Galwch nawr am leoedd Medi 2026! 01978 293439

decorative

Gweithdai Proffesiynol

Datblygwch eich sgiliau, ennill mewnwelediadau newydd a chefnogwch eich datblygiad proffesiynol drwy ein rhaglen o weithdai.

Wedi’u cynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol, timau a sefydliadau, mae ein gweithdai’n cynnig gwybodaeth ymarferol, arweiniad gan arbenigwyr a chyfleoedd i archwilio pynciau cyfredol a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn ystod o sectorau.

Porwch y gweithdai sydd i ddod isod i ddod o hyd i gyfleoedd sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch nodau datblygu, neu cysylltwch â ni i drafod trefnu gweithdy neu sesiwn hyfforddiant wedi’i theilwra ar gyfer eich sefydliad.

Costau a Chyllid

Mae’n bosib y bydd Cyllid Twf Lleol ar gael i gefnogi unigolion cymwys sy’n byw neu’n gweithio yn Wrecsam gyda chost gweithdai a chyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

I weld a ydych yn gymwys, cofrestrwch ar gyfer eich gweithdy dewisol. Bydd eich cymhwysedd ar gyfer cyllid yn cael ei asesu wedyn, a byddwn yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth. Mae cyllid yn amodol ar feini prawf cymhwysedd ac argaeledd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â enterprise@wrexham.ac.uk.

Cyrsiau sydd ar Gael

Hydref 2026

  • Adeiladu Tîm Effeithiol: Y Pum Sylfaen

      Dydd Mawrth 20fed Hydref 2026, 10:00 – 13:00

      Mae'r gweithdy hanner diwrnod ymarferol a rhyngweithiol hwn yn canolbwyntio ar feithrin diwylliant tîm sy'n perfformio'n uchel, yn ymgysylltiedig ac yn arloesol. Mae'r sesiwn wedi'i chynllunio i rymuso perchnogion busnesau, rheolwyr ac aelodau timau gyda'r offer a'r sgiliau i ddatgloi potensial eu tîm. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i rannu'r heriau y maent yn eu hwynebu a datblygu atebion ymarferol sy'n addas ar gyfer eu hamgylcheddau gwaith unigryw. 

      Byddwn yn archwilio pum maes hollbwysig, sef ymddiriedaeth, gwrthdaro, ymrwymiad, atebolrwydd a chanlyniadau, gan drafod sut y gellir eu troi'n gryfderau sy'n galluogi timau i ffynnu. Trwy gyflwyno cysyniadau allweddol, astudiaethau achos, trafodaethau rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol, bydd cyfranogwyr yn ennill mewnwelediadau newydd a chamau gweithredu y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith. 

      Prif Ddeilliannau 

      • Adnabod y pum camweithrediad cyffredin mewn timau a deall pam mae mynd i'r afael â nhw yn hanfodol i lwyddiant tîm. 

      • Adnabod sut mae'r camweithrediannau hyn yn amlygu eu hunain o fewn deinameg eich tîm penodol. 

      • Cymhwyso strategaethau a gweithgareddau ymarferol i oresgyn rhwystrau a gwella canlyniadau. 

      • Creu cynllun gweithredu personol wedi'i gefnogi gan adnoddau perthnasol ar gyfer ei ddefnyddio yn y tymor hir. 

      • Elwa ar brofiadau a mewnwelediadau a rennir gan gymheiriaid o'r gymuned fusnes leol. 

      • Hanner diwrnod
      • Ystafell dosbarth
      • £300 fesul person

      Archebwch nawr

Tachwedd 2026

  • Ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch

      Dydd Gwener 6ed Tachwedd, 10:00 – 16:00

      Mae bygythiadau seiber yn her barhaus i sefydliadau o bob maint. Mae'r gweithdy rhyngweithiol a deniadol hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i gyfranogwyr sydd eu hangen i adnabod risgiau seiber cyffredin a helpu i ddiogelu gwybodaeth, systemau a data yn y gweithle. 

      Mae'r diwrnod yn dechrau gyda phrofiad Ystafell Ddianc cyffrous ar thema seiberddiogelwch, lle bydd cyfranogwyr yn cydweithio i ddatrys heriau sy'n seiliedig ar fygythiadau seiber go iawn. Yn y prynhawn, bydd y gweithdy'n archwilio pynciau seiberddiogelwch allweddol, gan gynnwys ymosodiadau gwe-rwydo (phishing), diogelwch cyfrineiriau, peirianneg gymdeithasol a sut i ymateb i weithgarwch amheus yn hyderus. 

      Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr ar bob lefel, mae'r gweithdy hwn yn helpu i feithrin diwylliant diogelwch cryf drwy alluogi unigolion i fod yn llinell amddiffyn gyntaf yn erbyn bygythiadau seiber. 

      Deilliannau Dysgu 

      Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

      • Adnabod bygythiadau seiber cyffredin ac arwyddion rhybuddio. 

      • Cymhwyso mesurau syml ond effeithiol i ddiogelu cyfrifon a gwybodaeth. 

      • Adnabod ymdrechion gwe-rwydo a thactegau peirianneg gymdeithasol. 

      • Disgrifio sut i riportio ac ymateb i ddigwyddiad seiber a amheuir. 

      P'un a ydych yn awyddus i gryfhau eich ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch eich hun neu i wella gwydnwch eich sefydliad, mae'r gweithdy hwn yn darparu gwybodaeth ymarferol y gellir ei rhoi ar waith yn syth yn y gweithle. 

      • Diwrnod llawn
      • Yn y labordy
      • £600 fesul person

      Archebwch nawr

  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth

      Mae arweinyddiaeth effeithiol yn ymwneud â llawer mwy na rheoli tasgau. Mae'n ymwneud ag ysbrydoli pobl, meithrin ymddiriedaeth, gwneud penderfyniadau hyderus a chreu amgylchedd lle gall unigolion a thimau ffynnu. Mae'r gweithdy diddorol diwrnod llawn hwn wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr uchelgeisiol, rheolwyr newydd a'r rhai sy'n dymuno cryfhau eu sgiliau arwain a rheoli. 

      Trwy gyfres o weithgareddau rhyngweithiol, heriau ymarferol ac ymarferion myfyrio personol, bydd cyfranogwyr yn archwilio sut beth yw arweinyddiaeth ragorol yn ymarferol. O fynd i'r afael â'r her ymgolli "Ar Goll ar y Môr" i ddatblygu strategaethau ar gyfer rhoi adborth caredig ac adeiladol, bydd cyfranogwyr yn ennill mewnwelediadau gwerthfawr i ymddygiadau arwain, gwneud penderfyniadau a deinameg timau. 

      Mae'r gweithdy hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrio ar eich taith arweinyddiaeth eich hun, nodi eich cryfderau a'ch meysydd datblygu, a chreu cynllun personol i gefnogi eich twf a'ch cynnydd gyrfaol yn y dyfodol. 

      Beth Fyddwch yn ei Brofi:  

      • Wal Cwestiynau Arweinyddiaeth – Rhannwch eich heriau a'ch cwestiynau arweinyddiaeth, gan helpu i lywio'r trafodaethau drwy gydol y dydd. 

      • Her Ar Goll ar y Môr – Archwiliwch wneud penderfyniadau, ymddiriedaeth, rheoli gwrthdaro ac ymddygiadau arweinyddiaeth drwy weithgaredd datrys problemau sy'n seiliedig ar waith tîm. 

      • Adborth Caredig a Chandidaidd – Dysgwch sut mae arweinwyr effeithiol yn defnyddio adborth i gefnogi twf, perfformiad a datblygiad. 

      • Mapio Arweinyddiaeth – Myfyriwch ar eich arddull arwain, eich gwerthoedd a'ch dyheadau i feithrin hyder, eglurder ac ymdeimlad o bwrpas. 

      Deilliannau Dysgu 

      Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

      • Deall modelau ac ymddygiadau arweinyddiaeth allweddol. 

      • Adnabod rôl ymddiriedaeth mewn gwneud penderfyniadau effeithiol. 

      • Cymhwyso technegau gwell ar gyfer darparu adborth adeiladol. 

      • Datblygu cynllun gweithredu personol i gefnogi eu twf fel arweinydd. 

      P'un a ydych yn cymryd eich camau cyntaf mewn arweinyddiaeth neu'n dymuno mireinio eich dull rheoli presennol, bydd y gweithdy hwn yn darparu offer ymarferol, safbwyntiau newydd a mwy o hyder i arwain yn effeithiol yn y gweithle modern. 

      • Diwrnod Llawn
      • Yn y dosbarth
      • £300 fesul person

      Archebwch nawr

  • Deallusrwydd Artiffisial yn y Gweithle

      Dydd Gwener 20fed Tachwedd, 10:00 – 16:00

      Darganfyddwch sut y gall AI eich helpu i weithio'n gallach, arbed amser a chynyddu cynhyrchiant. Mae'r gweithdy ymarferol hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i ddefnydd effeithiol Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer tasgau bob dydd yn y gweithle, gan gynnwys drafftio cynnwys, crynhoi gwybodaeth a chynhyrchu syniadau newydd. 

      Drwy weithgareddau rhyngweithiol, gan gynnwys profiad Ystafell Ddianc difyr ar thema AI, bydd cyfranogwyr yn archwilio sut i gael y canlyniadau gorau o offer AI drwy greu anogiadau effeithiol, asesu allbynnau a deall pwysigrwydd defnydd cyfrifol. Bydd y gweithdy hefyd yn ymdrin ag ystyriaethau seiberddiogelwch allweddol i helpu i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn ddiogeladwy yn y gweithle. 

      Deilliannau Dysgu 

      Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

      • Adnabod cyfleoedd addas I ddefnyddio AI o few neu rôl 

      • Ysgrifennu anogiadau effeithiol a gwerthuso ymatebion a gynhyrchir gan AI 

      • Adnabod risgiau syn’n ymwneud â chywirdeb, rhagfarn a gwybodaeth gyfrinachol 

      • Deall ystryriaethau allweddol ym maes seiberddiogelwch wrth ddefnyddio offer AI 

      P’un a ydych yn bwriadu datblygu eich sgiliau digidol eich hun neu gefnogi arloesedd o fewn eich sefydliad, mae’r gweithdy hwn yn darparu cyflwyniad ymarferol i ddefnyddio AI yn hyderus yn y gweithle. 

      • Diwrnod llawn
      • Yn y labordy
      • £600 fesul person

      Archebwch nawr

Ionawr 2027

  • Newid Sefydliadol

      Dydd Iau 21ain Ionawr 2027, 10:00 – 15:00

      Yn amgylchedd busnes cyflym heddiw, mae'n rhaid i sefydliadau addasu'n barhaus i heriau, technolegau a chyfleoedd newydd. Mae arwain newid yn llwyddiannus yn gofyn am fwy na gweithredu prosesau newydd yn unig. Mae'n gofyn am arweinyddiaeth gref, cyfathrebu clir a'r gallu i ddod â phobl gyda chi ar y daith. 

      Mae'r gweithdy diwrnod llawn deniadol hwn wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr uchelgeisiol, rheolwyr newydd a'r rhai sydd am gryfhau eu galluoedd ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth. Bydd cyfranogwyr yn archwilio sut mae sefydliadau'n llywio newid, yn ymchwilio i fodelau rheoli newid profedig ac yn datblygu strategaethau ymarferol ar gyfer arwain timau drwy gyfnodau o ansicrwydd a thrawsnewid. 

      Trwy drafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos o'r byd go iawn a myfyrio personol, bydd cyfranogwyr yn ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i gefnogi newid cadarnhaol yn eu sefydliad. 

      Beth Fyddwch yn ei Brofi 

      • Meithrin Gallu Arweinyddol – Archwiliwch ddulliau arweinyddiaeth addasol a dilys, a darganfyddwch sut y gallant lunio eich arddull arweinyddiaeth a'ch effeithiolrwydd. 

      • Cymhwyso Modelau Newid – Archwiliwch fframweithiau rheoli newid sefydledig, gan gynnwys y rhai a ddatblygwyd gan Kotter a Lewin, a dysgwch sut y gellir eu defnyddio i gynllunio a rheoli newid sefydliadol. 

      • Dysgu o Brofiadau Arweinyddiaeth – Adolygwch sut mae sefydliadau fel Google a General Motors wedi ymateb i newid, a nodwch wersi gwerthfawr y gellir eu cymhwyso yn eich gweithle eich hun. 

      • Cynllunio ar gyfer Newid – Myfyriwch ar newidiadau sydd ar ddod yn eich sefydliad neu'ch tîm a datblygwch ddulliau ymarferol o arwain a chefnogi eraill drwy gyfnodau o drawsnewid. 

      Deilliannau Dysgu 

      Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

      • Deall modelau a fframweithiau allweddol ar gyfer newid sefydliadol. 

      • Cymhwyso egwyddorion rheoli newid i sefyllfaoedd go iawn yn y gweithle. 

      • Gwerthuso effaith ffactorau mewnol ac allanol ar newid sefydliadol. 

      • Datblygu cynllun gweithredu ymarferol ar gyfer arwain a rheoli newid yn effeithiol. 

      P'un a ydych yn paratoi ar gyfer rôl arweinyddiaeth, yn rheoli newid o fewn eich tîm, neu'n ceisio cryfhau eich gallu i lywio trawsnewid sefydliadol, bydd y gweithdy hwn yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr, offer ymarferol a'r hyder i arwain newid yn llwyddiannus. 

      • Diwrnod llawn
      • Ystafell dosbarth
      • £300 fesul person

      Archebwch nawr

  • Llunio Ceisiadau Cyllid Grant Llwyddiannus: Cyflwyniad Ymarferol

      Dydd Mercher 27ain Ionawr 2027, 10:00 – 16:00

      Gall sicrhau cyllid agor drysau i gyfleoedd newydd ar gyfer twf, arloesedd ac effaith, ond gall gwybod ble i ddechrau deimlo'n llethol yn aml. Mae'r gweithdy ymarferol a deniadol hwn wedi'i gynllunio i helpu unigolion, sefydliadau cymunedol a busnesau i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i nodi cyfleoedd cyllido a datblygu ceisiadau cryf a chystadleuol. 

      Yn ystod sesiwn y bore, bydd cyfranogwyr yn archwilio'r dirwedd ariannu ehangach, gan ddatblygu dealltwriaeth o'r gwahanol ffynonellau cyllid sydd ar gael, gan gynnwys grantiau a llwybrau ariannu eraill. Drwy drafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos a gweithgareddau grŵp, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i adnabod cyfleoedd addas, deall disgwyliadau cyllidwyr a datblygu strategaethau ariannu effeithiol. Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio sut y gall perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid gryfhau ceisiadau a chynyddu'r tebygolrwydd o lwyddo. 

      Mae sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar yr agweddau ymarferol ar ysgrifennu ceisiadau grant llwyddiannus. Bydd cyfranogwyr yn ennill mewnwelediad i'r broses ymgeisio, yn dysgu sut i strwythuro cynigion cyllido perswadiol ac yn archwilio offer megis Theori Newid (Theory of Change) a modelau rhesymeg (logic models) i ddangos angen, effaith a chanlyniadau. Bydd y gweithdy hefyd yn ymdrin â gofynion monitro a gwerthuso, rhwymedigaethau adrodd a strategaethau ar gyfer cynnal prosiectau y tu hwnt i'r cyfnod cyllido cychwynnol. 

      Drwy ymarferion ymarferol, enghreifftiau o'r byd go iawn ac adnoddau a rennir, bydd cyfranogwyr yn gadael gyda'r offer a'r technegau y gellir eu defnyddio ar unwaith wrth fynd ar drywydd cyfleoedd cyllido yn y dyfodol. 

      Deilliannau Dysgu 

      Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

      • Deall y dirwedd gyllido ac adnabod cyfleoedd cyllido priodol. 

      • Ymchwilio i gyllidwyr, meini prawf cyllido a gofynion ymgeisio, a’u hasesu. 

      • Datblygu ceisiadau cyllido cryfach gan ddefnyddio technegau cynllunio ac ysgrifennu cynigion profedig. 

      • Cymhwyso offer ymarferol, gan gynnwys Theori Newid a modelau rhesymeg, i gryfhau ceisiadau am gyllid. 

      • Deall ystyriaethau allweddol sy’n ymwneud â monitro, gwerthuso a chynaliadwyedd prosiectau. 

      • Creu cynllun gweithredu personol i gefnogi gweithgareddau cyllido ac ysgrifennu ceisiadau yn y dyfodol. 

       P'un a ydych yn hollol newydd i geisiadau cyllido neu'n dymuno gwella eich cyfradd llwyddiant, mae'r gweithdy hwn yn darparu sylfaen ymarferol ar gyfer datblygu ceisiadau o ansawdd uchel a sicrhau cyllid i gefnogi eich nodau a'ch uchelgeisiau. 

      • Diwrnod Llawn
      • Ystafell dosbarth
      • £300 fesul person

      Archebwch nawr

Chwefror 2027

  • Hylendid Bwyd ac Ymwybyddiaeth o Alergenau

      Dydd Mawrth 9fed Chwefror 2027 9:30am – 4:00pm 

      Yn Prifysgol Wrecsam, rydym yn falch o fuddsoddi yn ein cymuned leol a'i chefnogi. Mae'r gweithdy ymarferol undydd hwn wedi'i gynllunio i helpu busnesau bwyd ledled Cymru i wella safonau diogelwch bwyd, diogelu eu cwsmeriaid a chryfhau eu henw da. 

      Gan gyfuno arweiniad arbenigol â dysgu ymarferol, mae'r gweithdy'n dod â hylendid bwyd ac ymwybyddiaeth o alergenau yn fyw drwy weithgareddau rhyngweithiol ac ymarferion ymarferol. Bydd cyfranogwyr yn ennill gwybodaeth werthfawr y gellir ei chymhwyso'n syth yn eu busnes, gan helpu i greu profiad bwyta mwy diogel a meithrin hyder cwsmeriaid. 

      Rhennir y diwrnod yn ddau fodiwl penodol: 

      Sesiwn y Bore: Hylendid Bwyd i Fusnesau Bwyd 
      Ennill dealltwriaeth ymarferol o egwyddorion hylendid bwyd ac arferion gorau. Trwy weithgareddau difyr a sesiwn ymarferol, bydd cyfranogwyr yn archwilio pynciau allweddol gan gynnwys diogelwch bwyd, atal halogiad, trin bwyd yn ddiogel a chynnal safonau hylendid uchel yn y gweithle. 

      Sesiwn y Prynhawn: Ymwybyddiaeth o Alergenau ar gyfer Trinwyr Bwyd 
      Gan fod alergeddau ac anoddefiadau bwyd yn effeithio ar nifer gynyddol o ddefnyddwyr, mae deall rheoli alergenau yn bwysicach nag erioed. Bydd y sesiwn ymarferol hon yn helpu cyfranogwyr i adnabod alergenau, deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol a rhoi gweithdrefnau effeithiol ar waith i leihau risg a diogelu cwsmeriaid. 

      Deilliannau Dysgu 

      Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

      • Cymhwyso egwyddorion allweddol hylendid bwyd i gynnal arferion diogel wrth baratoi a thrin bwyd. 

      • Adnabod peryglon diogelwch bwyd cyffredin a deall sut i atal halogiad. 

      • Adnabod y alergen a reoleiddir a deall eu harwyddocâd. 

      • Gweithredu gweithdrefnau arfer gorau ar gyfer rheoli a chyfathrebu gwybodaeth am alergenau. 

      • Cyfrannu at ddiwylliant o ddiogelwch bwyd a hyder cwsmeriaid o fewn eu sefydliad. 

      P'un a ydych yn newydd i'r diwydiant bwyd, yn dymuno adnewyddu eich gwybodaeth, neu'n ceisio cryfhau safonau diogelwch bwyd o fewn eich busnes, mae'r gweithdy hwn yn darparu'r sgiliau ymarferol a'r hyder sydd eu hangen i gefnogi cydymffurfiaeth a lles cwsmeriaid. 

      • Diwrnod Llawn
      • Yn y labordy
      • £600 fesul person

      Archebwch nawr

Mawrth 2027

  • Dylanwadu a Chyfathrebu

      Dydd Iau 4ydd Mawrth 2027, 10:00 – 15:00

      Mae cyfathrebu cryf a'r gallu i ddylanwadu'n gadarnhaol ar eraill yn sgiliau hanfodol ar gyfer arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel. P'un a ydych yn arweinydd uchelgeisiol, yn newydd i rôl reoli, neu'n edrych i gryfhau eich effaith fel arweinydd, bydd y gweithdy rhyngweithiol iawn hwn yn eich helpu i ddatblygu'r hyder, y sgiliau a'r strategaethau sydd eu hangen i ysbrydoli gweithredu, meithrin ymddiriedaeth a sicrhau canlyniadau. 

      Drwy gydol y dydd, bydd cyfranogwyr yn archwilio sut mae cyfathrebu'n llywio canfyddiadau, yn dylanwadu ar wneud penderfyniadau ac yn ysgogi ymgysylltiad o fewn timau a sefydliadau. Trwy weithgareddau ymarferol, trafodaethau grŵp a myfyrio personol, byddwch yn ennill mewnwelediad gwerthfawr i'ch arddull gyfathrebu eich hun ac yn dysgu technegau i wella eich gallu i ddylanwadu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd proffesiynol. 

      Un o brif elfennau'r gweithdy yw'r her ddifyr "Ar Goll yn yr Anialwch", lle bydd cyfranogwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddatrys senario goroesi. Mae'r ymarfer rhyngweithiol hwn yn tynnu sylw at sut mae arweinwyr yn cyfathrebu penderfyniadau, yn dylanwadu ar eraill, yn adeiladu consensws ac yn llywio safbwyntiau gwahanol er mwyn cyflawni canlyniadau llwyddiannus. 

      Bydd y gweithdy hefyd yn archwilio amrywiaeth o arddulliau dylanwadu a thechnegau cyfathrebu sy'n helpu arweinwyr i gyfathrebu diben, disgwyliadau a newid yn effeithiol. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda gwell dealltwriaeth o sut i ymgysylltu ag eraill, meithrin perthnasoedd ystyrlon a chreu ymrwymiad i nodau cyffredin. 

      Beth Fyddwch yn ei Ddysgu 

      Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

      • Deall sut mae arweinwyr a rheolwyr effeithiol yn gweithredu fel dylanwadwyr cadarnhaol o fewn eu timau a'u sefydliadau. 

      • Cymhwyso technegau cyfathrebu a dylanwadu ymarferol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. 

      • Gwerthuso dulliau sy'n meithrin ymddiriedaeth, ymgysylltiad a chydweithio. 

      • Adnabod effaith arddull cyfathrebu personol ar eraill. 

      • Datblygu cynllun gweithredu personol i gryfhau eu gallu i ddylanwadu ac effeithiolrwydd eu cyfathrebu yn y gweithle. 

      Wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol, mae'r gweithdy hwn yn darparu offer ymarferol a thechnegau byd go iawn y gellir eu defnyddio ar unwaith i wella perthnasoedd yn y gweithle, cynyddu effeithiolrwydd arweinyddiaeth a chefnogi llwyddiant sefydliadol. P'un a ydych yn arwain prosiectau, yn rheoli timau neu'n paratoi ar gyfer eich cam gyrfa nesaf, byddwch yn gadael gyda'r sgiliau a'r hyder i gyfathrebu'n effeithiol a dylanwadu gyda phwrpas.

      •  Diwrnod Llawn
      • Ystafell dosbarth
      • £300 fesul person

      Archebwch nawr

Chwilio am weithdy pwrpasol?

Rydym hefyd yn cynnig gweithdai a rhaglenni hyfforddi pwrpasol sydd wedi’u datblygu i ddiwallu anghenion penodol eich sefydliad. Gellir teilwra’r hyfforddiant o ran cynnwys, hyd a dull cyflwyno, gan eich helpu i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau penodol ac amcanion eich busnes.

P’un a ydych yn awyddus i ddatblygu sgiliau rheoli ac arwain, cryfhau perfformiad eich tîm, archwilio prosesau arloesol, datblygu sgiliau technolegol neu ddatblygu sgiliau ym maes iechyd a gofal, gallwn weithio gyda chi i greu ateb hyfforddi sy’n diwallu eich anghenion.

Mae enghreifftiau o hyfforddiant pwrpasol yn cynnwys:

  • Datblygu sgiliau technolegol

  • Archwilio prosesau arloesol

  • Cyfathrebu mewn busnes

  • Sgiliau rheoli ac arwain

  • Iechyd a gofal

  • Hyfforddiant ar galedwedd neu feddalwedd

  • Datblygu sgiliau a galluoedd y gweithlu

I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich gofynion, cysylltwch â enterprise@wrexham.ac.uk.