(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Frandio
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
9 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sut i wella brand eich cwmni neu gynnyrch i'ch helpu chi i fod yn flaenllaw o ran busnes? Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i'r hanfodion ynglŷn â beth yw brand. Yn ogystal â rhoi cyfle i chi adeiladu strategaeth frand effeithiol ar gyfer eich cwmni neu fusnes eich hun.
Prif nodweddion y cwrs
- Bydd y cwrs ymarferol hwn yn rhoi'r fframwaith i chi ddechrau adeiladu brand trwy oleuo'r angen i gysylltu, gwahaniaethu a chanolbwyntio a chreu profiadau brand sy'n fwy meddyliol yn hytrach na gweledol yn unig.
- Byddwch yn dysgu cysyniadau sylfaenol brandio, ac yn deall hanfodion yr hyn sy'n gwneud brand llwyddiannus.
- Yn ystod y cwrs, cewch gyfle i lunio a datblygu eich strategaeth frand unigryw eich hun a fydd yn helpu'ch busnes i sefyll allan o'r gystadleuaeth.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i fynychwyr ddysgu am gysyniadau sylfaenol brandio. Bydd bob wythnos yn canolbwyntio ar agwedd ar ddatblygu brand ac ymholi, damcaniaeth marchnata a'r gallu i ddadansoddi, ac yn edrych ar bynciau megis:
- Cyflwyniad i frandio
- Meincnodi brand
- Canfyddiadau a dilysrwydd
- Uchelgais ac awydd
- Gwerthoedd brand
- Dadansoddiad cwsmeriaid
- Demograffeg a sefydlu ffyddlondeb brand
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Addysgu ac Asesu
Bydd y myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio o dasgau drwy gydol y cwrs, gan arwain at brosiect terfynol i'w gyflwyno i'r grŵp.
Dyddiadau'r cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.