Arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl cyffredin/straen
• Problemau Iechyd Meddwl yn y Gweithle
• Y sail gyfreithiol dros weithredu: Deddf Iechyd a Diogelwch a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010
• Safonau Rheoli Straen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
• Astudiaethau Achos o Arfer Da
• Addasiadau Gweithle Rhesymol ar gyfer Staff sy’n Profi Problemau Iechyd Meddwl
• Mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu yn y gweithle
• Creu diwylliant gweithle sy’n hyrwyddo iechyd meddwl