A computing student working on a project

Lleoliadau Ymarfer Uwch

Mae lleoliadau yn cynyddu cyflogadwyedd ein graddedigion ac yn paratoi ystod fwy amrywiol o sgiliau a phrofiadau.

Mae’r modiwl Lleoliad Ymarfer Uwch (ADP) yn gyfle i ni godi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o sut y gall cyfraniadau gan ein myfyrwyr arwain at ymgysylltiadau sydd o fudd i’r ddwy ochr. Gall lleoliad hefyd gychwyn deialog ar gyfer cydweithredu pellach rhwng diwydiant a phrifysgol.

Un o'r manteision mwyaf i'n myfyrwyr o gael eu lleoli o fewn eich sefydliad yw y cyfle i brofi amgylcheddau busnes go iawn gan arddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau ymarferol trwy gyfrannu at, a dysgu oddi wrth, eich busnes. Boed hynny trwy fynychu cyfarfodydd, casglu ymchwil marchnad, datblygu datrysiadau busnes byd go iawn neu ddadansoddi ffigurau diweddar - bydd cyfrannu at sefydliad gweithgar a chyfathrebu â staff yn cyfoethogi eu profiadau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Rydym yn croesawu lleoliadau sy'n galluogi'r myfyrwyr fod yn bresennol yn y gweithle yn bennaf, fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod llawer o gwmnïau wedi mabwysiadu arferion gwaith hybrid a allai olygu rhywfaint o weithio o bell. Mae ein myfyrwyr yn gweithio gyda thechnoleg cyfathrebu ar-lein ac felly byddant yn addasu'n hawdd i weithio’n hybrid.

Crynodeb o'r rhaglen lleoliadau

  • Darperir lleoliadau ar sail wirfoddol a di-dâl heb unrhyw gost ariannol i'r cwmni.
  • Cefnogir myfyrwyr gan y tîm Dysgu Cysylltiedig â Gwaith drwy gydol eu lleoliad. Rôl y tîm yw:
    • Sicrhau bod y myfyriwr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd sy'n gysylltiedig â'u gradd Meistr.
    • Cymeradwyo dogfennaeth berthnasol, gan gynnwys cofnod lleoliad gwaith y myfyriwr bob pythefnos.
    • Sicrhau iechyd a diogelwch yn y gweithle.
  • Nid oes angen goruchwyliaeth na mentora cyson gan y cwmni, ond byddem yn gofyn i ddarparwyr lleoliadau lofnodi cofnodion pythefnosol y myfyrwyr ynglŷn â’r gwaith y maent wedi’i gwblhau.

Dyddiad cychwyn ein carfan nesaf

Modiwl: ADP701: Ymarfer Uwch: Dysgu Seiliedig ar Waith

  • Cyrsiau Meistr: Busnes, Peirianneg a Chyfrifiadureg.
  • Hyd y lleoliad: 12 wythnos / 20 awr yr wythnos = cyfanswm o 240 awr, yn ddi-dâl.
  • Dyddiad cychwyn: 30 Medi 2024 - Oriau i'w trafod rhwng y myfyriwr a darparwr y lleoliad.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, neu os hoffech fynegi eich diddordeb mewn paratoi lleoliad, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ebostio adp701@wrexham.ac.uk 

 


 

Rhaglenni gyda modiwl ymarfer uwch

Rhaglenni Busnes:

  • MBA gydag Ymarfer Uwch
  • MBA Marchnata gydag Ymarfer Uwch
  • MBA Rheoli Adnoddau Dynol gydag Ymarfer Uwch
  • MBA Cyllid gydag Ymarfer Uwch
  • MBA Rheoli Prosiect gydag Ymarfer Uwch
  • MBA Rheoli Gofal Iechyd gydag Ymarfer Uwch
  • MBA Entrepreneuriaeth gydag Ymarfer Uwch

Rhaglenni Peirianneg

  • MSc Peirianneg (Awyrennol) gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Peirianneg (Gweithgynhyrchu Mecanyddol) gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Peirianneg (Modurol) gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Peirianneg (Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy) gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Peirianneg (Trydanol ac Electronig) gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Peirianneg (Mecatroneg) gydag Ymarfer Uwch

Rhaglenni Cyfrifiadura:

  • MSc Cyfrifiadureg gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Cyfrifiadura gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Seiberddiogelwch gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Datblygu Gêm Gyfrifiadurol gydag Ymarfer Uwch
  • MSc Gwyddor Data a Dadansoddeg Data Mawr gydag Ymarfer Uwch