Emma Parry

Teitl y Cwrs: BA Gwaith Cymdeithasol
Blwyddyn Graddio: 2026

IsraddedigGwaith Cymdeithasol a Chymunedol

Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dod i Brifysgol Wrecsam?

Roeddwn yn gweithio’n llawn amser mewn swydd nad oedd yn rhoi boddhad imi.

Beth wnaeth eich denu chi i Brifysgol Wrecsam?

Mae’n lleol i fy nghartref, felly ni fyddai angen imi boeni am gostau teithio uchel. Roeddwn hefyd wedi sgwrsio â myfyriwr a oedd wedi gorffen eu gradd gwaith cymdeithasol y flwyddyn roeddwn i’n dechrau fy un i, ac roedd ganddynt bethau da i'w dweud.

Dywedwch ychydig wrthym am eich cwrs

Mae rhan academaidd y cwrs yn canolbwyntio cryn dipyn ar theori a datblygu sgiliau ymarferol, yn barod ar gyfer y lleoliadau ymarferol y byddwn yn dechrau arnyn nhw.

Sut oedd yr awyrgylch o gwmpas y campws?

Mae’r awyrgylch wedi bod yn wych drwy'r amser.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?

Amrywiaeth y cynnwys. Mae llawer o bynciau wedi’u hastudio, ac mae wedi fy helpu i dyfu a datblygu fel person.

Sut mae'r gefnogaeth?

Mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych, gan y staff academaidd a’r staff cymorth.

Mae’r staff academaidd ar y cwrs gwaith cymdeithasol bob amser yn gyfeillgar ac yn hawdd cysylltu â nhw. Roeddwn yn gallu gofyn unrhyw beth a bwrw fy mol os oedd angen.

Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i wneud defnydd o gymorth cwnsela’r brifysgol pan oedd ei angen arnaf - roedd y broses yn un gyflym iawn, ac roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghymryd o ddifri. Roedd hi'n wych cael y cymorth roeddwn ei angen ar yr adeg roeddwn ei angen.

Sut ydych chi'n meddwl eich bod wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Wrecsam?

Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes, yn ogystal â thyfu a datblygu fel person gyda staff sydd wedi meithrin hynny.

A fyddech chi'n argymell dilyn cwrs ym Mhrifysgol Wrecsam, a pham?

Buaswn. Buaswn yn ei argymell oherwydd lefel y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr.