Student sitting outside wearing a suit

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

16 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Ein cwrs byr arweinwyr y dyfodol yw'r canllaw eithaf i arweinyddiaeth lwyddiannus, gan feithrin hyder a chryfhau'r sgiliau sydd eu hangen i arwain.

P'un a ydych chi'n dechrau yn eich gyrfa broffesiynol neu os ydych chi am ddatblygu yn eich safle, mae ein cwrs byr arweinwyr yn y dyfodol yn cynnig cipolwg amhrisiadwy ar sut mae arweinyddiaeth dda yn edrych ac yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich arddull arweinyddiaeth ac eich brand chi.

Prif nodweddion y cwrs

Bydd y cwrs yn seiliedig ar gysyniadau academaidd a phrofiadau personol i ystyried meysydd megis:

  • Diffinio arweinyddiaeth
  • Dulliau arwain
  • Cymhelliant
  • Rheoli perfformiad
  • Dirprwyo
  • Strwythurau mewn sefydliadau

Yn ogystal, bydd y cwrs yn annog ymgeiswyr i hunanadfyfyrio ar bynciau megis:

  • Gwytnwch
  • Brand personol
  • Dulliau cyfathrebu gwahanol
  • Y gallu i adfyfyrio ar ein gweithredoedd a’n profiadau ein hunain
  • Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r cwrs yn cael ei rannu'n 9 sesiwn wahanol, i gynnwys un sesiwn wedi'i hasesu. Mae'r deunyddiau'n cael eu cyflwyno mewn gweithdai rhithwir byw, gyda'r cyfle i astudio ymhellach ar ôl pob sesiwn.

1.    Sesiwn Ragarweiniol ac Arddulliau Arwain
2.    Athroniaethau a Chymhelliant Arweinyddiaeth
3.    Hyfforddiant
4.    Rheoli perfformiad a dylanwadu
5.    Strwythurau Sefydliadau a Llywodraethu
6.    Newid, Gwydnwch a CPD
7.    Asesiad Grŵp
8.    Ymarfer Myfyriol ac Arddulliau Cyfathrebu
9.    Brand Personol a Sesiwn Clo

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

 

Addysgu ac Asesu

Mae'r cwrs yn cynnwys 4 aseiniad wedi'u hasesu y mae'n rhaid eu cwblhau er mwyn derbyn y credydau ar gyfer y rhaglen. Mae'r rhain wedi'u dylunio i atgyfnerthu dysg a'ch helpu chi i ddatblygu fel unigolyn proffesiynol yn eich maes dewisol ac yn cynnwys

Ffioedd a chyllid

£150 ffi safonol / £100 ar gyfer staff Wrecsam.

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

I gael ei gadarnhau