
Pecynnau Cymorth Digidol
Cyn i chi ddechrau eich cwrs
Gofynion caledwedd a meddalwedd
Er bod yna rai cyfrifiaduron i chi eu defnyddio ar y campws, mae’r Brifysgol yn argymell y dylech gael eich dyfais eich hun, gan y byddwch yn gwneud llawer o astudio annibynnol fydd yn golygu chwilio ar-lein a defnyddio ein gwahanol adnoddau digidol. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn liniadur neu dabled, sy’n gludadwy a gellir ei ddefnyddio yn y Brifysgol ac oddi ar y campws.
Chi sy’n gyfrifol am gadw eich dyfeisiadau’n ddiogel ar y campws, ac rydym yn argymell eich bod yn eu cadw gyda chi bob amser, a pheidiwch â’u gadael yn unrhyw le heb i chi fod yn bresennol.
Content Accordions
-
Gliniaduron a Chyfrifiaduron - isafswm manyleb
Os ydych chi’n ystyried prynu gliniadur neu gyfrifiadur newydd, mae’r Brifysgol yn argymell yr isafswm manyleb canlynol:
- Corei5 or AMD Ryzen 5
- 8gb RAM isafswm / 16gb os ar gael
- 256gb SSD.
Dylai’r isafswm o ran y manylion fod yn ddigon i gefnogi eich astudiaethau.
Os ydych wedi ymrestru ar gwrs sydd â llawer o graffigau, siaradwch os gwelwch yn dda gyda’ch Arweinwyr Rhaglen am gyngor ynghylch cerdyn graffig.
NODER: nid ydym yn argymell Chromebook gan nad yw rhai o’n platfformau yn gweithio cystal ar Chromebook ag ydynt ar galedwedd arall.
-
Ffonau clyfar
Byddwch yn gweld bod ffôn clyfar yn ddefnyddiol er mwyn cyfranogi mewn gweithgareddau arolygon yn y dosbarth neu gwisiau, ac ar gyfer cael dilysu aml-ffactor er mwyn cadw eich cyfrifon yn ddiogel. Gallwch ddefnyddio eich dyfais symudol er mwyn cael mynediad at e-byst myfyrwyr, Cefnogaeth Myfyrwyr a Microsoft 365. Gallwch fewngofnodi i’r gwasanaethau hyn drwy borwr gwe, fel y gallech ar liniadur neu gyfrifiadur. Gallwch hefyd ddefnyddio ffonau clyfar a thabledi er mwyn cael mynediad at ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys ein Hamgylchedd Dysgu Rhithiol (Moodle neu Canvas). Fodd bynnag, rydym yn argymell gliniadur neu gyfrifiadur ar gyfer y rhan fwyaf o’ch gwaith gan y bydd sgrin fwy ac allweddell yn ei gwneud hi’n haws a helpu i osgoi problemau iechyd.
-
Technoleg Gynorthwyol
Gall technoleg gynorthwyol addasu eich dyfeisiau a’u rhyngwynebau er mwyn gwneud dysgu’n fwy cyfforddus i chi. Bydd eich anghenion cynorthwyol ac addasol yn cael eu hasesu gan y Gwasanaethau Cynhwysiant, sy’n gallu darparu amrywiaeth o dechnolegau a datrysiadau. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein tudalen Gwasanaethau Cynhwysiant.
-
Meddalwedd
Nid ydych angen prynu’r pecyn Microsoft 365, gan y bydd gennych fynediad am ddim iddynt drwy eich cyfrif myfyriwr. Mae hyn yn cynnwys Microsoft Word, PowerPoint, Excel a Teams, yn ogystal â rhai adnoddau dysgu a chynhyrchiant defnyddiol. Gallwch gael mynediad at y rhain drwy borwr, ac mae yna ap Microsoft Teams ar gael ar gyfer ffonau clyfar. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Sgiliau Dysgu.
Fel Campws Adobe Creative, bydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr fynediad at Adobe Express, adnodd ar-lein ar gyfer golygu delweddau a fideos. Bydd gan fyfyrwyr ar gyrsiau creadigol hefyd fynediad at feddalwedd Adobe arall megis Photoshop a Premiere yn ôl y galw.
Am feddalwedd arbenigol arall sy’n gysylltiedig gyda’ch cwrs, dylai eich Arweinwyr Rhaglen ddarparu gwybodaeth ac arweiniad arnynt. Mae’n bosib y bydd rhai mathau o feddalwedd arbenigol ond ar gael mewn rhai labordai cyfrifiaduron penodol ar y campws. Dylai eich llawlyfr cwrs ei gwneud hi’n eglur pa feddalwedd y disgwylir i chi ei ddefnyddio.
Cyfleusterau cyfrifiadura, cyfrifon a chefnogaeth
Unwaith rydych chi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam bydd gennych fynediad at systemau allweddol ar gyfer rheoli eich cwrs a’ch astudiaethau, a bydd amrywiaeth o adnoddau digidol er mwyn cefnogi eich dysgu. Gellir cyrchu’r rhan fwyaf ohonynt drwy ddefnyddio ein cyfeiriad e-bost myfyriwr a chyfrinair. Rydym yn argymell yn gryf eich bod chi’n dewis y modiwl cynefino myfyrwyr Bod yn Barod ar gyfer eich Astudiaethau gan gwblhau’r adran ar Digidol ym Mhrifysgol Wrecsam er mwyn i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fodd bynnag, dyma grynodeb byr o’r prif systemau ac adnoddau y byddwch yn eu defnyddio.
Content Accordions
-
MyUni Portal
Mae MyUni Portal yn dudalen gwe sy’n rhoi mynediad cyflym i’r holl adnoddau a gwybodaeth allweddol y byddwch eu hangen yn ystod eich cwrs, megis eich cyfrif e-bost, amgylchedd dysgu rhithiol, amserlen, catalog llenyddol a gwasanaethau cefnogi’r Brifysgol.
-
Yr Amgylchedd Dysgu Rhithiol (VLE)
Yr Amgylchedd Dysgu Rhithiol yw ble y gallwch gael mynediad at fodiwlau’r cwrs ar-lein. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, eich VLE fydd Moodle. Ar gyfer rhai myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau ar-lein yn unig, Canvas fydd hwn.
Dylai eich VLE roi’r holl wybodaeth y byddwch ei hangen am y modiwlau rydych chi’n eu cymryd; beth maent yn ei gynnwys, sut maent yn cael eu hasesu a phwy fydd eich tiwtoriaid. Byddant yn dal eich adnoddau dysgu, y bydd angen i chi eu darllen neu eu gwylio ar eich pen eich hun cyn neu ar ôl dosbarth neu ddarlith. Mae’n bosib y bydd gweithgareddau i’w gwneud, megis cwisiau neu fforymau trafod ar-lein. Byddwch hefyd yn cyflwyno gwaith i’w asesu yma. Yn ogystal â hyn bydd eich tiwtoriaid yn defnyddio Moodle i gyfathrebu gyda chi drwy’r cyhoeddiadau.
-
E-bost
Darperir eich cyfeiriad e-bost drwy Microsoft Outlook, a’ch cyfeiriad e-bost fydd eich rhif myfyriwr (e.e. S12345678) wedi’i ddilyn gan @mail.glyndwr.ac.uk.
Mae’n bwysig eich bod yn gwirio eich e-bost myfyriwr yn rheolaidd, gan y bydd eich tiwtoriaid a’r brifysgol yn defnyddio’r dull hwn ar gyfer cyfathrebiadau allweddol.
-
Storio Digidol
Mae’r Brifysgol yn defnyddio Microsoft OneDrive i storio ffeiliau. Bydd gennych eich storfa OneDrive Personol y gallwch gael mynediad atynt o unrhywle yn y byd sydd â darpariaeth rhyngrwyd.
Os ydych chi’n defnyddio OneDrive ar eich cyfrifiadur personol, mae’n bosib y byddwch am newid y gosodiadau fel nad yw’n arbed gwaith sydd eisoes ar eich dyfais yn awtomatig. Bydd hyn yn helpu i gadw eich ffeiliau personol a’ch gwaith prifysgol ar wahân.
-
Llyfrgell a Chwiliwr Adnoddau
Gallwch chwilio catalog y llyfrgell (Chwiliwr Adnoddau) ar-lein, a chael mynediad at nifer o’r e-lyfrau a’r cyfnodolion ar-lein o gartref. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ystod eang o gronfeydd data sy’n benodol i bwnc. Gweler ein Canllawiau Sgiliau Dysgu ar Ddod o Hyd i Wybodaeth.
Gall Llyfrgellwyr Cymorth Academaidd a Thiwtoriaid Sgiliau Academaidd eich helpu chi gydag ystod o sgiliau academaidd, gan gynnwys canfod a gwerthuso gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol, ysgrifennu academaidd a chyfeirio, rheoli amser a chyflwyniadau. Er mwyn gwneud cais am apwyntiad, ebostiwch learningskills@wrexham.ac.uk.
-
Hyb Myfyrwyr GOFYN
O’r fan yma, gallwch gael mynediad at gefnogaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd a chyflogadwyedd, cyllid ac ariannu, cefnogaeth anabledd, iechyd meddwl a lles.
-
Cyfleusterau Digidol ar y campws
Cyfrifiaduron
Os nad oes gennych chi ddyfais, mae’r Brifysgol yn darparu nifer o ofodau astudio a labordai cyfrifiaduron. Mae yna labordy mynediad agored yn y Llyfrgell a’r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr sydd ar agor o 8.30am i 10.00pm yn ddyddiol. Gall yr amseroedd agor newid wrth i’r flwyddyn academaidd fynd yn ei blaen. Mae yna hefyd labordai arbenigol sydd â meddalwedd yn arbennig ar gyfer gwahanol raglenni astudio. Gwiriwch gyda’n tîm rhaglen beth sydd ar gael i chi.
Mae gan y Brifysgol hefyd nifer liniaduron y gallwch eu benthyg am gyfnod byr, sydd ar gael o’r llyfrgell a’r Ddesg Gymorth TG yn y Llyfrgell a’r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr ar y prif gampws.
Wi-Fi
Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn defnyddio EduRoam ar gyfer ein darpariaeth Wi-Fi, a gellir canfod manylion ynghylch sut i osod a mewngofnodi yn y Wi-Fi hwn ar dudalennau cefnogi Gwasanaethau TG, ac ar ganllawiau sydd ar gael yn y Llyfrgell.
Os ydych yn cael problemau mewngofnodi neu ddefnyddio eich dyfais ar y campws, mae cefnogaeth ar gael yn ein ParthTech, drwy ffonio 01978 293241 neu godi tocyn drwy’r ddesg gwasanaeth INFORM.
Fel arall, os ydych ond am newid eich cyfrinair, gallwch wneud hyn drwy ein porth MyUni gan ddefnyddio’r ddolen newid cyfrinair. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar newid eich cyfrinair ar y dudalen ‘newid eich cyfrinair’ ar ein tudalennau gwe Cefnogi Myfyrwyr.
Argraffydd
Mae sawl argraffydd ar gael ar hyd a lled y Brifysgol er mwyn i chi allu anfon eich gwaith argraffu atynt neu ar gyfer eu defnyddio i ffotocopïo. Gellir dod o hyd i fanylion am gostau argraffu ar ein tudalen Cefnogi Myfyrwyr.
Dewch â’ch dyfais eich hun
Fel myfyriwr yn y Brifysgol, byddwn yn eich cefnogi i ddefnyddio eich dyfais eich hun ar y campws i helpu gyda’ch dysgu. Gall hwn fod yn liniadur, tabled, ffôn clyfar neu e-ddarllenydd. Byddwch yn gallu defnyddio eich dyfais eich hun er mwyn cael mynediad at eich cyfrif myfyriwr ar gyfer eich e-bost, yr amgylchedd dysgu rhithiol a systemau prifysgol eraill. Byddwch hefyd yn gallu ei ddefnyddio i wneud nodiadau yn yr ystafell ddosbarth.
Yn ystod eich astudiaethau
Content Accordions
-
Datblygu sgiliau digidol
Mae sgiliau digidol yn cynnwys pethau fel:
- Defnyddio dulliau digidol er mwyn cyflawni tasgau a rheoli eich amser.
- Creu cynnwys digidol megis dogfennau, delweddau a fideos.
- Bod yn gallu dysgu drwy ffynonellau ar-lein.
- Bod yn gallu gwerthuso, trefnu a rhannu cyfryngau digidol a data.
- Cyfathrebu a gweithio gydag eraill drwy rwydweithiau digidol.
- Rheoli eich ôl-troed ar-lein a chadw’n ddiogel ar-lein.
Cymryd pob cyfle i ddatblygu eich sgiliau digidol yn ystod eich cwrs, neu drwy eich ymwneud gyda diddordebau personol (e.e. mewn prosiectau myfyrwyr, gwirfoddoli, hobïau grwpiau diddordebau). Bydd y sgiliau hyn yn ddefnyddiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Manteisio’n llawn o’r hyfforddiant TG sydd ar gael ei chi pan rydych yn y brifysgol. Mynychu un o’n sesiynau Blasu, archebu apwyntiad gyda Thiwtor Sgiliau Digidol neu gael mynediad at hyfforddiant ar-lein.
Fel myfyriwr ymrestredig, bydd gennych fynediad am ddim i LinkedIn Learning, platfform ar-lein sy’n darparu cyrsiau fideo gan arbenigwyr yn y diwydiant mewn meddalwedd, sgiliau busnes a phynciau creadigol. Bydd cael mynediad at fideos a chwblhau cyrsiau ar LinkedIn Learning fydd yn eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau digidol. Gallwch hefyd ddewis i gysylltu eich cyfrif LinkedIn personol i’ch cyfrif LinkedIn Learning prifysgol, a gall unrhyw gwrs rydych chi’n ei gwblhau gael ei rannu ar eich proffil wedyn.
Defnyddio’r Adnodd Jisc Discovery er mwyn asesu eich sgiliau digidol a dysgu sut y gallwch eu gwella. Os ydych yn newid i sgiliau digidol, dechreuwch gyda’r gyfres o gwestiynau Sgiliau Digidol Hanfodol. Os ydych yn lled-gyfarwydd ond eich bod ond am wneud asesiad cyflym o’ch sgiliau ar ddechrau eich cwrs, rhowch gynnig ar y cwestiynau ar gyfer Myfyrwyr Newydd. Gallwch wedyn ddefnyddio’r cwestiynau Myfyrwyr Presennol (AU) yn nes ymlaen yn eich cwrs, a’u hailadrodd yn rheolaidd, er mwyn gweld sut mae eich sgiliau’n gwella dros amser.
-
Defnyddio adnoddau digidol ar eich cwrs
Mae Prifysgol Wrecsam yn defnyddio’r Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF) sy’n amlinellu beth ddylai eich profiad dysgu fod - hyblyg, cynhwysol, ymgysylltiol ac wedi’i alluogi’n ddigidol. Bydd adnoddau dysgu digidol yn eich helpu chi i asesu eich deunyddiau dysgu ar amser sy’n gweithio i chi, rheoli eich amser astudio, cyfathrebu a chydweithredu gydag eraill, a chynhyrchu gwaith yn greadigol mewn amrywiaeth o fformatau. Gall fod rhai elfennau rhyngweithiol sy’n rhoi cyfle i chi gael profiad ymarferol, a bydd angen i’r rhan fwyaf o’ch asesiadau gael eu cyflwyno drwy’r VLE.
Rhai cynghorion er mwyn bod yn barod a chael y gorau o’ch profiadau dysgu digidol:
- Gwneud y gorau o’ch modiwl cynefino, sesiynau sgiliau digidol a chanllawiau ar-lein er mwyn ymgyfarwyddo gyda’r adnoddau VLE a Microsoft 365 yn gynnar yn ystod eich cwrs.
- Gwiriwch pa adnoddau digidol eraill fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o’ch modiwl a pha gefnogaeth sydd ar gael, naill ai gan eich tiwtoriaid modiwl neu gan y tîm Dysgu Digidol.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall sut mae aseiniadau’n cael eu cyflwyno ar-lein cyn eich bod yn cyrraedd unrhyw derfynau amser hanfodol. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut i gyflwyno aseiniad drwy Turnitin r Moodle ar ein tudalennau Sgiliau Dysgu neu
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad at y meddalwedd a’r adnoddau rydych eu hangen i astudio i ffwrdd o’r campws, er enghraifft drwy lawrlwytho deunyddiau tra mae gennych chi fynediad at y rhwydwaith.
- Cadwch olwg am gyfleoedd i ddatblygu ac arddangos eich creadigrwydd digidol yn y tasgau sydd wedi eu gosod i chi, neu gyda gweithgareddau allgyrsiol. Mae’n bosib y byddwch yn gallu creu tudalen gwe, postiad blog, fideo byr, animeiddiad neu inffograffig. Gofynnwch am gymorth os nad ydych chi’n gwybod sut i wneud y pethau yma.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall ‘rhwyd-foesau’ a sut i gyfathrebu’n effeithiol ar-lein. Cymerwch fantais o’r cyfleoedd i gydweithio gydag eraill, drwy fforymau trafod, Microsoft Teams, y cyfryngau cymdeithasol neu ddulliau eraill o gyfathrebu a chydweithredu ar-lein.
-
Hygyrchedd
Dylai adnoddau cwrs fod ar gael mewn fformatau sy’n hygyrch yn ddigidol, ac mewn amrywiaeth o wahanol gyfryngau, gan ei gwneud hi’n haws i astudio mewn ffordd sy’n gweithio orau i chi. Mae gennym hefyd adnoddau i’ch helpu i gyrchu adnoddau yn y ffordd sy’n gweithio orau i chi, megis y Darllenwr Trochol, ReciteMe ac Anthology Ally.
Lle i gael cymorth
Content Accordions
-
Cymorth TG
Os ydych yn cael problemau mewngofnodi neu ddefnyddio eich dyfais ar y campws, mae cefnogaeth ar gael yn ein ParthTech, drwy ffonio 01978 293241 neu drwy godi tocyn drwy’r ddesg gwasanaeth INFORM.
Os ydych chi ar brif gampws Wrecsam, gallwch hefyd ymweld â’r ParthTech yn y Llyfrgell mewn person rhwng 10am a 4pm yn ystod dyddiau’r wythnos.
Mae gwybodaeth ynghylch cyswllt i wi-fi, newid eich cyfrinair, argraffu a chanllawiau defnyddiol eraill ar gael ar-lein ar ein tudalen Sgiliau Dysgu TG/ParthTech.
-
Dysgu Digidol
Os bydd angen cefnogaeth arnoch wrth ddefnyddio meddalwedd, gallwch archebu lle i gael apwyntiad gyda’n Tiwtoriaid Sgiliau Digidol drwy anfon ebost atynt learningskills@wrexham.ac.uk.
Bydd y gweithgareddau digidol rydych chi’n ymgymryd â hwy ar eich cwrs yn dibynnu ar y pwnc rydych chi’n ei astudio. Fodd bynnag, mae yna rai pethau, megis e-bost, ysgrifennu dogfennau a chyflwyno sleidiau, y mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn debygol o’u gwneud. Mae gan y Brifysgol nifer o ganllawiau sut-i-wneud fydd yn eich helpu chi i ddefnyddio meddalwedd ar gyfer creu eich darnau academaidd o waith, er enghraifft cyflwyniad yn defnyddio PowerPoint, neu ddylunio poster academaidd. Gallwch gael mynediad at y rhain o’n Tudalennau Sgiliau Dysgu.
-
Sgiliau Llyfrgell ac Academaidd
Os ydych chi angen cefnogaeth yn defnyddio catalog y llyfrgell, y Chwiliwr Adnoddau, cronfeydd data pwnc ar-lein, cyfnodolion neu e-lyfrau, neu gyda sgiliau academaidd gan gynnwys gwerthuso gwybodaeth a chyfeirio, gall Llyfrgellwyr Cefnogaeth Academaidd a Thiwtoriaid Sgiliau Academaidd helpu. Er mwyn archebu lle i gael apwyntiad, ebostiwch, ebostiwch learningskills@wrexham.ac.uk.
-
Gwasanaethau Cynhwysiant
Gall y Gwasanaethau Cynhwysiant roi cymorth i chi os ydych angen defnyddio technoleg gynorthwyol er mwyn helpu gyda’ch dysgu. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ar y dudalen Gwasanaethau Cynhwysiant ac ar yr Hyb GOFYN. Gallwch hefyd ffonio 01978 293266 neu ebostio inclusion@wrexham.ac.uk er mwyn dysgu pa gymorth maent yn ei gynnig.