(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Bêl-Droed Cerdded
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
6 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Pêl-droed cerdded yw pêl-droed heb orfod rhedeg! Mae chwarae’r gêm ar gyflymder sydd mwy o fewn cyrraedd y chwaraewr yn dileu rhwystrau ac yn sicrhau bod rhagor yn gallu chwarae. Mae’r gamp ar gael i’r rheiny sydd am barhau i chwarae pêl-droed, ond a allai fod wedi cael eu gorfodi i roi’r gorau iddi oherwydd oed, anaf ac ati.
Mae poblogrwydd y math hwn o chwaraeon yn tyfu ac mae’r cwrs byr hwn yn rhoi arweiniad pellach i unigolion ar gynnal sesiynau pêl-droed cerdded ar gyfer grwpiau cymdeithasol amrywiol.
Prif nodweddion y cwrs
- Mewnwelediad unigryw i bêl-droed dan gerdded
- Gwella eich cymhwysedd eich hun
- Agwedd hyblyg at addysgu
- Astudio ar eich cyflymder eich hun
- Cwrs am ddim
Beth fyddwch chin ei astudio
- Wythnos 1:
• Cyflwyniad Cwrs
• Pwrpas a Manteision Pêl-droed dan Gerdded
• Rheolau a Rheoliadau - Wythnos 2:
• Gwahanol Grwpiau Poblogaeth
• Ymgysylltu â'r Gymuned - Wythnos 3:
• Peryglon Anafiadau
• Profion Sgrinio Anafiadau ac Ail-brofion - Wythnos 4:
• Dylunio Sesiwn
• Technegau Cynhesu ac Oeri - Wythnos 5:
• Allbwn Technegol a Thactegol
• Dadansoddiad o Ddangosyddion Perfformiad Gwahanol - Wythnos 6:
• Diwrnod Ymarferol
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ragofynion ar gyfer y cwrs hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.
Addysgu ac Asesu
Byddwch yn gallu cael mynediad at gynnwys cwrs ar-lein bob wythnos drwy ein rhith-amgylchedd dysgu, Moodle.
Portffolio:
- Bydd portffolio yn cynnig tystiolaeth o daith y myfyriwr ar y cwrs. O fewn y portffolio a adeiladwyd ymlaen llaw, bydd sawl taflen waith sy'n ymwneud â chynnwys sy'n ansyncronaidd â chynnwys ar-lein y modiwl. Bydd gofyn i'r myfyriwr gwblhau'r tasgau portffolio yn dyst o'u hymgysylltiad gyda'r modiwl.
Asesiad Llafar:
- Rhan 1: Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddylunio sesiwn bêl-droed dan gerdded, 45 munud o hyd, ar gyfer demograffig penodol o fewn cymdeithas. Bydd y sesiwn yn cynnwys yr adrannau canlynol: Cynhesu, Ymarfer Technegol, SSG ac Oeri
- Rhan 2: Bydd y myfyriwr yn cyflwyno/trafod y sesiwn gydag arweinydd y modiwl ac yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb, 10 munud o hyd, yn ymwneud â'r sesiwn.
Ffioedd a chyllid
Am ddim