(Cwrs Byr) Cwnsela Ar-lein a Dros y Ffôn
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Ers y pandemig COVID-19, mae Cwnsela a Seicotherapi wedi mynd trwy newidiadau mawr o ran y ffordd y mae ymarferwyr yn gweithio gyda chleientiaid a hefyd o ran goruchwylio, gan symud oddi wrth sesiynau a gâi eu cyflwyno’n bennaf wyneb yn wyneb at gynnig amrywiaeth o opsiynau ar-lein a dros y ffôn.
Mae’r cwrs Cwnsela ar-lein a dros y ffôn a gyflwynir ym Mhrifysgol Wrecsam yn anelu at roi dealltwriaeth ddamcaniaethol i’r cyfranogwyr o’r modd y gellir gweithio trwy gyfrwng y dulliau hyn, yn ogystal â chynnig y sgiliau ymarferol angenrheidiol.
Prif nodweddion y cwrs
- Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar ffurf dau fodiwl 20 credyd, ar lefel 6. Ceir 30 o oriau cyswllt gyda thiwtor ar gyfer pob modiwl, a chyflwynir y cyswllt hwnnw ar ffurf darlithoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb am 10 wythnos. Bydd y darlithoedd hynny’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau perthynol. Bydd y rhaglen yn cynnwys ymchwil gyfredol yn y maes hwn.
- Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn meddu ar y sgiliau a’r gallu angenrheidiol i weithio gyda chleientiaid, ar-lein a dros y ffôn. Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd wrthi’n ymarfer, pa un a ydynt yn hyfforddeion neu’n weithwyr proffesiynol cymwysedig.
Beth fyddwch chin ei astudio
Dros y 10 wythnos, byddwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
• Canfyddiadau Cwnselwyr/Cleientiaid o gwnsela ar-lein a dros y ffôn
• Theori cwnsela ar-lein/dros y ffôn.
• Contractio ac asesu
• Rheoli risgiau
• Cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol
• Cyfathrebu dieiriau
• Hunanofal i gwnselwyr
• Y Dechrau a’r Diwedd
• Goruchwylio
• Meddalwedd ar-lein
• Rhwydweithio cymdeithasol
• Cyfrinachedd/Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Gofynion mynediad a gwneud cais
Bydd y modiwlau hyn yn addas i Gwnselwyr cymwysedig sy’n awyddus i ddatblygu eu gallu i weithio gyda chleientiaid mewn dulliau ac eithrio dulliau wyneb yn wyneb.
Addysgu ac Asesu
Mae pob modiwl yn cynnwys 2 asesiad – un aseiniad ysgrifenedig 2500 o eiriau yn ymwneud â moeseg neu asesiadau wrth weithio ar-lein neu dros y ffôn; a hefyd darn myfyriol 500 o eiriau lle bydd angen i’r myfyrwyr sôn am eu profiadau o weithio ar-lein / dros y ffôn. Nodir y dyddiadau cyflwyno yn llawlyfrau’r modiwlau – maent wedi’u lanlwytho ar Moodle.
Ffioedd a chyllid
£295
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon
Dyddiadau'r cwrs
Dyddiad Cychwyn: Dydd Llun 20 Ionawr 2025
Am fanylion pellach, cofrestrwch eich diddordeb
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.