Pecynnau Cymorth Digidol
Sgiliau Digidol
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau digidol, p'un a ydynt yn codi ar eich cwrs neu'r tu allan iddo (e.e. mewn prosiectau myfyrwyr, gwirfoddoli, hobïau neu grwpiau diddordeb). Bydd y sgiliau hyn yn ddefnyddiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Os nad yw eich cwrs yn ymdrin â thechnoleg ddigidol yn y gweithle, neu'r dulliau digidol diweddaraf, gofynnwch i'ch tiwtor cwrs a all neilltuo amser ar gyfer hyn.
Bydd cynghorydd gyrfa yn gallu eich helpu i archwilio'r materion hyn. Gellir dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut mae cysylltu â Gyrfaoedd ar ein tudalennau Cymorth i Fyfyrwyr.
Mae'n bosib na chewch fyth fynediad cystal at hyfforddiant TG ag a gewch yn y brifysgol. Felly byddwch yn rhagweithiol - cofrestrwch ar gyfer gweithdai, sesiynau galw heibio yn y llyfrgell neu wasanaethau TG, gwyliwch fideos 'sut i' a manteisiwch ar hyfforddiant ar-lein.
Bydd manylion am ein gweithdai Sgiliau Academaidd, gyda Hwyluswyr Dysgu Digidol neu Lyfrgellwyr Cefnogaeth Academaidd i'w canfod yn ystod y flwyddyn ar ein tudalennau Sgiliau Dysgu.
Os ydych yn ansicr ynglŷn â'ch sgiliau digidol a sut y gallwch eu gwella, rhowch gynnig ar adnodd Jisc Discovery cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol. Ystyriwch ei ail-gymryd pan fyddwch wedi cwblhau eich cwrs, i weld sut mae'r rhain wedi gwella.
Fel myfyriwr cofrestredig, bydd gennych fynediad i LinkedIN Learning, llwyfan ar-lein sy'n darparu cyrsiau fideo a addysgir gan arbenigwyr yn y diwydiant mewn sgiliau busnes, creadigol a meddalwedd. Bydd cael mynediad at y fideos a chyflawni'r cyrsiau ar LinkedIn Learning yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich sgiliau digidol. Gallwch hefyd ddewis cysylltu eich cyfrif LinkedIn personol â'ch cyfrif LinkedIn Learning prifysgol ac yna gallai unrhyw gwrs a gwblhawyd gennych gael ei rannu ar eich proffil.
Content Accordions
-
Sgiliau digidol
Safbwyntiau Digidol Chi
Mae gan bob myfyriwr ei gryfderau a dulliau a ffafrir ar gyfer dysgu. Dylai eich sesiynau a addysgir, aseiniadau ac astudiaeth annibynnol gynnig amrywiaeth o ddulliau i chi, fel y gallwch ddatblygu strategaethau gwahanol a darganfod eich cryfderau. Byddwch yn barod i roi cynnig ar bethau newydd, ond rhowch wybod i'ch tiwtoriaid os nad ydych yn derbyn yr hyn sydd ei angen arnoch. Cyfrannwch at benderfyniadau ynghylch yr amgylchedd dysgu digidol os cewch y cyfle i wneud hynny.
Rydym hefyd yn cynnal arolwg blynyddol – arolwg Mewnwelediadau Profiad Digidol Jisc.
Pan gewch wahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg, gofynnir i chi gymryd y cyfle i rannu eich safbwyntiau ar y modd y defnyddir technoleg yn y Brifysgol ac yn eich dysgu.
Dysgu yn Annibynnol
Gwnewch y mwyaf o'r manteision profedig o ddefnyddio apiau digidol i drefnu eich amser astudio a rhestrau tasgau, neu drwy gysylltu amserlen eich cwrs â'ch calendr personol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad at yr holl feddalwedd ac adnoddau sydd eu hangen arnoch i astudio oddi ar y campws, er enghraifft, drwy lawrlwytho deunyddiau tra mae gennych fynediad at y rhwydwaith.
Arbrofwch gyda fformatau dysgu a mathau o adnoddau hyd nes y dewch o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi.
Ymgysylltwch eich ochr greadigol drwy gynhyrchu posteri digidol, cyflwyniadau, tudalennau gwe a chyfryngau eraill pan gewch y cyfle. Archwiliwch ysgogiadau digidol, cyfryngau rhyngweithiol a gemau - neu rhowch gynnig ar apiau dysgu iaith neu hyfforddi'r ymennydd os ydych yn eu mwynhau.
Gofynnwch i fyfyrwyr eraill beth sy'n gwneud eu hamser astudio yn ddifyr ac effeithiol.
Gwaith Grŵp ac Unigol
Meddyliwch am sut y gallai myfyrwyr eraill fod yn adnodd ar gyfer eich dysgu. Mae cydweithio yn gyffredin yn y rhan fwyaf o weithleoedd, a bydd ymgeiswyr am swyddi yn cael eu profi'n aml ar ba mor dda maent yn perfformio mewn sefyllfaoedd o'r fath, felly mae'n werth canfod sut mae cael y gorau o'r dull hwn o astudio a gweithio.
Fel myfyriwr, bydd gennych fynediad at gyfleusterau cyfrifiadurol fel byrddau gwaith, argraffwyr, offer a chamerâu digidol. Byddwch yn defnyddio meddalwedd gyffredinol a phwnc-benodol, e-bost a storfa ffeiliau, ac amrywiaeth o systemau digidol. Sut allwch chi fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn i gyflawn eich nodau?
Gwiriwch y cyfleusterau a'r offer a fydd ar gael i chi ar y campws, a'r oriau agor.
Content Accordions
-
Cyfleusterau a Chefnogaeth Ddigidol
Ystafelloedd Cyfrifiaduron
Os nad oes gennych ddyfais, mae'r Brifysgol yn darparu ystod o opsiynau cyfrifiadura i gefnogi eich astudiaethau.
Er enghraifft, yn Wrecsam, mae modd i chi ddefnyddio eich cyfrifiaduron personol ar lawr cyntaf ac ail lawr y Llyfrgell a Chanolfan Cefnogi Myfyrwyr. Y tro nesaf y byddwch ar y campws, gwiriwch beth sydd ar gael i chi.Mae nifer o'n labordai yn rhai arbenigol gyda meddalwedd penodol ar gyfer gwahanol raglenni y gellir eu hastudio yn ein Prifysgol. Er enghraifft, yn Wrecsam ar goridor B mae gennym labordai rhaglenni cyfrifiadura, ac yn L100ENG a'r bloc peirianneg mae gennym gyfrifiaduron personol gyda meddalwedd ar gyfer ein myfyrwyr peirianneg.
Gwiriwch beth sydd ar gael i chi gyda'ch tîm rhaglen.
Argraffwyr
Mae nifer o argraffwyr ar gael i'w defnyddio i argraffu neu lun-gopïo ledled y Brifysgol. Gellir cael manylion pellach am argraffu a phrisiau papur ar ein tudalen Cefnogaeth Astudio.
Storfa ddigidol
Mae'r Brifysgol yn defnyddio OneDrive Microsoft er mwyn storio ffeiliau. Bydd gennych gronfa OneDrive bersonol ble medrwch gael mynediad ato trwy'r rhyngrwyd o unrhyw le yn y byd.
Gellir dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad i'ch OneDrive ar ein tudalennau cefnogaeth Microsoft 365.
Systemau'r Brifysgol
Mae sawl system ddigidol ar gael i gefnogi eich astudiaethau, o e-bost i gatalog y llyfrgell. Byddwch yn canfod bod y rhain yn hawdd i'w defnyddio a chael gafael arnynt.
Preifatrwydd Data a Data Personol
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i amddiffyn eich diogelwch a phreifatrwydd data.
Cymorth gyda Materion Digidol
Cymorth TG
Os ydych yn cael problemau i fewngofnodi, neu ddefnyddio eich dyfais ar y campws, mae cymorth ar gael drwy'r Ddesg Gymorth TG drwy ffonio 01978 293241 neu e-bostio itservices@glyndwr.ac.uk.
Dysgu Digidol
Mae gan y Brifysgol sawl canllaw 'sut i', a fydd yn eich cefnogi neu'ch helpu i ddysgu sgiliau newydd gan ddefnyddio'r feddalwedd a ddefnyddiwn yn y Brifysgol a chreu eich darnau o waith academaidd. Er enghraifft, creu cyflwyniad yn defnyddio PowerPoint neu greu poster academaidd. Mae'r tîm Dysgu Digidol yn diweddaru a darparu dogfennau a thiwtorialau newydd yn rheolaidd felly cofiwch edrych ar ein tudalennau Dysgu Digidol am gymorth gydag unrhyw faterion digidol a all fod gennych. Gallwch ddefnyddio'r tudalennau hyn unrhyw bryd i'ch helpu gyda phroblem dechnegol neu ddysgu sgiliau newydd.
Hwyluswyr Digidol
Os oes angen rhagor o gymorth personol arnoch, gyda defnyddio meddalwedd gall ein Hwyluswyr Dysgu Digidol eich helpu. Gallwch drefnu apwyntiad gyda nhw drwy ein tudalennau archebu neu anfon e-bost atynt yn learningskills@glyndwr.ac.uk. Gallwch hefyd drefnu apwyntiadau gyda'n Llyfrgellwyr Sgiliau Academaidd a Phwnc drwy'r tudalennau hyn hefyd.
Fframwaith y Brifysgol ar gyfer dysgu ac addysgu yw Y Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF), sy'n cyplysu cryfderau ein haddysgu ar y campws ynghyd â’r defnydd gorau o offer digidol i hwyluso dysgu hyblyg a hygyrch, ac asesu arloesol, hyblyg a hygyrch.
Bydd y gweithgareddau digidol a wnewch ar eich cwrs yn dibynnu ar y pwnc yr ydych yn ei astudio. Fodd bynnag, mae rhai pethau y mae pob myfyriwr yn eu gwneud, ac mae'n werth gwneud yn siŵr eich bod yn manteisio i'r eithaf ar y gweithgareddau hyn.
Content Accordions
-
Cwrs digidol
Defnyddio'r Amgylchedd Dysgu Rhithiol
Moodle yw prif Amgylchedd Dysgu Rhithiol (VLE) y Brifysgol, a gaiff ei ddefnyddio i rannu gwybodaeth hanfodol am y cwrs â chi. Cedwir deunyddiau cwrs, megis clipiau fideo, darlleniadau a darlithoedd wedi'u recordio, a gweithgareddau, er enghraifft fforymau trafod a chwisiau, ar y VLE a gallwch gael mynediad atynt lle bynnag a phryd bynnag y dymunwch. Bydd eich tiwtoriaid hefyd yn defnyddio Moodle i gyfathrebu â chi drwy'r fforymau trafod a chyhoeddi. Caiff ei ddefnyddio hefyd i gyflwyno tasgau asesu ac mae'r Brifysgol yn disgwyl i'r holl aseiniadau gael eu cyflwyno ar-lein (gweler isod am ragor o gyngor ynglŷn â hyn).
Dod o hyd i Wybodaeth
Mae'n bwysig defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau ar gyfer eich aseiniadau. Gall y Llyfrgellwyr Cymorth Academaidd eich helpu i leoli a gwerthuso deunydd addas ar gyfer eich gwaith academaidd, yn cynnwys aseiniadau, cyflwyniadau a thraethodau hir.
Gellir dod o hyd i fanylion ar gyfer y Llyfrgellwyr, yn ogystal â'r Tiwtor Sgiliau Academaidd a Dysgu Digidol ar ein Tudalennau Cymorth i Fyfyrwyr.
Rydym yn cynnig cefnogaeth bersonol 1-2-1 ar gyfer ystod helaeth o sgiliau academaidd, yn cynnwys canfod a dadansoddi gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol, ysgrifennu academaidd a chyfeirnodi, rheoli amser a chyflwyniadau. E-bostiwch ni i drefnu apwyntiad learningskills@glyndwr.ac.uk.
Defnyddio catalog y llyfrgell
Gellir dod o hyd i ddolen i gatalog y llyfrgell, Canfyddwr Adnoddau, ar y Porth MyUni.
Mae'r Canfyddwr Adnoddau yn darparu mynediad at ystod eang o ddeunydd academaidd. Gallwch chwilio am eitemau ffisegol, megis llyfrau, sydd ar gael yn y llyfrgell. Bydd gennych hefyd fynediad at ystod eang o gronfeydd data pwnc-benodol ac erthyglau cyfnodolion. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chwilio yn defnyddio'r Canfyddwr Adnoddau, edrychwch ar ein canllawiau ar gyfer chwilio catalog y llyfrgell.
Gall myfyrwyr fenthyg hyd at 10 llyfr llyfrgell a bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig cyn y dyddiad dychwelyd, cyn belled â nad oes neb arall yn gofyn am yr eitem(au). Bydd yr holl eitemau yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig 3 gwaith, oni bai fod defnyddiwr arall wedi gofyn amdanynt. Gallwch hefyd gadw llyfrau sydd ar gael drwy ein gwasanaeth Clicio a Chasglu. E-bostiwch learningresources@glyndwr.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Cyfeirnodi
Elfen bwysig o ysgrifennu academaidd yw cydnabod y ffynonellau a ddefnyddiwch i gefnogi eich gwaith, sef cyfeirnodi. Mae'r Brifysgol yn defnyddio pedwar dull cyfeirnodi gwahanol yn dibynnu ar eich maes astudio - APA, Harvard, IEEE, a MHRA. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol pa ddull cyfeirnodi sy'n berthnasol i'ch maes astudio.
Mae'n bwysig datblygu arferion da wrth reoli gwybodaeth i helpu gyda chyfeirnodi. Bydd cadw nodiadau effeithiol, llyfrnodi a defnyddio adnoddau ar-lein yn eich helpu i gadw llygad ar adnoddau defnyddiol ar draws eich aseiniadau a chyrsiau. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chyfeirnodi edrychwch ar ein tudalennau Cymorth i Fyfyrwyr.
Asesu ar-lein
Mae'n bosib y gofynnir i chi gwblhau aseiniadau mewn amrywiaeth o fformatau digidol. Fel y nodwyd uchod, mae'r Brifysgol yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'r gwaith a asesir, lle bo'n bosib, gael ei gyflwyno ar-lein, drwy'r VLE. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall sut y caiff aseiniadau eu cyflwyno ar-lein cyn i chi gyrraedd unrhyw derfynau amser allweddol. Os yw'r rhain ar ffurf ysgrifenedig bydd pwynt aseiniadau Turnitin neu Moodle ar eich tudalennau modiwl cwrs.
Meddalwedd paru testun yw Turnitin sydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr wirio eu gwaith cyn ei gyflwyno i'w asesu, i wirio eich cyfeirnodi (gweler uchod). Bydd eich Tiwtor yn darparu rhagor o gymorth i chi gyda deall y marc canran a gewch wrth ddefnyddio Turnitin.
Gellir dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut mae cyflwyno aseiniad Turnitin neu Moodle ar ein tudalennau cymorth:
Bydd eich tiwtor hefyd yn rhoi adborth i chi ar eich aseiniadau ynglŷn â sut y gallwch wella eich graddau mewn asesiadau yn y dyfodol. Fel rheol caiff yr adborth hwn ei rannu â chi drwy'r VLE.
Cynhyrchu Gwaith mewn Fformatau Digidol eraill
Efallai y bydd gofyn i chi archwilio ffyrdd o greu gwaith mewn cyfryngau eraill, er enghraifft:
- Creu tudalen we
- Creu fideo byr
- Cyfrannu at fforwm/trafodaeth ar-lein
Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr, a chlod am wreiddioldeb, os archwiliwch gyfryngau eraill - cyn belled â'u byd yn bodloni gofynion eich cwrs. Gallech ysgrifennu tudalen we neu flog, creu fideo byr neu animeiddiad, neu gynhyrchu ffeithlun.
Defnyddio amrywiol feddalwedd i lunio eich cyflwyniadau megis Microsoft Sway, y gellir cael mynediad ato trwy Microsoft 365.
Cadwch lygad am gyfleoedd i ddatblygu ac arddangos eich creadigrwydd digidol yn y tasgau a osodir i chi.
Gweithio ar-lein gydag eraill
Bachwch ar y cyfle i weithio mewn grwpiau a derbyn unrhyw heriau fel rhan o'r broses ddysgu. P'un a ydych yn cael eich asesu ar eich canlyniadau ar y cyd, neu'n unigol am eich cyfraniadau, byddwch yn magu sgiliau gwerthfawr ar gyfer y gweithle cyfoes:
Cyfathrebu ar-lein a 'netiquette'
Gweithio gyda Microsoft Teams
-
Cymorth digidol
Defnyddio eich Dyfais eich hun
Fel myfyriwr yn y Brifysgol, byddwn yn eich cefnogi i ddod a'ch dyfais bersonol i'r campws i gefnogi eich dysgu. Gall hwn fod yn liniadur, tabled, ffôn clyfar neu e-ddarllenydd. Bydd modd i chi ddefnyddio eich dyfais bersonol i gael mynediad at borth MyUni, y tudalennau cefnogaeth myfyriwr, Moodle (ein Rhith-amgylchedd Dysgu neu VLE), eich amserlen, Microsoft 365 yn cynnwys Teams, catalog y llyfrgell, eich e-bost myfyriwr a'ch cofnod myfyriwr. Bydd modd i chi ei ddefnyddio hefyd i wneud nodiadau yn y dosbarth.
WiFi
Fel arall, gallwch Ddefnyddio eich Dyfais ei hun ar y campws i gael mynediad at ein WiFi. Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn defnyddio EduRoam fel ein darpariaeth WiFi ac mae manylion ynglŷn â sut i osod y WiFi a mewngofnodi iddo i'w cael ar dudalennau cymorth Gwasanaethau TG.
Os ydych yn cael problemau i fewngofnodi, neu ddefnyddio eich dyfais ar y campws, mae cymorth ar gael drwy'r Ddesg Gymorth TG drwy ffonio 01978 293241 neu ewch ati i greu tocyn drwy'r ddesg INFORM
Bydd Gwasanaethau TG yn darparu cymorth o bell ar sail apwyntiad. Os na ellir datrys problemau TG o bell, gellir trefnu apwyntiad ar y campws a fydd yn ddigyswllt.
Fel arall, os ydych eisiau newid eich cyfrinair yn syml gallwch wneud hyn drwy ein porth MyUni ar y ddolen newid cyfrinair. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am newid eich cyfrinair ar y dudalen Newid eich cyfrinair ar ein tudalennau gwe Cymorth i Fyfyrwyr.
Gliniaduron a dyfeisiau
Mae'r Brifysgol yn argymell i chi gael eich dyfais eich hun gan y byddwch yn gwneud llawer o astudio annibynnol a fydd yn cynnwys chwilio ar-lein a defnyddio adnoddau digidol gwahanol. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn cynnwys gliniadur neu lechen sy'n hawdd i'w cludo ac y gellir eu defnyddio yn y Brifysgol ac adref. Mantais arall o gael dyfais eich hun yw y gallwch ei defnyddio i gael mynediad at adnoddau, gwaith cwrs ac aseiniadau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos o unrhyw le yn y byd ac nid oes rhaid i chi deithio i'r campws.
Isafswm manyleb
Os ydych yn ystyried prynu gliniadur neu gyfrifiadur newydd, mae'r Brifysgol yn argymell yr isafswm manyleb canlynol:
- Corei5 neu AMD Ryzen 5
- 8gb RAM a
- 256gb SSD.
Bydd y ddyfais hon yna'n para hyd ddiwedd eich astudiaeth gyda ni. Fodd bynnag, os ydych wedi cofrestru ar gwrs graffeg dwys, siaradwch â'ch Arweinwyr Rhaglen am gyngor ynglŷn â cherdyn graffeg.
SYLWER: nid yw rhai o'r llwyfannau yn gweithio cystal ar Chromebooks o'i gymharu â chaledwedd eraill
Eich cyfrifoldeb chi yw cadw eich gliniadur yn ddiogel ar y campws, ac rydym yn argymell eich bod yn cario'ch gliniadur gyda chi bob amser ac na ddylid ei adael heb oruchwyliaeth.
Ni fydd angen i chi brynu pecyn Microsoft Office gan fod modd i chi gael mynediad am ddim ato drwy eich cyfrif myfyriwr.
Labordai Mynediad Agored
Os nad oes gennych eich dyfais eich hun mae gan y Brifysgol Agored labordy mynediad agored yn adeilad Edward Llwyd sydd ar agor rhwng 8.30am a 6.00pm bob dydd. Gall yr amseroedd agor hyn newid wrth i'r flwyddyn academaidd fynd rhagddi.
Ffonau Symudol
Defnyddia myfyrwyr eu ffonau clyfar a llechi i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu, ac weithiau i gymryd rhan yn y wers drwy weithgareddau pleidleisio neu gwisiau.
Gallwch ddefnyddio eich dyfais symudol i gael mynediad at y VLE, eich e-bost myfyriwr, Cymorth i Fyfyrwyr a Microsoft Teams. Gallwch fewngofnodi i'r gwasanaethau hyn drwy borwr gwe, fel y byddech yn ei wneud ar liniadur neu fwrdd gwaith. Fodd bynnag, ar gyfer Teams mae ap y gallwch ei lawrlwytho hefyd.
Eich cyfrifoldeb chi yw cadw eich ffon yn ddiogel ar y campws.
Technolegau Cynorthwyol
Gall Technolegau Cynorthwyol addasu eich dyfeisiau a rhyngwynebau i wneud dysgu yn fwy cyfforddus i chi.
Bydd unrhyw anghenion cynorthwyol ac addasol sydd gennych yn cael eu diwallu gan y Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n darparu ystod o dechnolegau ac atebion. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Gwasanaethau Cynhwysiant.
Golyga Fframwaith Dysgu Actif WGU y dylai deunyddiau a gweithgareddau cwrs gael eu darparu mewn ystod o gyfryngau a fformatau. Yn dibynnu ar eich cwrs, gallech hefyd gael y cyfle i ddewis cynhyrchu gwaith a asesir mewn fformat sydd fwyaf cyfforddus i chi. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y Fframwaith Dysgu Actif yn y canllaw i fyfyrwyr.
Mae adnoddau cwrs ar gael yn ddigidol, ac mewn amrywiaeth o gyfryngau gwahanol, gan ei gwneud hi'n haws astudio mewn ffordd sy'n gweddu orau i chi. Ar y VLE, Moodle, mae gennym Anthology Ally hefyd, adnodd sy'n eich caniatáu i ddewis fformat amgen ar gyfer cael mynediad at ffeiliau sy'n cynnwys testun er enghraifft ffeil glywedol (MP3), neu braille electronig. Hefyd wedi'i fewnosod yn y VLE, mae Recite Me, bar offer sy'n eich caniatáu i wneud newidiadau i sut mae'r rhyngwyneb yn ymddangos, er enghraifft drwy addasu maint y ffont neu ddefnyddio bar uwch-oleuo neu adnodd chwyddo. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau cymorth Hygyrchedd Digidol.
Microsoft 365
Mae Prifysgol Wrecsam yn darparu mynediad at gyfres Microsoft Office 365 am ddim. Felly, nid oes angen i chi brynu Office cyn i chi ddechrau. Byddwch yn cael mynediad at y gyfres 365 ar-lein, sy'n cynnwys Microsoft Word, PowerPoint, Excel a Teams, ond byddwch hefyd yn gallu lawrlwytho fersiwn bwrdd gwaith ar hyd at 5 dyfais am ddim. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau cymorth Microsoft Office.