A counselling student smiles, her notebook open on her lap

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

2 BL (rhan-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Cydradd 1af yn y DU

ar gyfer rhagolygon graddedigion (tablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2022)*

10fed yn y DU

ar gyfer boddhad myfyrwyr (tablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2022)*

1af allan o brifysgolion Cymru

am yr addysgu ar fy nghwrs a boddhad cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*

Pam dewis y cwrs hwn?

Wrth i’r galw am gwnselwyr proffesiynol gynyddu, yn enwedig yn y sector preifat, mae’r Diploma mewn Cwnsela yn gyfle i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol drwy raglen o astudiaeth academaidd a thrwy brofiadau.

Mae ein cwrs cwnsela:

  • wedi'i anelu at ddarparu cymhwyster proffesiynol cyffredinol i chi mewn cwnsela
  • yn helpu unrhyw un sy'n gweithio mewn proffesiynau cysylltiedig drwy ychwanegu dealltwriaeth a sgiliau gwerthfawr
  • * yn rhan o faes pwnc sydd wedi'i rancio'n gyntaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr a'r cyntaf ar y cyd ar gyfer rhagolygon graddedigion, yn nhablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2022
  • yn eich paratoi i weithio gyda chleientiaid sy'n oedolion
  • yn cynnwys lleoliadau clinigol
  • wedi'i seilio ar y dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan eich galluogi i ddarparu perthnasoedd empathig, dilys a fydd yn datblygu rhyngweithio therapiwtig effeithiol
  • yn pwysleisio datblygiad personol, hunanymwybyddiaeth ac aeddfedrwydd seicolegol yr hyfforddai
  • yn datblygu'r gallu i ysgrifennu ac ymarfer yn fyfyriol, i gymhwyso theori yn ymarferol, i ddeall a chymhwyso egwyddorion moesegol yn eich gwaith, a phroffesiynoldeb yn ymarferol
  • Mae'n cynnig cymhareb tiwtor bach i fyfyrwyr sy'n cynnig amgylchedd dysgu mwy personol a chefnogol.
  • Wedi profi llwyddiant graddedigion o ran cyflawni gwaith cyflogedig neu ymarfer preifat.
  • *yn rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn safle 1af allan a brifysgolion Cymru am yr addysgu ar fy nghwrs a boddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

 

 

Group of students

Cwnsela ymMhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd y Diploma yn eich paratoi i weithio gyda chleientiaid sy’n oedolion.
  • Mae lleoliadau clinigol yn rhan bwysig o’r cwrs a rhaid eu cwblhau er mwyn cymhwyso ar gyfer y diploma llawn. 
  • Mae’r Diploma yn darparu 450 o oriau cyswllt wyneb yn wyneb tros 2 flynedd.
  • Mae'r holl staff addysgu yn gynghorwyr cymwys.
  • Bydd y flwyddyn gyntaf o astudio ynddi ei hun yn gyflwyniad i sgiliau cwnsela y gellir eu defnyddio o fewn rolau cynorthwyo eraill.  Mae gan unrhyw un nad ydynt yn ceisio hyfforddiant proffesiynol llawn mewn cwnsela gyfle i gael Tystysgrif Addysg Uwch a fydd hyn yn dangos eu gallu i gyfathrebu’n well ag eraill. Gall hyn fod o ddiddordeb i'r rhai sydd eisoes mewn proffesiynau cynorthwyo megis nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr, athrawon a gweithwyr proffesiynol gofal plant eraill fel rhan o'u gofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
  • *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn gyntaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ac yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon graddedigion yn nhablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2022.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae blwyddyn un yn cyflwyno'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn gwnselydd effeithiol. Mae'r modiwlau theori craidd yn cwmpasu datblygiad y dull cwnsela sy’n canolbwyntio ar unigolion, a'r amodau sy'n ofynnol yn ymarferol, yn bersonol, yn broffesiynol ac yn foesegol i roi'r rhain ar waith.

Nod y modiwlau sgiliau craidd neu'r modiwlau ymarfer yw eich galluogi i ddatblygu sgiliau cwnsela effeithiol a rhoi'r rhain ar waith gyda chyfoedion. Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi lefelau effeithiolrwydd eich gwaith eich hun a myfyrio ar gryfderau personol a meysydd i'w datblygu.

Modiwlau 

  • Sgiliau Cwnsela sy’n Canolbwyntio ar Unigolion (1)
  • Cyflwyno Theori Cwnsela sy’n Canolbwyntio ar Unigolion
  • Sgiliau Cwnsela sy’n Canolbwyntio ar Unigolion (2)
  • Theori Cwnsela sy’n Canolbwyntio ar Unigolion a Hunanddatblygiad
  • Sgiliau ar gyfer Lleoliad Cwnsela
  • Theori Cwnsela Cyfoes sy’n Canolbwyntio ar Unigolion.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Mae Blwyddyn 2 (lefel 5) yn adeiladu ar ac yn ehangu eich portffolio o sgiliau a gwybodaeth. Ym mlwyddyn 2 byddwch yn ymgymryd â lleoliad clinigol, gan roi eich sgiliau ar waith gyda chleientiaid mewn lleoliad asiantaeth. Ym mlwyddyn 2, yn ogystal â darlithoedd a seminarau/gweithdai, byddwch hefyd yn mynychu grwpiau datblygu/hunanofal personol er mwyn gwella eich hunanymwybyddiaeth.

Modiwlau 

  • Lleoliad Hyfforddai Cwnsela dan Oruchwyliaeth (1)
  • Deall Materion Cleientiaid mewn Ymarfer Cwnsela
  • Tystiolaethu Effeithiolrwydd Ymarfer Hyfforddai mewn Cwnsela
  • Ymarfer Hyfforddai Cwnsela dan Oruchwyliaeth (2)

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Fel rheol y disgwyliad yw cymwysterau ar lefel 3 (BTEC, Saron Uwch, Cwrs Mynediad, a chwblhau cwrs Cwnsela Lefel 3). Mae Prifysgol Wrecsam hefyd yn cynnig cwrs Cyflwyniad i Gwnsela Lefel 4 a all fod o ddiddordeb i chi.

Mae o fantais mewn cais os oes gennych brofiad perthnasol yn gweithio mewn rôl cynorthwyo – boed hynny’n waith cyflogedig neu wirfoddol.

Weithiau mae'n bosibl ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion arferol ar gyfer mynediad i raglen lefel gradd. Mae hyn yn achos pobl sydd yn gallu dangos profiad bywyd/gwaith ychwanegol a gallu i fynd i'r afael â heriau academaidd y rhaglen.

Gofyniad allweddol ar gyfer ymuno â’r cwrs yw’r aeddfedrwydd emosiynol a seicolegol i weithio gyda phobl mewn trallod seicolegol a’r gwydnwch i ymdopi â gofynion y gwaith yma.

Yn eich cais dylech nodi’n eglur eich rhesymau dros fod eisiau ymgymryd â’r rhaglen a’r hyn rydych yn credu yw’r cryfderau sydd gennych chi ar gyfer y rôl.

Mae lle ar y cwrs hwn yn amodol ar wiriadau iechyd galwedigaethol a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Gwahoddir pob ymgeisydd y mae eu ffurflenni'n awgrymu y gallent fod yn addas ar gyfer y rhaglen i sesiwn anffurfiol, gweithgaredd grŵp a chyfweliad unigol.

Addysgu ac Asesu

Asesir y cwrs mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gall yr asesiadau yma fod yn hunan asesu, asesu gan gyfoedion neu gan diwtor, ac maent yn cynnwys recordiadau a dadansoddiad o sesiynau cwnsela wedi'u trawsgrifio, ymarfer byw gyda chyfoedion (Triawdau), cyflwyniadau, theori a myfyrio, aseiniadau ysgrifenedig, astudiaethau achos a phortffolios o dystiolaeth. Mae adroddiadau goruchwylwyr clinigol ac adroddiadau lleoliad yn rhannau pwysig o'r broses asesu. Nid oes arholiadau.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae’r rhaglen o astudiaeth yn cynnwys un diwrnod llawn yr wythnos yn ystod y tymor. Hefyd mae angen i fyfyrwyr fedru ymgymryd â’r lleoliad o’u dewis ac fe all hyn ychwanegu hyd at ddiwrnod arall o ymrwymiad. Er mwyn ennill y 100 o oriau cyswllt gyda chleientiaid sydd yn ofynnol i gwblhau, mae’n bosib y bydd angen i rai myfyrwyr barhau gyda’u lleoliad wedi i agwedd addysgu'r rhaglen ddirwyn i ben.

Mae'r Diploma dros 2 flynedd yn cynnwys 450 awr o amser addysgu cyswllt. Mae'r addysgu yn cynnwys darlithoedd/seminarau, gweithdai sgiliau ymarferol, cyflwyniadau a deunydd clywedol, tasgau trwy brofiad a thasgau creadigol a lleoliadau clinigol.

Mae tîm y rhaglen yn darparu hwyluswyr grŵp ar gyfer datblygu personol ac mae pob un yn gynghorwyr/seicotherapydd profiadol a chymwys a chanddynt ddiddordeb arbennig mewn datblygiad personol a gwaith grŵp.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae cwnsela yn heriol, yn bersonol ac yn broffesiynol. 

Mae cwnselwyr yn aml yn dod o hyd i waith mewn sefydliadau elusennol, o fewn y GIG, megis mewn meddygfeydd meddygon teulu, mewn sefydliadau fel rhan o fentrau iechyd a lles ac mae rhai yn dewis gweithio mewn ymarfer preifat.  Mae ein graddedigion wedi cael gwaith mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, y GIG ac yn y sector elusennol ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Ble bynnag yr ydych yn eich gweld eich hun yn y dyfodol, os bydd yn golygu gweithio fel cwnselydd, mae angen hyfforddiant cadarn arnoch chi, ac mae'n fwyfwy tebygol y bydd hefyd angen cymhwyster cydnabyddedig o brifysgol.

Mae’n bosib y bydd y cwrs yma hefyd o ddiddordeb i’r bobl hynny sydd eisoes mewn proffesiwn cynorthwyo, megis nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr, athrawon, a gweithwyr proffesiynol gofal plant eraill fel rhan o’u gofynion Datblygu Proffesiynol Parhaus.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.